|
|
Sawl
blas mewn
bag losin o gyfrol
Cymysgedd o gerddi yn amrywio o'r gwladgarol i'r prudd yng nghyfrol
Emrys Roberts
Dydd Iau, Mawrth 15, 2001
|
Harddwch yn dechrau Cerdded gan Emrys Roberts.
Barddas.
Adolygiad gan Mari George
Rhyw fag losin o gyfrol yw hon.
Sawl blas gwahanol at ddant pawb. Cymysgedd sydd yma o gerddi caeth
a rhydd gyda rhai ohonynt yn y mesur gwers rydd cynganeddol.
Mae’r themau yn amrywio o’r melys, i’r chwerw a’r sur.
Cynhesrwydd bywyd teuluol
Mae Emrys Roberts yn fardd ac yn awdur adbanyddus a'i ymdriniaeth
o’r Gymraeg yn dangos hynny.
Dyma fardd nad yw’n ceisio bod yn arloesol yn ei bwnc na’i fesur.
Cana o’r galon - y pethau hynny sy’n ei boeni, ei blesio, ei ddiddori
ei gythruddo a’i arteithio.
Cawn flas ar gynhesrwydd ei fywyd teuluol yn y cerddi hyfryd i’w wyrion
ac wyresau fel yn Hapusrwydd yn ddwyflwydd oed lle ceir disgrifiad
o’i wyr bach yn dechrau siarad:
Cariad o wyr siaradus, ac arian
Geiriau bach soniarus
Yr iaith fel brithyll ar frys
Yn deifio dros dy wefus.
Delweddau o fyd natur
Byd natur sy’n cynnig ei hun yn ddelweddau i’r rhan fwyaf o’r cerddi
ac mae hynny’n eu gwneud yn bleser i’w darllen.
Mae nifer o gerddi tebyg sy’n amlwg wedi rhoi pleser mawr i’r bardd.
Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae
Croesawu’r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i’r bardd
gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus
Iwerddon.
Meddai:
Ar ddydd ein mawr lawenydd
fe dalai inni gofio’r hanes
am goeden cenedl.
Delwedd y goeden
Mae’r ddelwedd estynedig o goeden yn effeithiol iawn wrth i ni weld
ochr arall i’r blaguro gwanwynnol sef y pydredd a ddaw yn sgil gwenwyn
yn y pren:
Eithr yng nghoeden yr aileni
ers dydd ei hanadlu’n rhydd yn yr haul
a thawel nos wyrthiol hualau’n syrthio,
pery rhyfel y pryfaid anwel i wenwyno
ei hegin hi er ei gwanwyn newydd.
Mae marc eu hangau hwy’n
drwm ar y canghennau
a heddiw ymleda’n ddolennau o ddu
ar ddeilen yr Wyddeleg.
Angerdd at wladgarwyr
Teimla’r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys
y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis.
Wrth gwrs, cryf iawn yw’r englynion i Sion Aubrey e.e
Haearn i fêr un o Fon yw sialens,
A sel dy gyfeillion,
A fflam ddyfal dy galon
Yw golau’r sêr yn glir, Sion
Ac o ddynion cadwyni yfory
Bydd arwyr i’w moli;
Yno’n eu pilth wrth enwi
Dynion dewr bydd d’enw di.
Ffraethineb yn gryfder
Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos
at ei galon.
Mae hyn yn cryfhau’r dweud fel yn y gerdd sy’n difrio’r Orsedd am
beidio ag anrhydeddu Sion Aubrey cyn i Emrys Roberts, fu gynt yn Archdderwydd,
ymddiswyddo yn 1994.
Geilw ei gydfeirdd yn ‘dwr o brifeirdd yn clochdar a brefu’.
Salwch ac iselder ysbryd
Mae ochr ddwysaf y bardd i’w weld yn ei gerddi am salwch ac iselder
ysbryd fel yn Gwaeledd lle mae’n ceisio ymladd pylau o dduwch:
Cael fy sugno beunos heb obaith am gwsg, a’m gwasgu
yn nuwch tonnau afiach y twnnel
I rowlio i rywle
a llewygu o dan farn.
Daw teimladau dyfnaf dyn i’r wyneb yn Methu lle disgrifia’r
bardd y rhwystredigaeth o deimlo’n fethiant llwyr oherwydd diffyg
egni ac awydd ynghlwm â hiraeth am y gorffennol. Mae hon yn
gerdd gref:
…mwy ysgeler, fel gwenwyn diferion
pair gwiddon, gan ddwyn lwmp i’r gwddw,
yw arswyd methu sgwennu’r un gair o werth,
mor ddi-nerth a nant ar noson loergan yng nghanol
ei dawns daer a rewyd yn stond.
Mae yma gerddi gwefreiddiol ynghanol casgliad cymysg iawn o ran naws.
Cerddi lliwgar i’w mwynhau yw’r rhan fwyaf, cerddi y galwch eu darllen
drosodd a throsodd a gweld profiad newydd ynddynt bob tro.
Y gerdd a’m swynodd i fwyaf yw’r gerdd olaf, Colli, lle mae’r
bardd ofn colli ei anwyliaid a’r pethau sy’n bwysig iddo:
Wyneb un yn arbennig
wyneb annwyl yr hon a wyr
mai’r un o hyd yw y geiriau:
Rwy’n dy garu.
|
|
|