|
Teyrnged i ddarlunwraig Sali Mali Bu farw'r wraig a roddodd bryd a gwedd i rai o 'r cymeriadau mwyaf poblogaidd a welwyd erioed mewn llyfrau Cymraeg i blant.
Rowena Wyn Jones fu'n gyfrifol am ddarlunio cymeriadau fel Sali Mali, y Pry Bach Tew a'r Hen Darw Marw oedd yn oer yn y nos a grewyd gan Mary Vaughan Jones ac sy'n dal i ddifyrru plant ar hyd a lled Cymru hyd yn oed heddiw , ddeng mlynedd ar hugain ers iddyn nhw weld golau dydd gyntaf.
Bu hi a Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, yn ddarlithwyr yn Y Coleg Normal, Bangor.
Yn 1969 yr ymddangosodd Sali Mali, Pry Bach Tew a Jaci Soch gyntaf y tri llyfr a roddodd gychwyn i Cyfres Darllen Stori ac nid yn unig y maen nhw yn dal i gael eu darllen gan blant ond hefyd daeth y cymeriadau yn boblogaidd mewn cyfres deledu wedi ei seilio ar y llyfrau.
Heb amheuaertyh maen nhw yn un o lwyddiannau mwyaf llyfrau plant bach yn y Gymraeg ac yn dal mewn print gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Dyma deyrnged Cathrin Williams i Rowena Wyn Jones:
Fore Llun, Medi 29, bu farw Rowena Wyn Jones. Gosodiad moel na fydd yn golygu fawr ddim i lawer o'r darllenwyr, mae'n siŵr.
Ond pe cyhoeddid fod lluniwr Sali Mali wedi marw, byddai pawb yn cymryd sylw. Wedi'r cyfan, dyma gymeriad sydd wedi hen ymsefydlu fel ffefryn plant Cymru, hi a Jaci Soch, Jaci Jwc, y Pry Bach Tew ac yn y blaen.
Mary Vaughan Jones sgrifennodd y geiriau ar gyfer y llyfrau, ond Rowena Wyn greodd y cymeriadau. Hi roddodd ffurf i Sali Mali a'i chriw, a'r lluniau hynny sydd yn aros ar y meddwl.
Un o Lanberis oedd hi ac yn athrawes plant bach yn wreiddiol. Wrth iddi dynnu lluniau'r plant dan ei gofal y dechreuodd ei diddordeb mewn arlunio. Ei gwr, Ieuan, a'i hanogodd i fynd i ddosbarthiadau celf a fo fu'n ei hybu i fod o ddifrif gyda'i harlunio.
Yn fuan, enillodd glod am ei lluniau o olygfeydd yr hen Sir Gaernarfon a chafodd ei gwaith ei arddangos mewn gwahanol orielau yng Ngogledd Cymru. Yn gynnar yn saithdegau'r ganrif ddiwethaf, derbyniwyd tri o'i thirluniau gan y Paris Salon, ac ymhyfrydai yn y ffaith iddi allu derbyn y gwahoddiad i agoriad yr arddangosfa honno.
Gan iddi droi o ddysgu plant i hyfforddi athrawon plant bach yn Y Coleg Normal, cafodd gyfle i ddylanwadu ar lu o fyfyrwyr sydd hyd heddiw yn cofio ei chwrteisi a'i charedigrwydd.
Perthynai'r un anwyldeb iddi hi ag i'w hoff gymeriad, Sali Mali, a thra phery plant Cymru i wirioni ar y cymeriadau a greodd hi, fe bery'r cof am Rowena Wyn Jones.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|