| |
|
|
|
|
|
|
|
Lladdwr a Casglwr Dwy nofel gan Llion Iwan
Adolygiad Carys Mair Davies o Lladdwr a Casglwr gan Llion Iwan.
"Mae'r Lladdwr ar dy 么l a wnaiff o ddim, wnaiff o byth bythoedd stopio .
Os ydi o'n llwyddo dy ddal mi wnaiff dy ladd. Os wyt am fyw, rhed."
Hoeliodd y frawddeg hon fy sylw o'r munud cyntaf. Brawddeg iasoer, brawddeg rybuddiol, brawddeg sy'n addo mwy - a'r frawddeg sydd ar glawr y llyfr ac sy'n cael ei hailadrodd nifer o weithiau gydol y stori.
Prif gymeriad y stori yw Dafydd Smith sydd, ar 么l i'w yrfa addawol fel p锚l-droediwr yn dod i ben wedi iddoanafu ei goes, yn dychwelyd i'w gartref yn y Drenewydd i weithio ar y papur newydd lleol.
Mae pethau'n cyffroi pan dderbyn alwad ff么n ddienw yn ei hysbysu am lofruddiaeth Gladys Morse a Dafydd yn teimlo mwy o gyffro yn ei fol wrth ddilyn y stori nac a brofodd erioed at y cae p锚l-droed yn gwisgo crys Arsenal.
Mae ei hen gyfaill, Ifan, yn blismon sydd hefyd yn ymchwilio i farwolaeth amheus Gladys Morse.
Mae'r dirgelwch yn dwysau pan gaiff Dafydd amlen gyfrinachol y mae ei chynnwys yn ddigon i godi'r nyth cacwn rhyfeddaf yn y byd gwleidyddol a newid hanes y byd am byth.
Yn dilyn marwolaeth un o'i ffrindiau nid yn unig y mae bywyd Dafydd ei hun mewn perygl a rhywun am ei ladd ond caiff ei arestio hefyd ar gam amheuaeth o lofruddio.
Roeddwn ar bigau'r drain wrth ddarllen am Dafydd yn ffoi drwy'r goedwig, a'r cwestiwn mawr oedd pa un o'i erlidwyr oedd yn mynd i'w ddal yn gyntaf? Y Cyrnol, yr heddlu neu'r Lladdwr?
Mae hon yn stori llawn tensiwn yn symud yn gyflym rhwng Canolbarth Cymru a choridorau grym Llundain ac unwaith yr agorwch chi'r llyfr ni fyddwch yn gallu ei roi i lawr. Nid oes geiriau i ddisgrifio'r tensiwn annioddefol sydd yn y stori hon.
Cymeradwyaf Lladdwr i unrhyw un ac er nad yw'r clawr yn hynod o apelgar mae gan Llion Iwan ddawn benigamp i ysgrifennu straeon anghredadwy.
Casglwr
"Mae rhywun yn hela dynion yn y dyffryn ....."
Mae'r dilyniant hwn i Lladdwr hyd yn oed yn well na'r gwreiddiol.
Dafydd Smith yw'r prif gymeriad eto - a phethau'n edrych yn go ddu arno gyda'i fos ar y papur lleol yn ei gas谩u. Mae hefyd mewn dyled, ar fin colli ei swydd a'i gariad ac yn yfed gormod.
Yna, daw ar draws stori frawychus am farwolaeth sinistr ac wrth i Dafydd a'i gydweithwraig, Elen, ddilyn y trywydd maent yn baglu ar draws cysylltiadau 芒 marwolaethau yn y gorffennol.
Mae hyn yn ffyrnigo'r Casglwr sy'n ofni y bydd yn cael ei ddatgelu ac yntau wedi dianc o grafangau'r heddlu dros y blynyddoedd.
Mae Dafydd yn peryglu ei fywyd ei hun a bywydau eu gydweithwyr wrth ddilyn trywydd ac y mae sawl digwyddiad dramatig.
Dyma nofel sy'n haeddu sylw pawb gyda'i hud a'i chrefft hynod sydd fel naddu darn o bren yn gain. Mae Llion Iwan wedi rhagori ar ein disgwyliadau a buaswn yn cymell Casglwr i unrhyw un o unrhyw oed.
Mae Llion Iwan yn meddu ar dalent brin iawn ac rwy'n edrych ymlaen i ddarllen rhagor o'i waith - dwi'n siwr na chaf fy siomi!
Felly, erfyniaf ar bawb i ddarllen Casglwr. Efallai nad yw'r clawr yn edrych yn hynod o apelgar ond mae'n tynnu'r llygaid anoddaf i'w plesio. Darllenwch anturiaethau Dafydd Smith da chi.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall o Lladdwr
Adolygiad arall o Casglwr
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|