³ÉÈËÂÛ̳


Explore the ³ÉÈËÂÛ̳

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈËÂÛ̳ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aled Islwyn

Adnabod Awdur:
Aled Islwyn

Awdur Am Fod Seth yn Angel, Nofel y Mis ar gyfer Ebrill
Dydd Iau, Ebrill 5, 2001
Enw: Aled Islwyn.

• Beth yw eich gwaith?

Gweithio yn Swyddfa’r Wasg S4C.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro ysgol, golygydd llyfrau plant.

• O ble’r ydych chi’n dod?
Yn enedigol o Bort Talbot.

• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?

Caerdydd.

• Pam sgrifennu llyfrau?

Yr unig symptom o ’ngwallgofrwydd i sy’n gymdeithasol dderbyniol.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Mae fel gofyn p’un yw fy hoff lwybr i fyny’r Wyddfa. Mae gan bob un ei beryglon ac mae pob un yn cynnig golygfa wahanol o’r hen horwth.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Does yr un eto wedi newid cwrs fy mywyd, ond mae rhestr y rhai a ddylanwadodd arnaf yn ddiddiwedd.

• Pwy yw eich hoff fardd?

Waldo, efallai?
Neu Ann Griffiths?
W.B. Yeats, Sylvia Plath neu William Blake?
Rhywun sy’n barddoni er mwyn dweud rhywbeth, yn hytrach nag er mwyn creu gorchest.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
"Gwladys Rhys" (W.J. Gruffydd) – Eleanor Rigby Cymru!

• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
Rhestr rhy feddwol o faith i’w didoli i lawr i un.
Gwell tewi a charo ‘mlaen i ddringo’r Wyddfa.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilmiau sy’n arddel cymeriadau cryf, naws afaelgar a sydd â’r gallu i gyfareddu – The Piano, Women in Love, LA Confidential a The Summer of ’42 er enghraifft.

Ar y teledu, rwy’n edmygu bron popeth sy’n herio fformat. Mae Tair Chwaer a Pam Fi Duw? yn enghreifftiau gwych.

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?
"Bydd dawel galon ysig
A phaid a’u disgwyl mwy
."

• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Paid â gwneud ysgrifennu yn esgus dros beidio â byw.
Yr anadl einioes ddaeth gyntaf; llythrennedd yn ail.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i lenwi holiaduron heb ddatgelu gormod amdanaf fy hun.

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Preifat.
Mwyn.
Pryfoclyd.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy rhieni – cymaint o ymroddiad a gwaith caled, cyn lleied o glod.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Reiat Stonwall yn Efrog Newydd yn 1965.
Roedd hi’n olygfa hyll yn ôl y sôn, ond roedd esgoriad gwaedlyd yn anorfod os oedd y mudiad dros hawliau hoywon i ddod i fod.
Faswn i ddim yr hyn ydw i heddiw, naill ai fel dyn hoyw nac fel Cymro Cymraeg, heblaw fod eraill wedi dioddef ac aberthu.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Jiwdas Iscariot.
Ac fe fyddwn i’n dweud wrtho ’mod i’n deall.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Yr un sha thre’.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Unrhywbeth a baratowyd mewn wok gan gogydd medrus sy’n meddu ar bersonoliaeth lachar a dychymyg byw.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Myfyrio dros yr hyn rwy am ei wneud nesaf.
Osgoi myfyrio dros yr hyn rwy am ei wneud nesaf...trwy ddianc i’r pictiwrs, cymdeithasu, gwylio rwtsh ar y teledu neu ladd amser ar y we.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes.


••• Ydych chi wedi darllen
Am Fod Seth yn Angel - beth yw eich barn amdani?
Ebostiwch
i ddweud . . .



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd






About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy