|
|
Adnabod
Awdur:
Eryl Wyn Rowlands
Awdur
Y Llew Oedd ar y Llwyfan
Dydd Iau, Chwefror 7, 2002 |
Enw:
Eryl Wyn Rowlands
Beth yw eich gwaith?
Ymchwilydd a Golygydd Cyffredinol Safwe Llechwefan/Slate line
sef Hanes Diwydiant Chwareli Gogledd Cymru. Darlithydd
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro a dirprwy bennaeth am dros chwarter canrif
O ble’r ydych chi¹n dod?
Penrhyd, Amlwch, Sir Fôn.
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Llangefni
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Fel wy y ciwrat diarhebol – da mewn rhannau
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Diddordeb ysol yn Llew Llwyfo fel cymeriad unigryw yn hanes diwylliannol
Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
1977 Dwy bennod yn Llyn y Fendith – Hanes y Capel Mawr
Amlwch.
1982. Ar ei Ganfed-The Magic Hundred, cyfrol ddathlu canfed
Primin Amaethyddol Môn.
1985. Gwr annwyl ein Prifwyliau. Cofiant i W. Matthews Williams
1885-1970
1997 For Want of Schooling - dathlu dwy ganrif hanner o addysg
eglwysig yng Nghaergybi.
1998 Mirain Foreia, cyfrol ddathlu can mlynedd codi capel Moreia,
Llangefni.
1999 O Lwyfan i Lwyfan. Cantorion proffesiynol a thraddodiad
cerddorol Môn hyd 1913.
2000 Mastiau a Siafftiau-Masts and Shafts, agweddau ar hanes
cymdeithasol Amlwch, 1793-1913.
2001 Y Llew Oedd ar y Llwyfan. Portread o Lew Llwyfo.
Nifer o erthyglau mewn gwahanol gyfnodolion.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant 1.
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Ambell dro.
Pwy yw eich hoff awdur?
Jack Jones.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
O Law i Law gan T. Rowland Hughes.
Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Clychau’r Gog.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
I’w hapwyntiedig hynt y try pob gwedd,
I Ffrainc, i’r Aifft i Ganan, i hir hedd
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Gandhi gafodd yr effaith fwyaf arnaf o’i gweld am y tro
cyntaf.
Porc Peis Bach
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Ddim yn ddarllenwr mawr ar ffuglen i ddweud y gwir
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
A feddo gof a fydd gaeth,
Cyfaredd cof yw hiraeth
Pa un yw eich hoff air?
Maniana. (rhyw dro eto)
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Cyfansoddi cerddoriaeth.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Dim nonsens
Di amynedd (ar brydiau)
Dim rhagrith (gobeithio)
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gohirio wynebu sefyllfaoedd anodd yn syth.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Martin Luther King.
Mae ei araith I have a dream o hyd yn codi gwallt fy mhen
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Agoriad Swyddogol Senedd Machynlleth a llunio Cytundeb Pennal
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
David Lloyd George.
Paham y bu iddo anghofio ei egwyddorion o adeg Rhyfel y Boar a chefnogi
Rhyfel ym 1914.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Teithio ardal plentyndod.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Eog ffres o’r Alban.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded,
Nofio,
Ccyfrifiaduron.
Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.
Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dwyieithrwydd cyflawn yn ein gwlad o ddeddfau seneddol i lawr
at label tun ffa pôb.
Os yw gwledydd eraill yn gallu ei wneud pam na fynnwn ni ef?
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ar wahân i’r llyfr ar y we; cyfrol ar gyd artistiaid llwyfan Llew
Llwyfo, Ar y Platfform Pren.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel
neu waith llenyddol arall?
Ciliodd yr artistiaid o lwyfan bywyd ond erys eu cysgodion.
Darllenwch
yn awr am Y Llew Oedd ar y Llwyfan
|
|
|