|
Nabod M么n gan Dewi Jones a Glyndwr Thomas Trysorfa o wybodaeth - ond heb fynegai na map
Nabod M么n. Golygyddion: Dewi Jones a Glyndwr Thomas. Gwasg Carreg Gwalch. 拢12.00. Adolygiad gan Glyn Evans.
Trueni mai'r cymhwyster ar gyfer cyfrannu i'r gyfrol hon oedd bod un ai'n athro neu'n addysgwr.
Felly mae'n ymddangos, beth bynnag, gyda'r rhan fwyaf os nad pob un o'r cyfranwyr 芒 chysylltiad 芒 byd addysg
O'r herwydd collwyd y cyfle i gael cyfraniad gan nifer o sgrifenwyr difyr a ffraeth eraill o'r ynys. Mae rhywun yn meddwl yn syth am rai fel Vaughan Hughes, Hywel Gwynfryn, Gwyn Llewelyn a Gwilym Owen - ond nid pobl y cyfryngau yn unig gan y byddai yr un mor unllygeidiog mynd ar 么l dim ond y rheini hefyd; ond y mae'r rhai a enwyd wedi profi eu hunain yn sgrifenwyr difyr a phryfoclyd.
Allwch chi ddim dweud hynny am bob un o gyfranwyr Nabod M么n a gwelwn nad ydi bod yn athro ddim bob amser yn gwneud rhywun y sgwennwr gorau na'r gorau ychwaith am drosglwyddo gwybodaeth mewn ffordd ddifyr.
Mae'r syniad o lyfr fel Nabod M么n, fodd bynnag, i'w groesawu a'i gymeradwyo a fyddai ddim gwahaniaeth gan rywun weld cyfrolau tebyg am siroedd eraill - ond gyda gwell amrywiaeth o gyfranwyr.
Yr hyn a gawn yn y gyfrol yw 56 o erthyglau am wahanol ardaloedd ym M么n y rhan fwyaf yn rhai disgrifiadol pur gyda'r awdur yn ein llythrennol dywys gam wrth gam o gwmpas yr ardal gan nodi gwahanol hynodion.
Un o fanteision y dull hwnnw yw ei fod yn gwneud inni sylweddoli pa mor ddall ydym ni 'deithwyr talog' cyffredin i hynodion a hanes lleoedd wrth dramwyo.
Trysorfa o wybodaeth Mae yma drysorfa o wybodaeth gyda'r pwysig a'r dibwys ddifyr yn cael eu lle.
Mae yma ddewis helaeth o luniau hefyd ond y rheini, er hwylustod argraffu, wedi eu casglu at ei gilydd yng nghanol y gyfrol yn hytrach na'u gosod gyda'r erthyglau perthnasol.
Dod i adnabod Dywed y golygyddion mai'r bwriad yw "rhoi'r cyfle i'n cyd-ynyswyr a'n cyd-Gymry i ddod i adnabod yr ynys ac i gymryd diddordeb yn ei hynt a'i helynt ar hyd y cenedlaethau."
Eglurir mai cyhoeddi cyfrol o rhyw 30,000 o eiriau oedd y bwriad gwreiddiol ond i'r rhan fwyaf o'r cyfranwyr fynd dros ben llestri gyda'u cyfraniadau gan beri esgor ar fabi o gan mil o eiriau ac yn agos i bum can tudalen.
Mae'r wasg i'w chanmol am gadw'r pris mor rhesymol 芒 拢12.
Mae'r gyfrol yn cychwyn gyda Chywydd Molawd i F么n ond nid yr un y byddem yn ei ddisgwyl gan yr enwocaf o feirdd y Sir Goronwy Owen ond gan y bardd cyfoes, Machraeth.Ynys wen fy nadeni Orau Fam a garaf i, Fy M么n a'th dirion dirwedd, Fy M么n lle bydd man fy medd;
Dilynir y cywydd gan gadwyn digon adnabyddus o englynion gan y Prifardd William Morris nid un o wyr mawr yr ynys trwy enedigaeth ond un a fu'n weinidog yno: Goror deg ar war y don hafan gynt A fu'n gaer i'w glewion. Nawdd roddes i dderwyddon, Mae eu llwch yn heddwch hon.
ac yn y blaen.
I orffen yr agorawd mae cerdd Elis Aethwy Jones yn cynnwys enwau holl lannau'r ynys memonig digon hwylus i'r sawl a'i myn.
Cychwynnir wedyn ar y stwff go iawn gyda'r cyfraniadau ar blwyfi'r Ynys a'u hanes gan amrywiaeth o awduron yn cynnwys yr awdur nofelau hanes R. Cyril Hughes sydd, yn naturiol, yn sgrifennu am Benmynydd.
Henffych F么n Dim ond fel agoriad i erthygl Dewi Jones am Fro Goronwy, y mae llinellau enwocach fyth Goronwy Owen, Henffych well, F么n, dirion dir, Hyfrydwch pob rhyw frodir, Goludog, ac ail Eden yn cael eu dyfynnu tra byddai rhywun wedi disgwyl gweld y cywydd cyfan yn gychwyn naturiol i'r detholiad.
Ar goll Ta beth am hynny, mae yma ddigon o ddarllen difyr - ond rhai pethau y byddai rhywun wedi eu hystyried yn anhepgor ar goll.
Gwelir eisiau map gweddol fanwl o'r ynys - yn sicr mae angen mwy na'r map o hen gantrefi a chymydau'r ynys .
Ond bai mwyaf y gyfrol yw nad oes iddi fynegai o fath yn y byd. Nid y fi fyddai'r unig un i ddadlau fod hynny gystal a bod yn drosedd yn erbyn darllenwyr mewn cyfrol o'r natur yma.
Os digwydd rhywdro y bydd Nabod M么n yn cael ei ail argraffu a wela i ddim rheswm pam na ddylai hynny ddigwydd gan ei fod yn llyfr a ddylai fod ar bob sill lyfrau Gymraeg ar yr ynys - dylid trefnu fod mynegai yn cael ei gynnwys. Nid yw ei hepgor ond yn arwydd o olygyddion yn osgoi eu dyletswydd.
A tra bo nhw wrthi byddai byddai croeso i frawddeg am bob un o'r cyfranwyr hefyd. Unai yng nghefn y gyfrol neu wrth droed eu cyfraniad.
Cliciwch i anfon ebost gyda'ch sylwadau chi.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|