|
|
Troi'r
hawdd
yn astrus
Adolygiad
o Mawl a'i Gyfeillion - cyfrol sy'n cael ei difetha gan
gymhlethod ei dweud
Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
|
Adolygiad
gan Glyn Evans:
Mawl a鈥檌 Gyfeillion. Cyfrol 1 gan R. M. Jones. Barddas.
拢14.95.
Y mae Bobi Jones - neu R. M. Jones fel mae鈥檔 galw ei hun pan yn feirniad
llenyddol yn hytrach nag yn fardd - yn disgrifio ei gyfrol ddiweddaraf
fel "myfyrdod ynghylch ateb i鈥檙 cwestiwn pam llenydda o gwbl."
Traddodiad maith a chyfoethog
Y mae wedi dewis fel ei faes y traddodiad maith a chyfoethog o ganu
mawl yn y Gymraeg gan godi nifer o gwestiynau digon pryfoclyd.
Y mae鈥檔 defnyddio ei destun fel ffordd o fynd i鈥檙 afael materion sydd
yn sylfaenol i鈥檙 broses o greu ac yn hanfod i feirniadaeth lenyddol.
Dywed iddo gael ei "orfodi" i "geisio esbonio ym mha le yn y broses
gyflawn ac ym mha ffordd y mae Cymhelliad yn ffitio a beth
yw ei arwyddoc芒d yn strwythur y meddwl wrth lenydda."
Cyfrol gyntaf o ddwy yw hon yn rhoi "amlinelliad bras" o "yr adeiladu
eang ac araf hwnnw" o fawl mewn barddoniaeth Gymraeg dros y canrifoedd
gan gychwyn gyda鈥檙 cynfeirdd a鈥檙 gogynfeirdd.
Nid yn unig y mae mwy i ddod ond bu mwy cyn hyn gan fod y gyfrol hon
yn ychwanegiad at domen o feirniadaeth lenyddol - neu "drafodaeth
estynedig ynglyn 芒 gwneuthuriad llenyddiaeth ac yn sgil hynny feirniadaeth
lenyddol ei hun" - gan y beirniad, bardd a llenor hynod gynhyrchiol
hwn.
Mae鈥檔 drafodaeth sydd yn ymestyn yn 么l i 1974.
Mwy na dweud pethau neis
Wrth olrhain y traddodiad Canu Mawl Cymraeg y mae鈥檔 gofyn ac yn ateb
y cwestiwn a yw mawl yn rhywbeth amgenach na dweud "pethau neis" am
bobl a gwrthrychau.
Ei ateb yw fod canu mawl yn fwy na hynny - er nad yw鈥檔
hawdd iawn dod o hyd i osodiad mor syml a hynny rhwng ymresymu cymhleth
a brawddegu cordeddog y gyfrol hon.
Fodd bynnag, dywed fod y "ffaith seml" fod yna "foliant ar waith o
gwbl yn datgan fod yna rinwedd wedi鈥檌 chanfod" mewn gwrthrych.
Ond:
"Wrth archwilio peth o amlochredd a datblygiad hanesyddol y traddodiad
mawl hwn yn y Gymraeg, sylwir bod yr arweddau gwahanol ar y ffenomen
hon yn dra amrywiol. A dyry鈥檙 amlochredd hwnnw y cyfle i archwilio
anian amryddawn Mawl mewn sawl amgylchfyd," meddai.
Moli yn rhywbeth sylfaenol
"Cyn gynted ag y cafwyd dyn cafwyd molwr," meddai mewn lle arall.
Ynglyn â phwysigrwydd mawl nid oes amheuaeth yn ei feddwl:
"Mawl yw鈥檙 cynnwys mwyaf cyffredinol - o bob pwnc a gwrthrych, o bob
rhyw ddeunydd - sy鈥檔 angenrheidiol i lenyddiaeth. Dim ond oherwydd
cymhelliad cadarnhaol mawl y gwneir llenyddiaeth yn bosibl," meddai.
Y mae鈥檔 wir yn "gongl-faen" yn yr ymdrech i ddiffinio beirniadaeth
lenyddol ei hun.
Mewn Rhagymadrodd mae'n gwahaniaethu rhwng yr hyn y mae鈥檔 ei
alw yn gyflwr cymelliadol Mawl ar y naill law ac ar y llaw
arall Fawl "sy鈥檔 rhan o gyfundrefn lenddull Mawl/Dychan."
