|
Hi Oedd fy Ffrind Reid go arw
Adolygiad Carys Mair Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Y Lolfa. 拢7.95.
'Hi Oedd fy ffrind' yw'r dilyniant hir ddisgwyliedig i 'Hi yw fy Ffrind'.
Unwaith y sylweddolais fod Y Lolfa wedi'i chyhoeddi rhuthrais i'm siop lyfrau leol a'i bachu oddi ar y silff.
Roeddwn braidd yn siomedig i'r nofel gymryd cyn hired i'w chyhoeddi ond, bois bach, ar 么l ei darllen nid oes dwywaith amdani iddi fod werth yr holl aros!
Rhaid darllen y gyntaf Un gair o rybudd - yn fy marn i mae'n rhaid darllen Hi yw fy Ffrind cyn darllen y nofel hon gan fod cymaint o gyfeirio'n 么l at honno ac at ddigwyddiadau yn yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd a gwyliau ysgol a ddigwyddodd yn y nofel gyntaf.
Mae'n wir, na fuaswn ar goll o ddarllen y dilyniant heb fod wedi darllen y nofel gyntaf ond 'roeddwn yn falch ofnadwy imi wneud hynny gan fod hynny'n rhoi gwell syniad o bethau a mwy o arwyddoc芒d i ddigwyddiadau - heb s么n am gefndir y cymeriadau a'r rhesymau dros eu hemosiynau.
Yn dilyn diweddglo penagored Hi yw fy Ffrind 'roeddwn ar bigau'r drain i ddarganfod beth ddigwyddai nesaf gan ddisgwyl nofel yn llawn tensiynau, drama, cariad, casineb a merched gwyllt, nwydus yn meddwi. Ni chefais fy siomi!
Stori bwerus Diwedd y Chwedegau a dechrau'r Saithdegau yw'r cyfnod a'r testun yw corwynt bywydau dwy ferch ifanc, Non a Nia, y chwalwyd eu cyfeillgarwch ar ddiwedd y nofel gyntaf.
Mae'r merched yn gosod eu holl deimladau gerbron y darllenwyr yn Hi Oedd fy Ffrind.
Mae'n stori bwerus a wnaeth imi grio mewn mannau a chwerthin mewn mannau eraill.
Mae'r plot yn un cymhleth iawn ond yn aros yng nghof y darllenydd ymhell ar 么l gorffen darllen.
Mae'n creu cylchoedd yn y meddwl ac yn datblygu'n gyflym gan gyrraedd uchafbwyntiau chwerw.
Ond yn anffodus, mae Hi Oedd fy Ffrind hefyd yn gorffen 芒 diweddglo yr un mor benagored a'i rhagflaenydd.
Fy nghwestiwn mwyaf yw Beth sydd wedi digwydd i Nia? gan fawr obeithio y bydd Bethan Gwanas yn mynd ati i greu campwaith arall o drydedd nofel.
Aberystwyth yn plesio Er nad yw cefndir diwedd y Chwechdegau a dechrau'r Saithdegau yn un hawdd i ferched ifainc heddiw uniaethu ag ef mae'r plot yn bendant yn darlunio bywydau i'r dim dros 254 o dudalennau.
Cefais fodd i fyw wrth ddarllen yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r golygfeydd yn fy nhref i, Aberystwyth.
Ac wrth ddarllen am Nia yn eistedd yn y Coops yn magu peint, neu'n rhedeg i lawr Gallt Penglais mewn ymgais i godi lefel ei ffitrwydd, deuai'r golygfeydd yn fyw o flaen fy llygaid.
Bydd unrhyw un sy'n byw yn Aberystwyth a'r cyffiniau yn cytuno'n llwyr 芒 mi.
Mwynhau hon fwy Cawn y stori o safbwynt Non a Nia - o gymharu 芒 Non yn unig yn Hi yw fy Ffrind - ac mae'n rhaid dweud imi fwynhau'r stori'n fwy drwy lygaid Nia oherwydd taw hi yw fy hoff gymeriad er nad hi yw'r cymeriad mwyaf egwyddorol.
A dweud y gwir, nid oes egwyddorion yn perthyn i'w henw o gwbwl!
Ond er nad yw y fwyaf sensitif, y fwyaf triw na'r fwyaf moesol mae yna sbarc yn perthyn iddi a'r sbarc hwn sydd yn ei gwneud yn gymeriad hoffus er gwaethaf ei holl ddrwgweithredoedd fel cysgu 芒 chariad ei ffrind gorau, fflyrtio 芒'i hathro yn y coleg, dwyn nwyddau o'i gwaith, dweud celwydd wrth y Llywodraeth er mwyn cael rhagor o arian, chwalu perthynas dau gariad a oedd wedi dywedd茂o, galw'i ffrindiau coleg yn bob enw dan haul a chysgu 芒 llwythi o ddynion eraill tra'i bod mewn perthynas . . . dim ond i enwi rhai pethau!!!
Ond wedi pwyso a mesur - dro ar 么l tro - fe dd锚s i'r casgliad y buaswn yn hoffi cael ffrind fel Nia oherwydd ei bod hi'n gallu codi calonnau yn yr oriau tywyllaf a'i bod yn gwmpeini arbennig - jest i mi ofalu ei chadw hyd braich o'm sboner!!!!
Rhegfeydd a rhyw Ni fuaswn yn argymell y nofel i rai o dan 12 oed oherwydd ei chynnwys a'i hiaith. Mae llawer o regfeydd ac fe ddisgrifir golygfeydd caru yn fanwl iawn!
Dwi hefyd yn meddwl y caiff merched fwy o bleser o'i darllen na bechgyn o gofio taw o safbwynt menywod ifainc y cawn y stori.
Felly, ar fy ngwir, darllenwch Hi yw fy Ffrind a Hi Oedd fy Ffrind gan fawr obeithio bod dilyniant arall ar y gweill.
Mae clawr y ddwy nofel yn atyniadol iawn - yn enwedig yr ail gan taw'r prom yn Aberystwyth sydd arni.
Ond nid dan hud y cloriau y deuthum ond dan hud dawn brin Bethan Gwanas.
Talwch eich 拢7.95 a pharatoi eich hun am reid go arw!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Diwrnod cyhoeddi'r nofel
Adolygiad Lowri Rees
Holi Bethan Gwanas
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|