|
Blwyddyn Darllen 2008 Chwilio am 2,008 o ddigwyddiadau
Nid pawb sy'n cofio mai Blwyddyn Darllen Genedlaethol 1998 - 1999 roddodd fod i Ddiwrnod y Llyfr yng Nghymru.
Bu'r flwyddyn honno o dan arweiniad Rhiannon Lloyd sy'n awr yn bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn fodd i gynnal pob math o weithgaredd asr hyd a lled Cymru.
Un o brif argymhellion adroddiad ar y flwyddyn honno oedd y dylid parhau i gynnal Diwrnod y Llyfr ac adeiladu ar ei lwyddiant.
Mae'n ddiddorol iawn, felly, mai Diwrnod y Llyfr yw man cychwyn Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008.
Blwyddyn sydd 芒'i her ei hun i bobl gynnal 2,008 o weithgareddau yngl欧n 芒 llyfrau.
Pleserau darllen Fel y Diwrnod ei hun, bydd y Flwyddyn hefyd yn canolbwyntio ar greu partneriaethau a cheisio cyfleu'r neges am bwysigrwydd darllen a'r pleser a geir o lyfrau.
Yn dilyn llwyddiant y Flwyddyn Darllen gyntaf, gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i'r Cyngor Llyfrau gydlynu'r gwaith unwaith yn rhagor.
Bu cyfarfodydd yn barod gyda nifer o bartneriaid a chr毛wyd
dros dro i ddisgwyl gwefan derfynol.
Gwahoddwyd pob awdurdod lleol i enwebu cydlynydd er mwyn sicrhau cydweithio ar draws sectorau addysg a llyfrgell, ac er mwyn tynnu cymaint o gymdeithasau lleol 芒 phosib i mewn i'r gweithgareddau o fewn y siroedd.
Tri chynllun Hefyd, bydd y Cyngor Llyfrau yn trefnu tri phrif brosiect yn ystod y Flwyddyn: Ymgyrch ddechrau'r haf i annog pobl i roi llyfrau'n anrhegion i'w gilydd.
Yn yr hydref bydd ymgyrch Cymunedau'n Darllen a fu'n llwyddiannus mewn dinasoedd yn Lloegr a'r Unol Daleithiau gyda chyfle i gymunedau greu wythnosau o weithgareddau amrywiol yn seiliedig ar lyfrau.
Gall y rhain gynnwys sesiynau gan awduron, cwisiau tafarn, darlleniadau, cystadlaethau yn y wasg leol, cyfle i bleidleisio dros hoff lyfrau'r gymuned ac yn bwysicach, bydd cyfle i ddarllen y llyfrau a ddaw i'r brig o fewn y gymuned.
Bydd cyfle hefyd i ardaloedd eraill yng Nghymru gysgodi'r gweithgareddau a rhoi sylw pellach i'r llyfrau hynny a'u hawduron.
Ymgyrch ar gyfer plant a phobl ifanc fydd y drydedd gyda gweithgaredd a fydd yn cysylltu 芒'r byd chwaraeon ond a fydd hefyd yn profi iddynt fod darllen yr un mor c诺l 芒 chwarae ph锚l-droed neu rygbi!
Miliwn o eiriau Wrth gwrs, bydd cyfle i hybu'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol drwy'r llu o weithgareddau sydd eisoes yn cael eu trefnu gan y sector blynyddoedd cynnar, ysgolion, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, ac ymgyrchoedd fel Darllenwch Filiwn o Eiriau a drefnir gan Sgiliau Sylfaenol Cymru.
Bydd y prif wyliau cenedlaethol hefyd yn cynnig cyfle pellach i roi sylw i'r Flwyddyn ac annog Cymru gyfan i ymuno 芒 hi.
Caiff y Flwyddyn ei lansio'n swyddogol gan Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, fore Iau, 13 Mawrth 2008 yn y Senedd.
Yr her Yn ystod y lansiad bydd y Gweinidog yn cyflwyno rhai o'r 8,000 o lyfrau a roddir yn anrhegion i garchardai, ysbytai, cartrefi henoed, canolfannau dydd ac ati. ar draws Cymru.
Er y bydd y lansiad ei hun yn y brifddinas bydd y llyfrau'n cyrraedd pob rhan o Gymru trwy gydweithrediad 22 o awdurdod llyfrgell.
Bydd Jane Hutt hefyd yn herio'r genedl i gynnal 2,008 o ddigwyddiadau hybu llyfrau a darllen yn ystod y Flwyddyn . . .
Cysylltiadau Perthnasol
Diwrnod y Llyfr
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|