|
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2008 Yr ifanc yn amharod i gystadlu
Adolygiad Kate Crockett o Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 . Golygydd: John Elwyn Hughes. Llys yr Eisteddfod Genedlaethol. 拢7.
Mae'n annheg efallai ar rai sy'n mentro ar gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol, yn unswydd er mwyn cael beirniadaeth yn achos ambell un, mai'r beirniadaethau mwyaf difyr yn y gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 yw'r rhai lleiaf adeiladol.
Dyma'r cyfan oedd gan Hywel Gwynfryn i'w ddweud am ymgais Merch Lleiniog ar gystadleuaeth Dyddiadur Dynes Dd诺ad:
"Nid dyddiadur a ysgrifennodd y cystadleuydd yma, chwaith, ond stori fer, am ferch ifanc yn cyfarfod dyn yn Oxfam sy'n mwynhau gwisgo dillad merched. Mae'n bur debyg y byddwn innau'n cael mwy o bleser o wneud hynny hefyd yn hytrach na darllen cyfraniad Merch Lleiniog i'r gystadleuaeth."
Bywyd eisteddfodol Brigyn ar g锚m ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae'n werth galw heibio'r maes carafannau:
"G锚m yn adlen y garaf谩n gyda photel o Medoc ar 么l darllen y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau efallai."
Wn i ddim a oedd y Prifardd wedi cael cip ar gynnwys y gyfrol eleni cyn iddo estyn am y botel win ond yn sicr gallwn gredu fod yna dipyn o feirniaid ac aelodau o'r Pwyllgor Ll锚n fymryn yn siomedig wrth grwydro'r maes yng Nghaerdydd eleni.
Ni fu cystadlu ar dair cystadleuaeth lenyddol, ac mae'n drawiadol mai cystadlaethau 芒 naws gyfoes oedd y tair ohonyn nhw: y Rap, y Blog, a'r E-bost at rywun yn y gwaith ac ymateb (yng nghategori'r dysgwyr).
Yn 么l tystiolaeth y Cyfansoddiadau, mae Cymry heddiw yn ei chael hi'n haws cyfansoddi englyn (47 ar y testun Sain Ffagan a 30 o englynion digrif) na llunio dyddiadur ar y we neu anfon neges at gydweithwyr.
Atal gwobrau
Cafodd y wobr ei hatal mewn sawl categori hefyd - a rhaid canmol y beirniaid hynny am geisio amddiffyn y safon.
Ond unwaith eto, mae yna naws gyfoes i nifer o'r cystadlaethau siomedig hyn - cerdd ar y testun Senedd; casgliad o l锚n micro; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth wahanol mewn amrywiaeth o gyfryngau e.e. llythyr, e-bost, neges destun; creu rhaglen 5-10 munud o hyd ar unrhyw fformat - er enghraifft ar ff么n symudol neu dvd.
Byddai rhywun wedi disgwyl y byddai testunau o'r fath yn apelio at bobl iau yn arbennig - a gwyddom o ddigwyddiadau fel Ymryson y Beirdd a'r Slam bod digonedd o bobl ifanc talentog yn llenydda yn Gymraeg.
Tybed felly pam nad oes mynd ar y cystadlaethau hyn?
Efallai nad yw gwobr o ychydig gannoedd o bunnau a chyhoeddi'ch enw yn y Cyfansoddiadau yn ddigon o abwyd. A hwyrach bod John Meurig Edwards a oedd yn fuddugol ar gyfansoddi wyth o dribannau Morgannwg (ymysg cystadlaethau eraill) wedi'i gweld hi:
I ddarpar lenor
Paid bradu'th ddawn lenyddol
Ar gylchgrawn neu ar gyfrol,
Cans mwy o gyfoeth gei o hyd
O goffre'r byd cyfryngol.
Yn siomedig
Ychydig yn siomedig yr oeddwn innau hefyd o ddarllen y gwaith buddugol mewn dau gategori - y gerdd ddychan a'r erthygl grafog.
