|
|
Holi
awdur:
David Meredith
Awdur
ac un o ffigurau amlycaf y byd Cysylltiadau Cyhoeddus yng Nghymru
|
Enw:
David Meredith
Beth yw eich gwaith?
Swyddog Canmlwyddiant Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (rhan
amser)
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Pennaeth y wasg a chysylltiadau cyhoeddus HTV (1968 - 1989) ac S4C
(1993 - 2001)
0 ble'r ydych chi'n dod?
Aberystwyth, Ceredigion
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Ar ffarm Cwm Cynllwyd, Llanuwchllyn ger Y Bala
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
Gweld geni fy mhlant yn iach
Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Hunangofiant. Catharsis - sgrifennu fy hunangofiant. Yr ysfa am gofnodi
troeon yr yrfa. Gofalais fod digon o luniau ynddo - dros 80.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfr ar fywyd a gwaith Michelangelo
Llyfr ar fywyd a gwaith Rembrandt
Stori i blant - 'Congrinero'
Stori antur i blant -'Fôn Fawr a Bili Bach'
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
'Y Bratchets'
'Treasure Island' R. L. Stevenson
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Ddim ers llawer blwyddyn ('Bratchets')
'Treasure Island' - yn achlysurol
Pwy yw eich hoff awdur?
Aled Islwyn
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Treasure Island
Pwy yw eich hoff fardd?
T. Gwyn Jones / Gwenallt
Pa un yw eich hoff gerdd?
'Cwm Tawelwch'. Gwilym R. Jones
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Ble'r eidi fab y ffoedigaeth,
A'th gar salwn yn hymian ar y rhiw?'
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - Shane, Alan Ladd
Rhaglen deledu - Rhaglen Gwilym Owen ar 'Y Rhyd', o'r rhaglen 'Yr
Wythnos'
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Casgymeriad - Blind Pugh (Treasure Island)
Hoff gymeriad - Ben Gunn (Treasure Island)
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio!
Pa un yw eich hoff air?
Banana
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn cyfansoddwr cerddorol
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cymro
Carwr dynoliaeth
penderfynol
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dim digon amyneddgar
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Michelangelo. Edmygwr ei gampweithiau gwych.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y diwrnod y dadorchuddiwyd ffresgo Michelangelo ar nenfwd Capel y
Sistin yn Rhufain yn yr 16eg ganrif.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn
ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr - a gofyn iddo ble roedd yn mynd (pan ddiflannodd!)
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Gymru ar draws Ffrainc dros fwlch y Simplon i'r Eidal. Prydferthwch
yr Alpau. Croeso'r Eidalwyr.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bowlen o gawl llysiau.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Ymweld ag amgueddfeydd, stelcian yn fy mhlanhigfa goed y tu ôl
i'r ty a rhyfeddu at natur a 'gweld' y coed maswrn, criafol a phîn
yn tyfu.
Pa un yw eich hoff liw?
Coch
Pa liw yw eich byd?
Melyn a du
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf ar i bawb garu ei gyd-ddyn pwy bynnag y bo.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Nofel.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol
arall?
"Agorodd drws cefn y Ford Lincoln du a gwelodd y gwn arian yn
sgleinio yng ngolau'r haul."
am Pwy Fase'n Meddwl
|
|
|