Cymhleth ac anodd
Er nad oes yna ddim byd ar glawr y llyfr i ddweud mai cyfrol wedi
ei chyfyngu i ysgolheigion yn unig yw hon a鈥檌 bod yn dreth ar iechyd
meddwl y gweddill ohonom ni fydd y sawl sy鈥檔 gyfarwydd a gwaith R.
M. Jones yn disgwyl rhywbeth hawdd ei ddarllen a鈥檌 ddeall beth bynnag.
Nid y rhai hynny sy鈥檔 disgwyl eglurhad syml a dealladwy o unrhyw bwnc
sydd yn troi ato ef am gymorth. Felly, efallai ei bod yn annheg cwyno
nad yw hynny i'w gael yma.
A dydw i ddim yn meddwl mai鈥檙 rheswm am hynny yw fod y cysyniadau
eu hunain yn rhai arbennig anodd eu deall. Y mae鈥檙 bai yn llwyr ar
fynegiant a all fod yn affwysol o gymhleth ac aneglur ar adegau. Brawddegau
trofaus - yn drwmbeli aml-gymalog o eiriau anodd a thermau anghyfarwydd
- y mae angen map i ddilyn eu hymresymu trofaus.
Efallai fy mod yn ddiniwed yn credu mai un rheswm dros dalu am addysg
coleg i bobl yw y bydden nhw wedyn yn dod oddi yno gyda鈥檙 gallu i
oleuo tywyllwch y gweddill di-goleg ohonom. Gwneud yr hyn sy'n gymhleth
inni yn eglur, y dyrys yn glir.
Fodd bynnag, gall cyfrolau fel hon ymddangos fel pe byddent wedi eu
sgrifennu i鈥檙 dethol dysgedig gyda鈥檙 llwyr fwriad o鈥檔 dieithrio ni
ddarllenwyr cyffredin.
Yn union fel y beirdd hynny sy鈥檔 gwneud i鈥檙 cymharol hawdd ymddangos
yn anos nag yw mewn gwirionedd gan gredu mai rhywbeth sy鈥檔 cymhlethu鈥檙
syml yw barddoniaeth yn hytrach na chyfrwng sy鈥檔 troi鈥檙 cymhleth yn
ddarluniau cofiadwy, hawdd eu deall, sy鈥檔 ei gwneud yn bosib inni
adnabod yr anadnabyddiedig a deall yr astrus.
Gwahanol ac ecsentrig
Fodd bynnag, wedi dweud hynny, y mae yna elfennau difyr a phryfoclyd
ym Mawl a鈥檌 Gyfeillion lle mae R. M. Jones yn tynnu ar ei wybodaeth
eang a thrwyadl ac yn defnyddio ei grebwyll gwahanol - neu ecsentrig,
hyd yn oed - i ddehongli yn wahanol wahanol bynciau llenyddol.
Pan yw yn trafod cyfnodau neu bynciau penodol y mae y gyfrol hon ar
ei chryfaf a mwyaf diddorol - a dealladwy - megis pan yw鈥檔 s么n am
y ffordd ddiddorol y democrateiddwyd mawl o fod yn "ddweud petha neis"
am uchelwyr a phendefigion a noddwyr i ganu am y gwerinwr a鈥檙 gweithiwr.
Difyr hefyd y drafodaeth am y gwahaniaeth rhwng moli Duw a moli gwrthrychau
meidrol a鈥檙 ddamcaniaeth na all moli Duw fod yn "seboni" tra gall
moli鈥檙 llall fod yn yn weniaith negyddol.
Cynnal trefn arbennig
Diddorol eto y trywydd mai cynnal trefn arbennig yr oedd mawl yn y
lle cyntaf o safbwynt y beirdd ond i newid ddod yn hyn o beth yn sgil
amwysedd a choegni mawl yn llaw Dafydd ap Gwilym.
Bu ei ddylanwad ef yn chwyldro a ledwyd wedyn gan feirdd yr uchelwyr
i gynnwys y gweddus a鈥檙 masweddus.
A beth am y syniad o fawl yn nwylo yr emynydd, William Williams Pantycelyn?
Yn sicr mae鈥檙 gyfrol yn gwneud inni sylweddoli bod mwy i ganu mawl
na鈥檙 diffiniad amrwd cyntaf sydd yn dod i feddwl dyn. Yr unig drueni
yw nad yw hynny鈥檔 cael ei fynegi cyn gliried ag y gellid bob amser.
|
|
|