Ychydig yn brin ar y dychan a dim digon crafog oedd y naill enillydd a'r llall at fy nant i, ond nid oedd mynd mawr ar y cystadlaethau hyn yn 么l tystiolaeth y beirniaid.
Does bosib nad ydyn ni Gymry'r unfed ganrif ar hugain mor gysurus ein byd ein bod yn ei chael hi'n anodd tynnu blewyn o drwyn y sefydliad?
Blwyddyn y bobl ifanc a'r menywod oedd hi yn y prif gystadlaethau llenyddol eleni, wrth gwrs, gyda Hywel Griffiths (25 oed) yn cipio'r Goron, Ifan Morgan Jones (24 oed) yn mynd 芒 Gwobr Goffa Daniel Owen, y Gadair i Hilma Ll Edwards, a Mererid Hopwood yn codi ar ei thraed yn y Pafiliwn am y trydydd tro, y tro hwn wrth gipio'r Fedal Ryddiaith.
Erbyn cyhoeddi'r Cyfansoddiadau, bydd enwau'r cystadleuwyr hyn yn gyfarwydd i'r Eisteddfodwyr a bydd rhai eisoes wedi cael cyfle i bori yn y cyfansoddiadau rhyddiaith buddugol.
Cyfrolau eraill Cyfansoddiadau felly'n gyfle i gael clywed am y cyfrolau eraill a ddaeth yn agos at y brig, a rhagflas efallai o ambell gyfrol a ddaw i'r golwg yn ystod y flwyddyn neu ddwy i ddod.
Mae hefyd yn gyfle i glywed am unrhyw anghytundeb ymhlith y beirniaid. Eleni cytunwyd mai Ifan Morgan Jones oedd yn teilyngu Gwobr Goffa Daniel Owen, ond er gwaethaf camp Mererid Hopwood gyda'i nofel O Ran, roedd un o feirniaid Y Fedal Ryddiaith, Aled Islwyn, am weld cyfrol Tan y Bwlch yn fuddugol.
Nofel am Afghanistan oedd y gyfrol hon, sydd yn 么l y beirniad hwn wedi cyflawni rhywbeth unigryw drwy gyfansoddi nofel Gymraeg heb unrhyw gyswllt Cymreig iddi.
Rydw i'n mawr obeithio y daw'r nofel hon i'r golwg cyn bo hir, yn ogystal 芒 dewis Emyr Lewis ar gyfer cystadleuaeth y Gadair, sef cyfres Kong o gerddi am Efrog Newydd.
Y ganmoliaeth uchaf Cyfansoddiadau eleni ar gyfer y gwaith a gipiodd Dlws y Cerddor i Eilir Owen Griffiths, gwaith sy'n "fywiog, lliwgar, byrlymus a chwareus" gan "gyfansoddwr sy'n meddu ar weledigaeth bendant, techneg gadarn, a phersonoliaeth gyfansoddi gwbl ddireidus."
Dyna ddisgrifiad i dynnu d诺r i'r dannedd ac un a wnaeth i mi ddymuno cael fersiwn o'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ar CD.
Pe bai mwy'n rhoi cynnig ar rai o'r cystadlaethau cyfoes eu naws a nodir uchod, hwyrach y byddai modd cynnwys y deunydd i gyd ar CD Rom neu dvd yn y dyfodol - fyddai hynny tybed yn annog cystadlu?
Y rhai anffodus Ond awn yn 么l cyn cloi at y cystadleuwyr anffodus hynny sydd wedi troi at y gyfrol hon, dim ond i weld lladd ar eu gwaith am restr hir o feiau: barddoniaeth ryddieithol, nofelau gwallus eu hiaith, a'r lliaws sy'n cystadlu bob blwyddyn heb gadw at reolau'r gystadleuaeth.
Mae'r geiriau olaf unwaith eto yn perthyn i'r Tribanwr buddugol, John Meurig Edwards:
I un uchelgeisiol
Cyn cerdded rhaid yw cropian,
Rhaid gwneud y pethe bychan;
Oni fu Ioan, hogyn twt,
Yn grwt i Reg a Megan?
Cysylltiadau Perthnasol
Eisteddfod 2008
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|