³ÉÈËÂÛ̳


Explore the ³ÉÈËÂÛ̳

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈËÂÛ̳ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr Ar drywydd llofruddion

Datgelu'r gwir am bedwar achos o farwolaeth amheus

Dydd Iau, Mawrth 22, 2001

Gwenwyn yn y Gwaed gan Roy Davies. Cyfres Dal y Gannwyll. Golygydd Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. £3.99.

Adolygiad gan Ben Thomas

Pedwar achos o farwolaeth amheus a geir yn y gyfrol fach hon. Achosion a gofnodir yn drylwyr ac yn drefnus, fel y bydde disgwyl i unrhyw gyn-dditectif ei wneud.

Ffaeleddau ddoe a heddiw

Yn Gwenwyn yn y Gwaed mae Roy Davies yn llwyddo i adrodd yr hanesion yn gryno, ond gyda digon o fanylder wrth bortreadu ei brif gymeriadau fel ei fod yn ennyn awydd yn y darllenwr i ddod i wybod am eu tynged.

Mae tri o’r pedwar hanes yn perthyn i oes a fu; yng Nghymru’r 1920au, ond buan iawn y daw hi’n amlwg mai yr un oedd ffaeleddau pobl yr adeg honno â ninnau heddiw.

Tuedd dreisgar yw gwendid Griffith Jenkins yn y stori gyntaf, Ar Wely Angau, a’i wraig druan, Mary, sy’n dod yn destun ‘trancedig’ yr hanes.

(Mae hi werth nodi yn y fan hon fod arddull ysgrifennu Roy Davies, o’i hanfod, yn dechnegol ar adegau, ond mae geiriau pwysig yr olwg fel trengholiad a madruddyn yn ychwanegu at naws ddifrifol yr hanesion.)

Smygu pibell a chadw ieir

Cychwyn yr ail stori, Hen Dwrne Bach Cydweli, gyda digwyddiad digon annymunol, sef datgladdiad truain yr hanes yma.

Gwraig i Harold Greenwood oedd Mabel ac mae’r disgrifiad sy’n cael ei roi o’r gwr drwgdybus yn un sydd werth ei ddyfynnu:

‘Dyn byr o gorffolaeth oedd Harold Greenwood, bob amser yn drwsiadus, a chanddo fwstas yn britho, aeliau trwchus, a golwg effro a chraff bob amser. Arferai grychu ei fwstasen yn aml, arwydd o falchder mae’n siwr. Ysmygai bibell a chadwai ieir.’

Rhy hawdd proffwydo

Yn Y Corff yn y Gasgen mae’r dystiolaeth yn erbyn Henry Davies mor dyngedfennol nes bod canlyniad ei achos llys yn un sydd bron â bod yn rhy hawdd ei broffwydo.

Atyniad yr hanes yma, fodd bynnag, ydy gweld sut mae’n mynd ati i geisio egluro ymaith yr holl ffeithiau sy’n ei gondemnio ar ôl darganfod corff ei wraig â’i phen i lawr mewn casgen fawr o ddwr.

Stori ola’r gyfrol yw’r unig un lled-hunangofiannol ar ran yr awdur.

Fe gafodd Amanda Randall ei lladd ym 1978, ac mae hanes llofrudd merch pedair-ar-ddeg oed mewn cyfnod gweddol diweddar yn gwneud Y Gwr â Surodd y Gwin yn stori fwyaf byw y llyfr.

Cofio datblygiad erchyll

Fe fydd nifer o ddarllenwyr ardal Llanelli yn siwr o gofio’r digwyddiad erchyll hwn, ond difyr yw gweld y datblygiadau gwyddonol sy’n helpu i adeiladu achos yn erbyn Graham Bowen, a chael hynny o safbwynt y gyfraith.

Nid llyfr yn null Agatha Christie neu Sherlock Holmes yw Gwenyn yn y Gwaed.

Ffeithiol a phwyllog yw’r hanesion yn hytrach na’u bod yn llawn tensiwn a chyffro.

Serch hynny, mae pob stori yn unigryw a difyr, a gyda phrin cant o dudalennau mae’r gyfrol yma yn un wnaiff diddanu unrhyw un sy’n ymddiddori mewn gweld cyfiawnder yn cael ei gloriannu.

• Beth yw eich barn chi am y llyfr hwn?
Ebostiwch i ddweud
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd






About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy