|
|
Adnabod
Awdur:
Owain Siôn
Awdur Bwli nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl
yr Urdd 2001.
Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
|
Enw:
Owain Siôn
Beth yw eich gwaith?
Athro Cymraeg
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfieithydd rhan-amser i Barc Cenedlaethol Eryri
0 ble’r ydych chi¹n dod?
Llwyndyrus ger Pwllheli
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn symud i Gaerdydd ym mis Awst, ond yn Llwyndyrus ar hyn o bryd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do yn fawr. Er roedd hi’n gas gen i arholiadau ond roeddwn yn
mwynhau ymchwilio a chreu o’r newydd.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch
ychydig amdano.
Bu i ffrind agos i mi fod yn dioddef o’r salwch bwlemia ychydig
flynyddoedd yn ôl.
Bum yn ymweld â hi yn yr ysbyty a dod ar draws bechgyn yn dioddef
o’r un cyflwr. Hanes myfyriwr ifanc sydd yma ar ddiwedd ei gwrs gradd
yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.
Gwelwn ei ddatblygiad yn ystod tymor y Nadolig a sut y mae’r salwch
yn cael mwy a mwy o afael arno. Mae’r newid yn ei gymeriad yn dod
i’r amlwg a’i berthynas ag eraill.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim eto!
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Byddaf, ac yn falch ei fod wedi ei ail-argraffu’n ddiweddar ar
gyfer cenhedlaeth arall o blant.
Pwy yw eich hoff awdur?
Nifer ohonynt – Geriant Vaughan Jones, Mihangel Morgan , Angharad
Tomos a Bethan Gwanas.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Dyddiadur Goara gan Bethan Gwanas sy’n cael golwg ar fywyd Cymraes
yn ceisio ymdopi â gwneud gwyrthiau o dan amgylchiadau anodd iawn.
Pwy yw eich hoff fardd?
Gerallt Lloyd Owen a Mei Mac.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Pe bawn i yn artist gan T.Rowland Hughes.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad’ Saunders Lewis.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm – Stand by Me, nofel gan Stephen King.
Rhaglen deledu – This Life ( y ddwy gyfres) a Big
Brother.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Ennyd yn Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos.
Cas - ?
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Teg edrych tuag adref.
Pa un yw eich hoff air?
Homar
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Medru tynnu llun / bod yn
dda ym myd chwaraeon.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Diog, amyneddgar, ymdrechgar.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Methu gweld drwy bobl annifyr yn syth.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Gwilym Plas, Llwyndyrus.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Dymchwel Wal Berlin.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dafydd ap Gwilym – ‘Gymri di beint?’
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Lithfaen i lawr i Nant
Gwrtheyrn – yr olygfa.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Homar o brôn coctêl, heb y salad.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cyfansoddi, canu, canu’r piano, darllen.
Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.
Pa liw yw eich byd?
Glas Golau.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mai pobl leol sydd i gael y cynnig cyntaf ar dai sy’n mynd ar
werth ym Mhen Llyn.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd yn reit fuan.
Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Dau gnonyn bach drwg oedd Paladr ac Esgyll.....
|
|
|