Gweledigaeth yr Oesoedd Canol Mae'r cerflunydd a'r hanesydd celf Peter Lord newydd gyhoeddi ei drydedd cyfrol yn y gyfres uchelgeisiol, Diwylliant Gweledol Cymru.
Bu mis Hydref yn fis pwysig i Peter Lord, y cerflunydd a'r hanesydd celf o Gwmrheidol, am ddau reswm.
Bu'n destun y rhaglen deledu Portreadau ar S4C ac mae newydd gyhoeddi ei gyfrol ddiweddaraf - a'r drydedd - yn y gyfres hynod uchelgeisiol ar hanes celf yng Nghymru, Diwylliant Gweledol Cymru.
Mae Gweledigaeth yr Oesoedd Canol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg yn awr yn y siopau.