|
Iona ac Andy Sydd newydd gyhoeddi hunangofiant
Enw: Iona Boggie Andrew Edward Boggie (Andy)
Beth yw eich gwaith? Cerddor, a threfnu teithiau (y ddau ohonom)
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Iona: Athrawes Ysgol Gynradd Andy: Athro Ffrangeg, gwerthwr gwinoedd, rheolwr siop
0 ble'r ydych chi'n dod? Iona: Nantlle, ger Caernarfon a symud i Ddyffryn Conwy pan oeddwn yn bedair ar ddeg. Andy: Penmaenmawr, Gwynedd
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Chwilog, Pwllheli, Gwynedd
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Iona: Anodd dygymod 芒 dwy ysgol uwchradd ond mwynhau gwneud lefel A ac wrth gwrs dyddiau''r Coleg Normal, Bangor. Cymraeg a Cherddoriaeth Andy: Wrth fy modd yn y chweched dosbarth yn Ysgol John Brights Llandudno ac yna i Brifysgol Bangor yn astudio ieithoedd gan raddio mewn Ffrangeg.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Y rheswm am ysgrifennu'r llyfr oedd ein bod yn dathlu chwarter canrif o ganu gyda'n gilydd ac am i bobl wybod am ein bywyd, nid yn unig fel cantorion ond fel g诺r a gwraig yn treulio pedair awr ar hugain saith diwrnod yr wythnos pum deg dau o wythnosau y flwyddyn gyda'n gilydd.
Dau gefndir gwahanol, Iona o bentref Nantlle yn Eryri i deulu Cymraeg. Bywyd capel ac eisteddfodol gan fynd ymlaen i ganu gwerin gyda git芒r yng ngwesty Plas Maenan Dyffryn Conwy yn y saithdegau .Yna i Goleg Normal Bangor a chael swydd fel athrawes gynradd yn Ysgol Glanwydden, Waunfawr, ac Eglwysbach.
Daeth Andy o deulu o Benbedw a ddaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd i Benmaenmawr. Canodd mewn grwpiau roc a r么l yn y chwedegau a roc yn y saithdegau. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar 么l cyfarfod a phriodi fe benderfynwyd ar ganu gwlad gan ei fod yn fan canol rhwng canu gwerin a roc. Iona'n rhoi gora i fod yn athrawes ysgol gynradd a mynd yn broffesiynol.Golygodd hyn ein bod yn trafaelio 35mil o filltiroedd y flwyddyn o amgylch gwledydd Prydain.
Mae yna straeon diddorol am y dyddiau cynnar anodd yn ceisio ennill bywoliaeth ar ychydig o arian a'r straen fwyaf o orfod dygymod 芒 salwch a cholli tad o 1985 i 1990.
Cewch ddarllen am uchafbwyntiau fel canu'n Nashville ar y Grand Ole Opry, Patagonia a'r Gaiman, Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, Portiwgal.
Fe enillon ni ddeuawd mwyaf poblogaidd Prydain yn 1987 yn ogystal 芒 nifer fawr o wobrau o amgylch clybiau canu gwlad Prydain.
Mae'r llyfr yn dangos yr amser da a'r drwg ac yn rhoi agoriad llygaid i bobl sydd yn meddwl fod ennill bywoliaeth drwy ganu yn hawdd.
Mae'n gorffen gyda mewnwelediad i'r hyn y mae'r ddau ohonom yn hoffi ei wneud pan nad oes git芒r yn ein dwylo a'r hyn yr ydym yn feddwl o'n gilydd ar 么l chwarter canrif o ganu a dilyn llwybrau breuddwydion.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dim
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Iona: Llyfr Mawr Y Plant a Te Yn Y Grug Kate Roberts Andy: Boys Book Of All Sports a'r Three Musketeers
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Iona: Byddaf Andy: Byddaf - y Three Musketeers
Pwy yw eich hoff awdur? Iona: Kate Roberts Andy: Len Deighton
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Iona: Y Beibl a llyfr 'The Story of Maria Stella' by herself Andy: The Constant Gardener gan John Le Carre a llyfr Maria Stella
Pwy yw eich hoff fardd? Iona: R.Williams Parry Andy: Wilfred Owen
Pa un yw eich hoff gerdd? Iona: Eifionydd gan R.Williams Parry Andy: Green Fields Of France (anhysbys)
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Iona: Digwyddodd, darfu, megis seren wib 'Llwynog', R. Williams Parry Andy: All the glory the suffering and the pain would all happen again and again and again. (Green Fields of France)
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Iona: Enchanted April a Dram芒u hanesyddol a ditectif ar deledu Andy: Lawrence Of Arabia a Renaissance (teledu)
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Iona: Hoff gymeriad - Begw: Te Yn Y Grug, Kate Roberts. Cas Gymeriad - Tad Frank McCourt, Angela's Ashes Andy: Hoff gymeriad - Bernie Sampson Game Set And Match, Len Deighton Cas gymeriad - Herod Jenkins, Last Tango In Aberystwyth
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Iona: Ffydd, gobaith cariad a'r mwyaf o rhai hyn yw cariad. Andy: Hawdd dweud caled gwneud.
