Wythnos Llyfr yn Anrheg Perswadio pobl i brynu llyfrau i'w gilydd
Mae'r wythnos Gorffennaf 7 i 12, 2008 wedi ei dewis yn Wythnos Rhoi Llyfr yn Anrheg gyda phobl yn cael eu hannog i roi llyfrau'n anrhegion i'w gilydd.
Rhan yw hwn o weithgarwch Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru ac mae nifer o bobl amlwg yn actorion, awduron, darlledwyr, ysgolheigion ac yn y blaen wedi dweud beth fyddan nhw'n ei brynu yn anrheg i ffrind neu berthynas.
Y gwahoddiad yw i bawb wneud hyn yn ystod yr wythnos fel bod pobl ym mhob cwr o Gymru'n rhoi llyfrau'n anrhegion i'w teulu, eu ffrindiau a'u cydweithwyr yn ystod yr wythnos gyntaf o'i bath erioed yng Nghymru.
Mae gwefan arbennig wedi ei chreu ar gyfer yr wythnos lle mae nifer o enwogion yn datgelu beth fyddan nhw'n ei roi i bwy yn anrheg:
Iolo Williams am roi - yn naturiol! - Llyfr Natur Iolo i Jane Davidson AC.
Angharad Mair am roi llyfr newydd Caryl Parry Jones, Barti Smarti i'w dwy ferch Tanwen ac Efa.
M Wyn Thomas am roi Mr Cassini gan Lloyd Jones i'w ferch Elin Manahan Thomas.
Beti George am roi Paradwys gan William Owen Roberts i Gwyn Llewelyn
Prys Morgan am roi The Rebecca Rioter (1880) gan Amy Dillwyn ( i'w frawd, Rhodri, prif weinidog y Cynulliad Cenedlaethol.
A bydd Max Boyce yn derbyn Stephen Jones - O Clermont i Nantes gan Glan Davies.
"Beth am rannu'r pleser a gewch wrth ddarllen yr haf yma? Dyna nod Wythnos Llyfr Yn Anrheg y Flwyddyn Darllen Genedlaethol," meddai Cyngor Llyfrau Cymru.
Ac y mae croeso ichi anfon eich awgrymiadau chi am lyfrau gwerth eu rhoi - neu eu cael - yn anrheg i'r wefan hon gydag ychydig frawddegau yn dweud beth sy'n gwneud y llyfrau hynny mor atyniadol.