|
|
Trefnu
priodas
- yn berffaith
Llawlyfr buddiol art gyfer poced a bag llaw cariadon Cymraeg
Dydd Iau, Mawrth 15, 2001
|
Sut i. . . Drefnu Priodas gan Bethan Mair
a Meleri Wyn James. Gwasg Gomer. 拢2.95.
Mae yna stori - am weinidog yn annerch mewn priodas.
Gan gyfeirio at y priodfab, dywedodd rywbeth yn debyg i hyn:
"Rwy鈥檔 cofio pan briodais i," meddai. "Yr oeddwn fel bachgen bach
wedi cael beic newydd am y tro cyntaf. Yr oeddwn i ar ei gefn o drwy鈥檙
dydd, bob dydd."
Efallai na fyddai鈥檙 creadur wedi rhoi ei draed ynddi fel yna pe byddai鈥檙
llyfr Sut i . . . Drefnu Priodas ar gael yr adeg honno.
O'r dyweddiad i'r mis mêl
Mae鈥檙 llawlyfr bychan 70 tudalen gan Bethan Mair a Meleri Wyn James
yn cynnig canllawiau - yn hytrach na chynghorion - ynglyn 芒 phob agwedd
o drefnu priodas o鈥檙 ddywedd茂ad i鈥檙 mis m锚l a鈥檙 diolch am yr anrhegion.
Ond, mae鈥檙 p芒r swil ar eu pen eu hunain rhwng y cynfasau noson y mis
m锚l. Er, o wybod am agweddau cyfoes, go brin y bydd llawer o barau
yn gwneud dim noson y noson honno nad ydyn nhw wedi ei wneud hyd yn
oed cyn dywedd茂o!
Torri sawl dadl
Synnwyr cyffredin yw llawer o鈥檙 sylwadau wrth gwrs ond y mae鈥檔 ddefnyddiol
cael yr holl orchwylion ynglyn 芒 threfnu digwyddiad o鈥檙 fath yn rhestr
daclus. Buddiol hefyd yw cael awgrym faint ymlaen llaw y dylid gwneud
gwahanol bethau.
Bydd y llyfr o gymorth mawr i dorri sawl dadl pwy sy鈥檔 gyfrifol am
beth - rhieni鈥檙 briodferch i dalu am ffotograffydd, trafnidiaeth,
y wledd ac ati er enghraifft ond y gwr yn gyfrifol am daliadau yn
gysylltiedig a chapel, y modrwyau a blodau i鈥檙 briodferch, y morynion
a鈥檙 ddwy fam ond nid y blodau sy鈥檔 rhan o鈥檜 haddurniadau.
Pethau'n mynd o chwith
Mae鈥檙 llyfryn yn rhagweld pethau鈥檔 mynd o chwith hefyd, achos gall
ambell i briodas chwalu cyn iddi ddod at ei gilydd hyd yn oed. Ar
adeg felly "mae鈥檔 gwrtais" cynnig dychwelyd anrhegion dywedd茂o i鈥檙
bobl a鈥檜 rhoddodd.
Os mai鈥檙 ferch sy鈥檔 torri鈥檙 ddywedd茂ad mae鈥檔 arferol iddi ddychwelyd
y fodrwy er nad oes raid iddi.
"Os y dyn sy鈥檔 gorffen y berthynas, byddai鈥檔 rhwbio halen yn y briw
i ofyn am y fodrwy yn 么l," meddir.
Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri
Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o鈥檙 math yma o gyhoeddiadau
ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl p芒r cael cyfrol fach fel
hon wedi ei hanelu鈥檔 benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
Mae o faint hwylus ar gyfer poced a bag llaw er, efallai, y byddai
rhai yn hoffi hefyd gyhoeddiad mwy cylchgronol gyda lluniau o wisgoedd,
steils gwallt ac yn y blaen. Ond byddai hwnnw yn gyhoeddiad gwahanol
ac mewn peryg o ddyddio.
Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ff么n a chyfeiriadau
defnyddiol ac fe fyddwn i鈥檔 bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi)
wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai
ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.
Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai
sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r
llyfryn hwn yn cychwyn.
Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill
yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn
priodi.
Atebodd: "Wel, os byddai wedi gwneud camgymeriad a chanfod fod priodas
yn hunllef fydd dim rhaid imi ddioddef yn hir. Ar y llaw arall, os
bydd yn wynfyd mi allai dreulio fy mlynyddoedd olaf gyda gw锚n ar fy
wyneb."
gan Glyn Evans
|
|
|