|
|
Adnabod
Awdur:
Annes Glynn -
Awdur Nofel
Mis Mawrth!
Cofio
Cyn Oeri'r Gwaed yn cynhesu'r gwythiennau
|
Holi
Annes Glynn awdur Nofel y Mis a fydd yn cael ei chyhoeddi Mawrth
1, Diwrnod y Llyfr
Enw?
Annes Glynn
Beth yw eich gwaith?
Swyddog Cysylltiadau Corfforaethol Cynorthwyol, Ysbyty Gwynedd, Bangor
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gohebydd gyda Phapurau'r Herald a'r Cymro; Swyddog Cyhoeddusrwydd
i gwmn茂au teledu annibynnol; Swyddog Cyfathrebu, Coleg Menai, Bangor.
O ble rydych chi'n dod?
Brynsiencyn, Ynys M么n.
Lle rydych chi'n byw yn awr?
Rhiwlas, Bangor.
Pam sgrifennu llyfr?
Am fod yr awydd yno erioed ac am fy mod i wedi cael cyfle i wireddu'r
freuddwyd wedi ennill ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dwedwch ychydig am eich llyfr?
Nofel gyfoes yw Dilyn 'Sgwarnog am ohebydd ar bapur newydd
lleol.
Mae'n derbyn galwad ff么n un prynhawn diflas ganol gaeaf yn addo "uffar
o stori!" A dyna ddechrau taith sy'n ei harwain ar hyd sawl trywydd
amrywiol wrth iddi drio dod o hyd i'r gwir.
Pwy yw eich hoff awdur?
Ar hyn o bryd, Margaret Forster
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Os oes rhaid dewis un, yna Cyn Oeri'r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis
amdani. Mi wnes i ei hastudio ar gyfer lefel 'O' a wna'i byth anghofio'r
wefr o glywed darnau yn cael eu darllen yn uchel yn y dosbarth a gwirioni
ar wrando ar farddoniaeth rhythmig y brawddegau.
Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry -Williams
Pa un yw eich hoff gerdd?
Sut ar y ddaear mae dewis?... Mae Bro, THP-W yn dal i fy nghyffwrdd.
Felly hefyd y soned Ailafael ac, wrth i'r hen flynyddoedd 'crablyd
canol oed' nesau, byddaf yn cael blas ar ddarllen Sialens a'r
cwpled clo:
'Nid ildiaf ronyn: dof yn ieuanc rydd,
Mi wn, o'r sgarmes fawr, pan dd锚l ei dydd.'
Ia wir!
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Witness; y gyfres Inspector Morse
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n bwriadu bod
yn awdur?
Sgwennwch am yr hyn sy'n gyfarwydd i chi ac yn rhan o'ch profiad.
Daliwch ati hyd yn oed pan fo'r 'Awen' ym modiau eich traed! Credwch
ynoch eich hun a byddwch yn barod i chwysu a magu croen fel eliffant!
Pa ddawn hoffech ei chael?
Y ddawn i greu cynganeddion sy'n codi gwallt y pen ac yn rhoi ias
i lawr meingefn.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio orau?
Gofynnwch i fy nheulu a fy ffrindiau!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf
a pham?
Fy mam - am ddal ati.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Glanio ar y lleuad
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Faes Meddygon i gyfeiriad Deiniolen - am fod 'hagrwch serchog' Eryri
yn mynd 芒 fy ngwynt i yma.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd
Pryd Eidalaidd yng nghwmni ffrindiau da, a digon o Chianti i'w olchi
i lawr!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, canu mewn c么r lleol, crwydro cefn gwlad, gwneud dim oll ar
么l bod yn rhedeg fel peth gwyllt drwy'r wythnos!
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn fy mhen!
Cael yr amser a'r egni i'w roi ar bapur yw'r gamp...
|
|
|