Mair Wynn Hughes Holi Mair Wynn Hughes nofelydd ac enillydd gwobr Tir naNog
Beth yw eich gwaith? Wedi ymddeol, awdures yn unig nawr.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Athrawes
0 ble'r ydych chi'n dod? Bryncir, Eifionydd yn enedigol.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Pentraeth, Ynys M么n
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Gwaith comisiwn oedd Gwas y Stabl. Hanes erlid y Pabyddion yn ystod teyrnasiad Elisabeth 1af, yn s么n yn bennaf am Blas Creuddyn, Llandrillo yn Rhos ac ogof Rhiwledyn.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Nifer i blant iau a'r arddegau.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Nansi'r Dditectif.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Byddaf.
Pwy yw eich hoff awdur? Kate Roberts.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Nac oes.
Pwy yw eich hoff fardd? R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff gerdd? Eifionydd.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? A llonydd gorffenedig yw llonydd y L么n Goed.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Rhaglen deledu unrhyw raglen Natur. Ffilm dim un yn arbennig.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Gwell plygu na thorri.
Pa un yw eich hoff air? Croeso.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Darlunio
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Gwraig, Mam Nain.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Gwnaiff fory y tro!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Mother Teresa.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Dim un.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Pa un yw eich hoff daith a pham? Yn 么l i Eifionydd a'r L么n Goed.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cinio wedi ei baratoi gan rywun arall.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen a cherddoriaeth.
Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd.
Pa liw yw eich byd? Euraidd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Pob Aelod Seneddol i ddweud y gwir, a dim ond y gwir.