|
|
Chaucer
ar CD ROM
Y llawysgrif hynaf o'r Canterbury Tales yn y Llyfrgell
Genedlaethol
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
|
Y mae un o brif drysorau Llyfrgell
Genedlaethol Cymru yn awr ar CD-ROM - yr Hengwrt Chaucer.
Dyma鈥檙 llawysgrif hynaf o鈥檙 Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer,
un o brif gampweithiau llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol.
Bu鈥檙 llawysgrif hon yng Nghymru ers yr ail ganrif ar bymtheg o leiaf.
Ymchwil newydd
Yn 么l ymchwil newydd gan ysgolheigion yng Nghaer-lyr a Sheffield,
gellir tybio mai Chaucer ei hun oruchwyliodd beth o waith cop茂o a
golygu y llawysgrif cyn ei farwolaeth ar Hydref 25, 1400.
Ffrwyth partneriaeth rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrosiect y
Canterbury Tales, dan arweiniad y Dr Peter Robinson o Brifysgol De
Montfort, yw鈥檙 CD-ROM.
Gyda chamera digidol a sgiliau technegol ei staff, mae鈥檙 Llyfrgell
wedi creu鈥檙 delweddau electronig gorau posibl, o bob tudalen o鈥檙 llawysgrif
hynod hon.
Mae鈥檙 lluniau llawn lliw hyn o safon mor uchel fel bod modd gweld
yn eglur fanylion na ellid eu gweld 芒鈥檙 llygad.
Yn ogystal 芒 ffacsimile digidol, bydd y CD-ROM yn cynnwys adysgrifau
a thrafodaeth lawn o鈥檙 llawysgrif, gan gynnwys yr holl dystiolaeth
newydd am sut a phryd y rhoddwyd y llawysgrif at ei gilydd.
Dod a'r gorffennol yn fyw
Meddai鈥檙 Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, arweinydd y prosiect yn y Llyfrgell:
"Mae鈥檙 prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn dangos sut y gall y dechnoleg
newydd ddod 芒鈥檙 gorffennol yn fyw.
Bydd y CD-ROM yn sicrhau bod gwaith Chaucer, a鈥檙 llawysgrif allweddol
hon a gadwyd yn ddiogel yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau鈥檙 Llyfrgell
Genedlaethol ers ei sefydlu canrif yn 么l, ar gael i bawb mewn ffordd
na fu erioed yn bosibl cyn hyn."
I gydfynd 芒鈥檙 dathlu, bydd llawysgrifau a llyfrau printiedig yn cynnwys
gweithiau Chaucer yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.
:
Oes gennych chi sylw i'w wneud?
Ebostiwch i ddweud
|
|
|