|
|
Holi
awdur:
Ian Rowlands
Golygydd
casgliad o fonologau theatrig
Dydd Mercher,Mehefin 12, 2002 |
Enw:
Ian Rowlands
Beth yw eich gwaith?
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gwynedd, Bangor.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Byd, Cydlynydd Artistig Bara Caws
ynghyd ‚ chyfarwyddwr hunan gyflogedig a dramodydd.
O ble'r ydych chiÃn dod?
O'r Porth yng Nghwm Rhondda
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Yn dechnegol yng Nghaerdydd ond, am fy mod i'n gweithio ym Mangor,
dwi'n teimlo fy mod i'n byw yng Nghrewe o ran yr amser wy'n dreulio
yno!
A wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do a naddo. Doeddwn i ddim yn barod amdano ar y pryd.
Beth wnaeth ichi gyhoeddi eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Ateb galwad oeddwn oherwydd prin yw'r monologau sydd wedi eu cyhoeddi
yn y Gymraeg ac eto mawr yw'r galw amdanynt. Yn y gyfrol hon cawn
gipolwg ar brosesau creu tri o'n hactorion mwyaf dawnus ar y cyd â'r
monologau a gyflwynwyd ganddynt.
Pa lyfrau neu ddramâu eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dramâu Llwyfan yn cynnwys:
Heb eu cyhoeddi:
The Sin Eaters 1992 ( a enwebwyd ar gyfer Writers' Guild Award)
Solomon's Glory (1993).
Y ddrama fer, The Ogpu Men
A chyhoeddwyd gan Seren Books yn y gyfrol Act 1 Wales.
Glissando on an Empty Harp (1994)
Love in Plastic (1995)
Blue Heron in the Womb (1997)
(Cyhoeddwyd y tair uchod yn y gyfrol, Trilogy of Appropriation
gan Parthian Books.
Marriage of Convenience (1996)
(Best Play Dublin Festival a Herald Angel Award yng Ngwyl Caeredin
1997
(Cyhoeddwyd yn y gyfrol, One Man, One Voice, gan Parthian Books.
Ar gyfer y teledu, A Light in the Valley â enillodd Royal Television
Society Award 1999.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Swallows and Amazons gan Arthur Ransome.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Gwell peidio.
Pwy yw eich hoff awdur?
W G Sebald.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
On the Road, pan ddarllenais ef yn bedair ar ddeg.
Pwy yw eich hoff fardd?
Heblaw am fy ngwraig dach chiÃn feddwl?
Pa un yw eich hoff gerdd?
Rhapsody on a Windy Night gan T.S .Eliot.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Distance is a matter of seeing - Gwyneth Lewis.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Hear my Song
Rhaglen Deledu: Father Ted.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Lord Emsworth (Blandings Castle)
Cas gymeriad: Yr Hollalluog Dduw.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
There is nothing in the world that cannot be improved by cutting
(Auberon Waugh).
Pa un yw eich hoff air?
Pantperthog.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ddiddanu parti drwy
ganu'r piano.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Moel
Asthmatig
Cymro.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy niffyg gallu i ddewis y sgidiau cywir i'w gwisgo pan af i Lundain.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Maelgwn Gwynedd.
Am ei ddewrder - aberthodd ei hun er lles ei genedl drwy gau ei hun
mewn eglwys am ei fod yn dioddef o'r clefyd melyn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rhyfel Cartref Sbaen.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi
'n ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y dyn a greodd Dduw.
"Beth ddiawl ti'n neud?"
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O'r de i'r gogledd ar y bysus bach gan gychwyn o Abergwaun am naw
y bore a chyrraedd Caernarfon am saith y nos. Cewch glywed y Gymraeg
yn fyw, a'i chlywed yn ei thafodiaethau, ei chryfder a'i chyfoeth.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Sbageti gyda saws tomato (heb winwns ond gyda chryn dipyn o arlleg
a chilli) a chaws Provolone drosto. I yfed, Badoit a gwin gwyn Maconaise
(sa i'n yfed gwin coch).
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
DringoÃr mynyddoedd am yr haul.
Pa un yw eich hoff liw?
Melyn f'ystafell fyw ben bore.
Pa liw yw eich byd?
Mmm - melyn am wn i.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
I wahardd pwyllgora yng Nghymru.
A oes gennych lyfr neu ddrama arall ar y gweill?
Newydd orffen addasiad llwyfan o'r Laxardal Saga (Un o sagas
Gwlad yr Iâ) ar gyfer Clwyd Theatr Cymru.
Mae gen i ddrama arall i'w hysgrifennu, Blink, rhyw valleys
revenge tragedy fydd hi.
Fel cyfarwyddwr, dwi ar fin gadael am Iweddon i gyfarwyddo Our
Lady of Sligo gan Sebastian Barry.
Ar ran Theatr Gwynedd, eleni byddaf yn cyfarwyddo Blodeuwedd
(Saunders Lewis) Ta-ra Theresa - drama newydd gan Aled Jones
Williams am fewnlifiad a Dan y Wenallt (addasiad T. James Jones
o Under Milk Wood) yng ngwanwyn 2003.
Beth fyddaiÃr paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol
arall?
Maddau i mi am beidio â llythyru'n gynt ond dwi 'di bod mewn coma
am chwech mis.
|
|
|