| |
|
|
|
|
|
|
|
Mared Lewis Cwestiwn i Eva Braun
Enw Mared Lewis
Beth yw eich gwaith? Gweithio ar fy liwt fy hun - sgriptio, sgwennu, cyfieithu a ballu.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gweithio mewn bwyty a siop tra yn yr ysgol a choleg, cyfnod fel athrawes Saesneg, ym maes addysg a busnes, ac fel ymchwilydd i gyfresi dogfen ysgafn i S4C.
0 ble'r ydych chi'n dod? O Falltraeth, Sir F么n.
Lle'r ydych chin byw yn awr? Yn Llanddaniel Fab, Sir F么n o hyd!
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, ar y cyfan, heblaw am y gwersi gwnio!
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Mae Esgid Wagyn edrych ar berthynas Joyce ac Ian Parry wedi diflaniad eu merch fach, Mali, ddeng mlynedd ynghynt. Mae'n nofel ar sut 'da ni'n ymdopi 芒 sawl math o golled, deud y gwir.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dyma fy nofel gyntaf, ond dwi wedi cael cyhoeddi ambell i stori fer.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Stori Mops gan J. Ellis Williams. Hanes ci bach annwyl direidus!
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Faswn i wrth fy modd yn cael gafael ar gopi i ddarllen i fy meibion, ond mae o allan o brint.
Pwy yw eich hoff awdur? Cymraeg - Geraint V. Jones a Jane Edwards. Saesneg - William Trevor a Maggie O' Farrell.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? To kill a Mockinbird gan Harper Lee. Nofel andros o bwerus am hiliaeth yn Deep South yr Unol Daleithiau yn y 30au. Y ffaith fod y stori'n cael ei hadrodd o berspectif plentyn, Scout, yn cryfhau'r deud.
Pwy yw eich hoff fardd? Am gwestiwn anodd! Dwi wrth fy modd efo gwaith Iwan Llwyd a Nesta Wyn Jones, ac mae Keats yn ddewis amlwg i mi yn Saesneg.
Pa un yw eich hoff gerdd? Fy ngwlad, Gerallt Lloyd Owen.a Remember gan Christina Rossetti.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Gai ddwy?
Poni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw? Poni welwch chi'r Deri'n ymdaraw" Gan Gruffydd ab yr Ynad Goch ar farwolaeth Llywelyn.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Hoff ffilm - The apartment efo Jack Lemmon a Shirley McLaine. Hoff raglen deledu - Rownd a Rownd , Tipyn o Stad , Clocking Off a Northern Exposure pan oedd o!
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad - Atticus y tad doeth yn To Kill a Mockingbird yn un ohonyn nhw. Roedd yn gas gen i gymeriad bach crintachlyd Eirwyn yn Pan ddaw'r dydd gan Elfyn Pritchard yn ddiweddar.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Time runneth through the roughest day - Shakespeare.
Pa un yw eich hoff air? Cei!
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i beidio poeni am bethau bach!
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Trafferthus Brwdfrydig Teyrngar.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Sawl peth, ond dwi'n dysgu byw efo nhw.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Tani Grey Thompson - am ei hagwedd.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Hoffem fod wedi bod yn y stafell gyfrif pleidleisiau dyngedfennol yng Nghaerfyrddin yn 1997 pan ddaeth y neges drwodd fod y sir wedi dweud "Ie" i Gynulliad i Gymru. Moment bwysig.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Eva Braun - sut yn y byd oedd hi'n gallu byw efo Adolf Hitler?
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith i lawr drwy'r coed pin at draeth Llanddwyn.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Lasagne cartra, salad mawr a photal o win coch neis o Awstralia.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Bod efo'r plant a Dafydd yn cerdded; mynd i weld Mam a Gwyn fy mrawd, a chyfarfod 芒 ffrindiau da am bryd a llond bol o chwerthin . Dwi'm yn drwglecio siopa chwaith.
Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd.
Pa liw yw eich byd? Gwyrdd ar hyn o bryd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf i wahardd apathi.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Digon o syniadau yn ymgiprys am sylw., ond dim un syniad am lyfr penodol eto.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? "Twll? Pa dw....." Yr oedd llais Sam yn atseinio'n hyfryd wrth iddo blymio i mewn i'r gwagle. Esgid Wag gan Mared Lewis (Gwasg y Dref Wen 拢5.99) yw Llyfr y Mis, Mawrth, 2005.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|