Pa un yw eich hoff air? Iona: cariad Andy: trosglwyddwyd
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Iona: actio Andy: chwarae golff yn well
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Iona: Emosiynol, Hael, Teimladwy
Andy: Tosturiol, Optimist, Cymhellol
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Iona: Dim digon o hunanhyder nac yn maddau'n hawdd. Andy: Fy oed. Gwylltio weithiau yn lle sefyll yn 么l yn enwedig gyda materion y byd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Iona: Iesu Grist. Fe ddysgodd i ni garu'n gilydd ond biti na fasa mwy wedi gwrando. Andy: Catherine De Medici. Un o ferched hudolus a diddorol yr unfed ganrif ar bymtheg.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Iona: Helpu plant amddifad Romania ar 么l Caiucescu. Andy: Dymchel wal Berlin.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Iona: Iesu Grist. Beth oedd ei berthynas 芒 Mair Magdolen?
Andy: Elisabeth y gyntaf i ofyn iddi beidio 芒 lladd Mari Brenhines yr Alban.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Iona: I fyny i Oban yn yr Alban yna ar long i Ynys Mull; teithio ar hyd yr ynys a dal llong fechan i Ynys Iona. Nefoedd. Andy: Unrhyw daith i lawr o Ogledd Ffrainc drwy'r wlad a chyrraedd Cahor yn Nyffryn y Lot yn Ne Orllewin Ffrainc. Amser i ymlacio.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Iona: Cig oen wedi ei goginio gyda rosmari, tatws newydd, llysia ffres a grafi wedi ei wneud gyda gwin coch gan adael digon i gael glasiad neu ddau ar 么l (o Ffrainc wrth gwrs). Andy: pr么ns wedi'u coginio 芒 garlleg, sinsur, lemon, gwin gwyn, nionyn Gwanwyn(spring onions) pupur coch yna eu rhoi ar bl芒t o letys amrywiol tomatos bach a bara chipati (Eidalaidd).
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Iona: Cerdded mynyddoedd a llefydd gwastad. Teithio i wledydd yn Ewrop; Ffrainc a'r Eidal; diddordeb yn y Dadeni yn enwedig cerfluniau a lluniau yn yr Uffizi yn Florence, Academia yn Venice a'r Louvre ym Mharis. Siopa o unrhyw fath. Andy: Yr un fath a Iona ond am y siopa! Diddordeb ym mhob chwaraeon.
Pa un yw eich hoff liw? Iona: Gwyrdd Andy: Glas Pa liw yw eich byd? Iona: gwyn Andy: gwyrdd
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Iona: Rhwystro ysmygu ym mhobman. Andy: yr un fath a Iona
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Iona: ysgrifennu am fy nhad a finnau. Bu farw ym 1985 gan adael dipyn o'i waith ysgrifenedig ar 么l felly hoffwn ei roi gyda'i gilydd mewn llyfr ynghlwm 芒 fy mherthynas i ag ef (O.Myfyr Roberts). Andy: Maria Stella Iarlles cyntaf y teulu Niwbwrch.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? Dyma fydd y frawddeg gyntaf yn ein llyfr nesaf: Iona: Eisteddais ger ei wely yn yr ysbyty a gorchmynodd i mi losgi ei gorff. Andy: A flock of sparrows grew larger and larger as they flew towards the Louvre from the Bois De Boulogne.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|