| |
|
|
|
|
|
|
|
Janice Jones Edmygu'r Fam Teresa a Lilly Savage
Enw Janice Jones
Beth yw eich gwaith? Awdures, myfyrwraig 么l-radd, hyfforddwraig gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, gwniadwraig.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Nifer o swyddi gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, gweithio yn llyfrgelloedd Bangor a Bethesda.
0 ble'r ydych chi'n dod? Wedi'm geni a'm magu ym Mangor.
Lle'r ydych chin byw yn awr? Tregarth, ger Bethesda.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Ar adegau!
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Pin-yp yw enw'r llyfr, ac mae'n adrodd hanes criw o ferched sy'n byw mewn pentref yng nghefn gwlad Cymru ac sy'n codi arian i achub eu neuadd bentref trwy gynhyrchu calendr bronnoeth.
. Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Llyfr i blant sy'n hercian drwy goridorau'r Cyngor Llyfrau.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Hoff iawn o lyfrau megis y Famous Five a'r Secret Seven.
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr? Na fyddaf, wir yr!
Pwy yw eich hoff awdur? Yn mwynhau gwaith nifer o awduron Cymraeg ac eraill megis Bethan Gwanas, T. Rowland Hughes, Caradog Prichard, Roddy Doyle, Terry Mc Millan, J.B. Priestley.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Eto, mae nifer ohonynt, megis Un Nos Ola Leuad, Lost Empires, ac yn ddiweddar A Gathering Light gan Jennifer Donnelly
Pwy yw eich hoff fardd? T.H. Parry-Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd? Dychwelyd.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwda ff么l, Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn 么l.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? A Fish Called Wanda, prin yn gwylio'r teledu heblaw am y newyddion a materion cyfoes, ac ambell stori gyfres.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? William Jones yw fy hoff gymeriad. Tydw i ddim yn credu y byddwn yn darllen fawr pellach na'r dudalen gyntaf am gymeriad nad oeddwn yn hoff ohono neu ohoni.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Peidiwch 芒 barnu dyn heb gerdded milltir yn ei sgidiau.
Pa un yw eich hoff air? Ansbaradigaethus!
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Chwarae'r delyn.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Dyfal, Distaw, Creadigol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy ngwallt yn gwynnu ac angen ei beintio'n rheolaidd a lensys fy sbectol yn mynd yn fwy a mwy trwchus!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Y Fam Teresa am ei daioni a'i doethineb, a Lily Savage am ei dyfeisgarwch a'i dillad chwaethus.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Darganfod caws.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Elisabeth y Cyntaf. Byddwn yn gofyn a oedd hi o ddifrif yn Forwyn Frenhines? !
Pa un yw eich hoff daith a pham? Cerdded ar lan Afon Glaslyn ym Meddgelert , clywed y d诺r yn murmur ac anghofio am y byd a'i bethau am ychydig.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cyri llysiau a gwin coch.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen a gwaith crefft.
Pa un yw eich hoff liw? Pinc llachar.
Pa liw yw eich byd? Pinc!
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Bod yn rhaid i ni i gyd fod fesur helaeth yn fwy goddefgar.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, nofel o'r enw Bol Buwch, a phan fydd 30 awr ym mhob dydd, fe fyddaf wedi ei gwblhau mewn chwinc!
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Un diwrnod, amser maith yn 么l . . .?
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|