| |
|
|
|
|
|
|
|
Maureen Rhys Nadolig 2006 yr oedd ei hunangofiant, Prifio, yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd
• Enw? Maureen Rhys.
• Beth yw eich gwaith? Actores.
• O ble'r ydych chi'n dod? Pentref bach Cwm-y-Glo yn Arfon.
• Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Bangor.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, ysgol fechan oedd yr ysgol gynradd yng Nghwm-y-Glo a digonedd o amser gan yr athrawon i roi sylw personol i ni. Wedyn ym Mrynrefail cael yr argraff bod yr athrawon yn ddiwahân am i ni lwyddo, a ffrindiau da.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Hunangofiant ydi o. Bu raid crafu pen a phendroni cyn mynd at y cyfrifiadur. Fy unig fwriad oedd bod y gwaith gorffenedig yn rhoi orig o ddiddanwch i'r darllenydd. Wn i ddim a lwyddais i wneud hynny ai peidio.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dim un.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr Mawr y Plant a Llyfr Darllen - mae'r ail lyfr o 1949 gen i o hyd.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr? Pur anaml.
• Pwy yw eich hoff awdur? Wn i ddim am hoff awdur. Mae nifer o awduron yn rhoi blas i mi am wahanol resymau a rhai newydd yn codi o hyd, ond petawn yn gorfod dewis, mi fydda 'na ddau yn dod i'r brig, sef Islwyn Ffowc Elis a Kate Roberts am i mi droi'n ôl atyn nhw fwy nag unwaith.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Argraff arbennig: The Great Hunger - Cecil Woodham-Smith. Hanes dychrynllyd y digwyddiadau yn Iwerddon yn ystod hanner cyntaf, ac wedyn yn ystod, y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
• Pwy yw eich hoff fardd? R. Williams Parry
• Pa un yw eich hoff gerdd? Anodd ydi dewis rhwng 'Dinas Noddfa', R. Williams Parry a 'Cofio' - Waldo Williams. Gan mai Rhys ydi un o nghyfenwau i bellach, mae 'Y Wers Sbelio' gan R.W. Parry yn apelio ata i hefyd.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae yna nifer ohonyn nhw. Gan mai am un llinell y gofynnwyd ac am y gobaith sydd ynddi: 'Marw i fyw mae'r haf o hyd' o awdl 'Yr Haf' R. Williams Parry.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Anaml iawn y bydda i'n mynd i'r sinema. O ran teledu rhaglenni dogfen neu drafod, Taro 9, Pawb a'i Farn, Newsnight - y math yma o raglenni fydda i yn eu hoffi. Hynny a chyfres arbennig 'Y Tywysogion' Ffilmiau'r Bont.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Er yn blentyn yr oeddwn yn gwybod am Rhys Lewis gan mai hoff lyfr fy nain oedd o. Mi wnes i ddarlun yn fy meddwl o'r bachgen Rhys Lewis a'i gael o'n ffrind da. Yn y copi sydd gen i (un fy nain oedd o) mae yna ambell i ddarlun ac un ohonynt yn dangos Bob, brawd Rhys Lewis, yn llindagu'r athro brwnt (Robyn y Sowldiwr) a hwnnw yw fy nghas gymeriad i o hyd.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Nid aur yw popeth melyn.
• Pa un yw eich hoff air? 'adra'.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Yn bendant canu'r piano.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Dwn i ddim!
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy amharodrwydd i roi pin ar bapur ond wedi i mi ddechrau, mynd fel fflamia - yn rhy gyflym o'r hanner. Dim ond un o 'ngwendidau i ydi hwnnw.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Ma hwnnw'n gwestiwn rhy fawr i mi allu ei ateb. Ar lefel llai uchelgeisiol, o fewn fy mhroffesiwn fy hun, mae'r actores Judi Dench yn un dwi'n ei hedmygu'n fawr am ei bod hi'n argyhoeddi fel y ddynes drws nesaf ac fel brenhines - unrhyw ran mae hi'n ymgymryd â fo a deud y gwir.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Mudiad y Siartwyr - bod yr un i gyflwyno deiseb i'r Senedd yn 1839 ac enwau 1,280,000 o bobl arni.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Robert Owen, Drenewydd. Fyddwn i ddim yn gofyn cwestiwn dim ond ysgwyd llaw ag o.
• Pa un yw eich hoff daith a pham? O ddrws y tŷ i berfeddion Galway. Mae'r siwrnai o gar i long a char wedyn am rai oriau yn bleser pur, a'r sicrwydd bod croeso tywysogaidd yn ein disgwyl gan deulu'r Cloherty's.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cinio dydd Sul adra. Cig oen, tatws newydd, tatws rhost, tri math o lysiau, saws mintys ffres o'r ardd a'r trimins i gyd ac efallai pwdin reis wedi bod yn y popty am oriau i ddilyn, a phawb yn sglaffio'r cwbl ac amser am sgwrs wedyn.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Dim byd rhy anturus - cerdded, darllen, synfyfyrio.
• Pa un yw eich hoff liw? Du.
• Pa liw yw eich byd? Mi fyddwn i wrth fy modd dweud coch ond alla i ddim. Mae'n debyg mai gwyrdd ydi lliw fy myd i gan mod i mor hoff o goed yn eu dail. Mi fyddwn i'n berffaith hapus cael fy nghau i mewn gan goed.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Mwy o bŵer deddfu i'r Cynulliad/Senedd.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Nac oes
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel? Er iddi bendroni am fisoedd lawer...
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad a sgwrs am Prifio
Adolygiad arall o Prifio
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|