|
Y Dyn Handi Nofel gan gymeriad teledu
Adolygiad Glyn Jones o Y Dyn Handi gan Si么n White a Catrin Dafydd. Lolfa.拢6.95. Nofel wedi ei sgrifennu gan un o gymeriadau y gyfres deledu, Pobol y Cwm
Fe glywsom ni Gymry diwylliedig am nofelau'n cael eu troi yn rhaglenni teledu ers tro. Clywsom hefyd am weithiau llenyddol yn esgor ar waith llenyddol newydd.
Ond beth am gymeriad rhaglen deledu yn rhoi bod i nofel?
Gyda chyhoeddi Y Dyn Handigallwn frolio ein bod yn gwybod am hynny nawr. Trowch at glawr cefn y llyfr ac mi welwch am beth rwy'n s么n. Mae'r awdur yn cael ei ddisgrifio fel Si么n White, cyfieithydd o Gwmderi.
Bydd unrhyw un o selogion Pobl y Cwm yn gwybod fod y g诺r hwn wedi sgrifennu nofel.
Ond sut ymddangosodd y llyfr dychmygol hwnnw ar silffoedd ein siopau llyfrau?
Yr ateb yw dychymyg y llenor ifanc o Shir G芒r, Catrin Dafydd.
Cafodd ei nofel gyntaf, Pili Pala ei chanmol am ei gwreiddioldeb a'i huchelgais. Mae'r nodweddion hyn i'w gweld yn y syniad a gafodd ar gyfer ei hail nofel Gymraeg trwy iddi sgrifennu nofel Si么n White, go iawn, a'i rhoi gerbron darllenwyr Cymru.
Newydd Gellid dadlau fod y nofel yn cyflwyno genre newydd i lenyddiaeth Gymraeg, genre 'Ffuglen Cefnogwyr' fodern; 'Fan Fiction' yn yr iaith fain. Dyma ddiffiniad Rainbow Press o'r term:
"Ffuglen . . . wedi'i hysgrifennu gan gefnogwyr ac wedi ei seilio ar eu hoff raglenni teledu."
Mae'n amlwg fod Pobl y Cwm yn hoff raglen deledu i lawer! Dewisodd y Cyngor Llyfrau Y Dyn Handi yn nofel y mis ar gyfer mis Awst 2008 ac mae hi'n ail ar y rhestr o lyfrau a werthodd orau yng Ngorffennaf.
Roedd y disgwyliadau'n uchel. Ond a gawson nhw eu gwireddu?
Nid opera sebon Yn ddiddorol, nid opera sebon o nofel yw hon. Warren, y prif gymeriad sy'n hawlio'r llwyfan, ac o'i amgylch ef y mae'r naratif yn troi.
Mae tair prif elfen iddi.
Y gyntaf yw trionglau serch. Rhain sy'n rhoi'r elfen ddramatig i'r nofel. Rydym yn dal ein gwynt pan gaiff Warren ei hun yn sownd mewn cornel ac yn rhoi ochenaid o ryddhad wrth iddo lithro ohoni.
Gwaetha'r modd, credaf bod y trionglau hyn ychydig yn rhy niferus ac i'r awdur danseilio'r stori trwy eu cymryd yn rhy ysgafn ar adegau. Wedi'r cyfan, does dim yn ysgafn am serch!
Yr ail elfen storiol yw helyntion Cwmni Carcus Cyf a'r rhain sy'n dod 芒 gw锚n i'n hwynebau.
Ond eto, mae'r rhain hefyd yn tueddu i lithro i bwll y digwyddiadau stoc.
Mae gyrru i'r siop anifeiliad anwes i brynu ci sydd yr un fath a'r un a laddwyd gennych, heb yn wybod i'r perchenog, yn stori cyn hyned 芒 phechod!
Dwys Y drydedd elfen a'r fwyaf crefftus, efallai, yw'r golygfeydd dwys sydd ymhleth a'r rhai digri. Dyna'r benod gyntaf sy'n gorffen yn annisgwyl gydag atgofion yn dod i bryfocio Warren:
" . . . rhoddodd gusan cyflym i'r llun cyn ei wthio o dan y glustog arall. Cwrlodd yn belen, ei ddwylo brwnt yn cydio'n dynn yn y glustog, a chysgu."
Nid dyma'r Warren y darllenasom amdano yn Nh欧'n Graig ac mae'r awdur wedi mynd 芒 ni i mewn i'w feddwl. Nid ydym yn ei gollfarnu am fod yn hen gi. I'r gwrthwyneb, rydym yn cydymdeimlo ag o.
Y cymeriadu yw rhagoriaeth y nofel. Gallwn wneud llun meddyliol manwl o bron bob un a hynny oherwydd bod yr awdur, fel pob llenor gwerth ei halen, yn gadael i'r cymeriadau ddisgrifio eu hunain. Dim ond un math o berson a fyddai'n galw ei chi yn 'William Eithin' er enghraifft!
Cymraeg cyfoethog Rhaid canmol yr awdures hefyd am ei Chymraeg cyfoethog a naturiol a chredaf ei bod wedi dal tafodiaeth 'Cwmderi' yn well na sgwenwyr Pobl y Cwm ei hun hyd yn oed. Clywch y llinell hon.
" . . . a dyw e'r Doc ddim yn dod gatre tan marce naw unrhyw noson."
Dengys hefyd nad oes raid stwffio Saesneg a rhegi i gegau cymeriadau i'w gwneud yn werinol. Ei dull hi yw dangos y gwahaniaeth rhwng y dosbarthiadau mewn ffordd uniongyrchol. Dyna linell bryfoclyd Bev:
"Sdim ishe cymysgu gyda'r siort 'na. Y siort sy'n watsio Pobl y Cwm."
Mae'r sylw metaffuglenol hwn yn codi cwestiwn pwysig. Ai'r dosbarth canol Cymraeg sy'n gwylio operau sebon Cymraeg, tra bo'r rhai Saesneg yn cael eu gwylio gan y dosbarth gweithiol?
Os gwir hynny, fel y credaf ei fod, ni allaf beidio 芒 theimlo nad yw'r nofel yn gweddu i'r gynulleidfa a fyddai'n ei darllen.
Ymhellach, er nad wy'n un o selogion Pobl y Cwm, nid wy'n teimlo fod y nofel yn darllen fel un a sgrifennwyd gan S卯on White. A fydd eraill yn cytuno? Dim ond amser a ddengys.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Pobol y cwm
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|