|
|
Adnabod
Awdur:
Angharad Tomos
Un
danbaid, driw a blin!
Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
|
Holi
Angharad Tomos, mam Rala Rwdins.
Enw:
Angharad Tomos
Beth yw eich gwaith?
Ysgrifennu ac ymgyrchu
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Ysgrifennydd i Gymdeithas yr Iaith, Dylunydd Graffig, Awdur Preswyl
O ble¹r ydych chi¹n dod?
Llanwnda, ger Caernarfon
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Penygroes, Dyffryn Nantlle
Pam sgrifennu llyfrau?
Am fod gen i stori i’w dweud, a phrofiad i’w rannu
Pa un yw’r gorau gennych - sgrifennu I blant ynteu oedolion?
A yw un yn haws na’r llall?
Mae’r ddau yn gwbl wahanol. Dydw i ddim mor ddwys pan yn ysgrifennu
i blant. Gwerthfawrogi’r amrywiaeth ydw i.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? A fyddwch yn edrych arno’n
awr?
Haf a’i Ffrindiau a Theulu’r Nenfwd. Wrth edrych arnynt
yn awr, mae’r darluniau yn dod a’r stori yn ôl i mi yn gymaint a’r
geiriau.
Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis, Marion Eames, Isabelle Allende a Milan Kundera
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Un Nos Ola Leuad ddylanwadodd ar fy arddull, a pheidio peri
i mi ofni defnyddio tafodiaith.
Pwy yw eich hoff fardd?
T.H.Parry-Williams, Waldo a Phantycelyn
Pa un yw eich hoff gerdd?
Dwy Gerdd, T.H.Parry Williams
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dr.Zhivago.
Ar y teledu, Eastenders ac unrhyw raglen hanes.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y
gwir?
Hanes yw brwydr cofio yn erbyn angof
Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Sgwennu, sgwennu, sgwennu
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i chwarae offeryn cerdd – a’r gallu i hedfan
Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?
Tanbaid,
Triw,
Blin
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobl gyffredin sydd wedi dyfalbarhau er gwaethaf popeth er na chawsant
gydnabyddiaeth fel unigolion.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Ynghanol y berw ymysg y Piwritaniaid Cymreig yn syth wedi dienyddiad
Siarl I
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn
ei ddweud neu yn ei ofyn?
Hoffwn fod yn bryf ar y wal yn gwylio yr Esgob William Morgan yn cyfieithu’r
Beibl. Fyddwn i ddim eisiau dweud dim byd, dim ond gwylio a rhyfeddu
at ei ddyfalbarhad.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar fy ngwyliau ar fin gweld golygfa yr wyf wedi darllen amdani, wedi
ei dychmygu, ac rwyf am gael ei phrofi mewn tri dimensiwn.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pryd Arabaidd o cous cous, llysiau, dates ac orennau
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Dringo mynyddoedd Cymru a cherdded ar lwybrau mwy fflat
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Dwi wrthi’n sgwennu hanes bywyd fy Nhaid.
sydd newydd ei gyhoeddi
|
|
|