|
Englynion Barddas 3 Yr 'Englyn drivers' yn gyrru mlaen
Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Englynion Barddas 3. Elwyn Edwards (gol.). Cyfres Llyfrynnau Barddas, 83tt., pris 拢5.
Yn y cyfnod cyn-Feechingaidd hwnnw pan freuddwydiai ambell grwt am ddilyn gyrfa fel gyrrwr injan-dr锚n, yr oedd yn fy nosbarth i yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman fachgen smala di-Gymraeg a fynnai o hyd mai uchelgais Dafydd ap Gwilym yn grwt oedd bod yn englyn driver.
Ni wn hyd y dydd heddiw sut y gwyddai Ian Davies am na Dafydd nac englynion, ond rhywsut yn ei ffraethineb cafodd afael ar rywbeth a fu'n uchelgais gan lawer o gynganeddwyr modern canmil salach na'r bardd o Fro Gynin.
Englyn drivers go iawn yw llawer o'r prydyddion y codwyd eu cerddi o'r cylchgrawn Barddas i'w cadw ar glawr mwy parhaol yn y gyfrol hon, y drydedd o'i bath.
Gan na cheir nodyn golygyddol iddi, nid oes modd dweud ar ba egwyddor y detholwyd hwy nac ar ba egwyddor y trefnwyd eu gosod fel a wnawd.
Ymarferiadau Y mae'n amlwg fod llawer o'r englynion yn ymarferiadau mewn ysgrifennu: onid 锚, pam yr holl gyfresi i adar ac anifeiliaid a blodau gan gynifer o'r awduron?
Prin i Hwn-a-Hwn gael ei ysbrydoli i ganu am gamel a llewpart a mwnci a chrocodeil, ac i Llall-ac-Arall gael ei ysbrydoli i ganu am dinwen y garn a dryw a thylluan ac yn y blaen.
Chwarae y mae'r prydyddion, pyncio er mwyn gwneud s诺n, cyflawni gwrhydri cynganeddol.
Yn yr un modd, prin fod yna reswm crefyddol na diwinyddol dros y nifer piwr o englynion sydd yn y gyfrol i eni Iesu Grist: ni ddywedir dim gwahanol, dim byd amgen, ynddynt.
Gan hynny, beth yw eu diben, ac eithrio unwaith yn rhagor fodloni rhyw uchelgais uwch y weilgi?
Wrth gwrs, fe gaiff darllenwyr wrth y dwsin fodd i fyw yn pori yma, ymarferwyr y glec yn ymhyfrydu yng ngweithiau ymarferwyr eraill, a da iawn hynny.
Gwir wefreiddiol Ar 么l imi ddweud mai ymarferion yw llawer iawn o'r rhain, noder bod gennyf dic mewn pensil wrth ddegau o'r englynion hyn, tic i f'atgoffa i fynd yn 么l atynt, am eu bod yn ffraeth neu'n fynegiant o wirionedd diymwad, neu am fod ynddynt linellau gwir wefreiddiol.
Un da oedd J. Arnold Jones, ynt锚? A Dic Goodman a Derwyn Jones. Am symlrwydd nid oes a gura Geraint Bowen, er cyn lleied o englynion sydd ganddo yma.
Am rythmau nid oes a gura T. Arfon Williams. Am ias, Gerallt Lloyd Owen amdani. 'Nid wyf' meddai 'ond ysbaid o w锚r'. Y mae'r llinell honno'n werth pumpunt ynddi'i hun.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|