|
|
Trysor
am
nawpunt
Syniad
da iawn i'r rhai sy'n chwilio am anrheg.
Adolygiad o berthynas agos i Lyfr Mawr y Plant
Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
|
Adolygiad
gan Elen Rhys:
Syniad Da Iawn! Golygydd: Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch.
£9
Ydych chi mewn picil beth i’w roi’n anrheg i’ch nain neu’ch nith?
Ydych chi am gadw’ch wncwl neu’ch wyrion yn dawel am sbel? Wel, mae
gen i Syniad Da Iawn i chi - cyfrol sy’n apelio at blant o
bob oed!
Do, mae Myrddin ap Dafydd, y golygydd, wedi llwyddo unwaith yn rhagor
i greu rysáit blasus inni gyd:
Y Cynnwys yw:
Llond sach o straeon byrion
Un stori gyfres
Tri phennill ysgafn
Chwech o gerddi gogleisiol
Lluniau lliwgar a chartwnau difyr
Dull:
Cael gafael ar bum awdur profiadol, poblogaidd, o gig a gwaed
i ‘sgwennu storïau, penillion a cherddi.
Bachu tri dylunydd dawnus i roi lliw a sbeis i’r print.
Cymysgu maint y ffont - Ffont mwy i’r plant lleiaf (neu taid
sy’ wedi colli ei sbectol) a ffont lai i’r plant hynaf.
Canlyniad?
Llond bol o chwerthin ac ambell ddarn i gnoi cil drosto. Rhywbeth
at ddant pawb!
Do, ges i flas ar ddarllen y gyfrol hon.
Ac, ydy, mae’n glamp o gyfrol sy’n cynnwys 195 o dudalennau i gyd
- cyfrol sy’n debyg iawn o ran pryd a gwedd i Llyfr Mawr y Plant.
Rhyw wyres iddi, wedi ei gwisgo yn ffasiwn heddiw.
Yn wir, mae’r pedair stori am Jaco, yr Aderyn Traed Mawr a’i ffrindiau
yn perthyn yn agos o ran arddull a chymeriadau i’r hen ffefryn Wil
Cwac Cwac.
Cofiwch chi, Jaco, nid Wil, yw’r un drwg y tro hwn! Mrs Chwidl Chwadl
a gawn ni yma’n hytrach na Martha Plu Chwithig a chrëwyd Ceidiog y
Ceiliog i gymryd lle Sioni Ceiliog Glas yn ffrind i Jaco.
Ydyn, mae Jaco a Wil yn debyg iawn i’w gilydd, a pham lai? - gyda
chyffyrddiadau hyfryd o wreiddiol gan Sioned Wyn Huws, mae’r storïau
yma’n siw^r o weithio hefyd! ‘Sdim pwynt efelychu syniad gwael nag
oes?
I'r plant lleiaf
Ond yn ôl at weddill y cynnwys. I’r plant lleiaf (yn ogystal â Jaco)
ceir pedair stori ddoniol gan Haf Llywelyn am Idwal sy’n mynnu mynd
â Rosmari’r ddafad yn gwmni iddo i bob man.
Ar ben hynny, penillion ysgafn Gwyn Morgan sy’n siwr o’ch gadael mewn
ffit o gigls gwirion.
A beth am y plant hynaf? Wel, stori gyfres wych mewn pum rhan gan
Myrddin ap Dafydd, sef Y gog yn canu’n y gaeaf. Yma down ar
draws aderyn yn dioddef gan ffliw Periw ac yn cael ei gynorthwyo drwy’r
tywydd caled gan gymeriadau difyr fel Tylluan Wen, y Doctor Cwac,
y Dryw Bach Barus - a hynny er gwaethaf bygythiad Tincar y Gath.
Cewch hefyd fwynhau tair stori unigol a cherddi gogleisiol.
Ie, dyma drysor o gyfrol am £9 sy’n siwr o adael plant Cymru o bob
oed yn gyfoethocach!
Elen Rhys
|
|
|