Adolygiad o Cerddi Bryan Martin Davies (Barddas, 2003, 拢13.00, tt 228).gan Grahame Davies.
C芒i rhywun yr argraff gyda rhai beirdd mai ysgrifennu er mwyn gwneud argraff ar y beirniaid y maent, au harddull yn llawn triciau arwynebol heb fod unrhyw reidrwydd mewnol yn cymell y cyfan.
Nid felly gyda Bryan Martin Davies. Nid rhyw ymarfer llenyddol-academaidd mo barddoniaeth iddo ef, ond rhywbeth sy'n codi o argyfwng dirfodol, poenus o real, ac o amgylchiadau personol dirdynnol.
Fel bardd, bu fwy neu lai'n fud am y pymtheg mlynedd diwethaf - cyfnod a fu'n cydfynd gyda salwch ei wraig, Gwenda, a fu'n dioddef o multiple sclerosis ac a fu farw ym 1996.
Trueni fyddai pe bai'r tawedogrwydd diweddar hwn yn golygu bod darllenwyr y presennol yn colli cysylltiad gyda bardd sydd ymysg y mwyaf yng Nghymru yn ail hanner yr Ugeinfed ganrif.
Dyna felly pam mae'r gyfrol hon yn un i'w chroesawu. Ac yntau'n dathlu oed yr addewid eleni, dyma, am y tro cyntaf, holl gerddi'r bardd o Frynaman rhwng dau glawr. Cofnod teilwng o fardd sylweddol iawn.
Daeth Bryan Martin Davies i sylw gyntaf oll pan enillodd y goron ym mhrifwyl ei fro enedigol yn 1970 gyda dilyniant nodedig 'Darluniau ar Gynfas', a oedd yn bortread byw o gymeriad diwydiannol yr ardal.
Daeth i'r brig yn Eisteddfod Pantyfedwen y flwyddyn honno hefyd, gyda chyfres ar bwnc tebyg. A'r flwyddyn ganlynol fe enillodd ail goron ym Mhrifwyl Bangor gyda dilyniant nodedig arall, 'Y Golau Caeth', lle defnyddiwyd delweddau o'n ll锚n cynnar i oleuo ein dealltwriaeth o'r natur ddynol.
Ceir cynnyrch y tair eisteddfod honno yn y gyfrol hon, yn gyfnod o ferw creadigrwydd y bardd yn y saithdegau cynnar.
Erbyn ei drydedd gyfrol, 'Deuoliaethau', ymddangos yn 1976, roedd y bardd wedi symud i ardal y Clawdd, sef Rhiwabon a Wrecsam, lle bu'n athro Cymraeg. Yn raddol, daw cefndir yr ardal ffiniol honno i'w gerddi.
Yn 'Lleoedd', o 1984, gwelir ffrwyth rhai o deithiau'r bardd i leoliadau gan gynnwys dwyrain Ewrop, a gwelir nifer o gerddi er cof am gydnabod a oedd wedi ein gadael.
Ei gyfrol ddiweddaraf hyd yn hyn oedd 'Pan Oedd y Nos yn Wenfflam', a ymddangosodd yn 1988. Erbyn hynny, roedd cysgod salwch personol a theuluol yn drwm iawn ar ei waith.
Gogoniant y gyfrol ddiweddaraf hon yw'r ffordd yr ymatebodd y bardd i'r her dywyll honno, sef canfod yng ngwreiddiau bro ddiwydiannol ei febyd, ac yn y Gristnogaeth a fu fel haen werthfawr o ysbrydoliaeth dan wyneb y gymdogaeth, y gobaith a'r hyder i ymladd yn 么l.
Yn fy marn i, mae Ymson Trisco, prif gerdd y gyfrol honno, yn un o gynyrchiadau cryfaf a mwyaf arwyddocaol barddoniaeth Gymraeg y chwarter canrif ddiwethaf. Mae'n werth prynu'r gyfrol hon yn unig er mwyn ei darllen.
Mae 'Cerddi Bryan Martin Davies' yn cloi gyda'r unig ddwy gerdd sydd wedi ymddangos o'i law ers 'Pan Oedd y Nos yn Wenfflam'. Dwy gerdd er cof am ei wraig ydynt a rhai effeithiol a grymus iawn ydynt hefyd.
Mae'r gyfrol hon yn un ingol, ddirdynnol, a real, ac yn deilwng o waith un o'n beirdd modern pwysicaf.