| |
|
|
|
|
|
|
|
Croeso amodol i Eryri Nid cywydd croeso yn y dull arferol a gyfansoddwyd gan Gerallt Lloyd Owen ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Eryri y flwyddyn nesaf.
Mae'r cywydd mor rymus a chignoeth ag unrhyw beth a gyfansoddwyd gan y bardd gwladgarol hwn ac yn ddrych o'i bryder am enbydrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn yr ardal.
Wrth gwrs, ni ddylai neb fod wedi disgwyl cywydd traddodiadol yn canmol tirwedd ac enwogion bro gan awdur Cerddi'r Cywilydd ac awdl Cilmeri a bardd sydd wedi ysgwyd y genedl o'r blaen gyda grymuster herfeiddiol ei waith gan serio ar lenyddiaeth Gymraeg linellau fel, "Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn".
Wrth gyhoeddi'r cywydd dywedodd yr Eisteddfod ei hun:"Go brin y clywyd neges mwy amserol mewn urhyw gywydd croeso ag a wneir yn Seremoni Cyhoeddi Prifwyl 2005 yng Nghaernarfon ar Mehefin 26."
Yn y seremoni honno bydd y cywydd yn cael ei ganu gan Sian Eirian i gyfeiliant Gwenan Gibbard.
Dyma'r cywydd: Mae gwledd o groeso heddiw ond croeso dan amod yw: croeso bro sy'n mynd am bris, croeso dan forthwyl creisis. Wrth yr awr syrth Eryri, wrth yr awr y'i gwerthir hi.
Ofer yw cynnal prifwyl, ofer dal i gynnal gwyl o gerdd a chyngerdd a ch芒n tra'r llif yn bwyta'r llwyfan. Ofer yw rhygnu hefyd am hil sydd yma o hyd.
Nid un Awst yw ein hystyr nid yw bod am ddathliad byr yn Gymry, Cymry i'r carn, namyn tafod mewn tafarn. Byw brwydr bob awr ydyw brwydr fawr ein bryd ar fyw.
Rhaid i wyl ysbrydoli a thynhau'n gwarchodaeth ni wrth rwymau'r oesau a aeth yn Eryri'n harwriaeth. Hyn yw her ein hamser ni, hyn yw'r her yn Eryri.
Mae gwledd o groeso heddiw ond croeso dan amod yw: amod ein bod, bedwar ban, yn rhwystro llifio'r llwyfan. Da chi dewch, ac wedi'ch dod Ewch ymaith dan eich amod.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|