|
|
Bardd
sy'n
cusanu
trwy hances
Mae'r cerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr a'i gilydd
yng nghyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
|
Cusan Dyn Dall gan Menna Elfyn. Bloodaxe.
Adolygiad gan Katie Jones
Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth
yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.
Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau
Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.
Cyfieithwyd y cerddi hyn gan bump o lenorion, Joseph P.Clancy, Gillian
Clarke, Tony Conran, Elin ap Hywel a Nigel Jenkins.
Cymraeg - a Saesneg?
Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg
yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad. Nid felly y bu hi.
Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi,
ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.
Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.
Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon na茂f a thybio y gallai
gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.
Robert Frost a ddwedodd, yn enwog, "Poetry is what is lost in the
translation" ond y mae Menna Elfyn yn herio'r meddylfryd hwn.
Mae RS Thomas, a gyfieithodd rai o'i cherddi blaenorol, wedi cynnig
barn arall ar gyfieithu barddoniaeth:
"Mae cerdd mewn cyfieithiad fel cusan drwy hances."
Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged
i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio
ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth
wreiddiol.
Sylwer, nid yw'r un peth yn wir am grefft y farddoniaeth.
Am be' mae hon yn s么n?
Y byd a'i bethau yw'r teitl mwyaf cywir i ddisgrifio holl them芒u
Menna Elfyn gan mor eang yw ei gorwelion.
Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto鈥檔
hen-ffasiwn; neis.
Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer,
yn cael eu gwanhau ar 么l eu trosi.
Ond teimlaf fod cyfleoedd i drosglwyddo'r hiwmor wedi'u colli yn y
cyfieithu wrth gadw'n rhy agos at y gwreiddiol.
Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd;
mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld 芒 hwy a'r bobl y mae
hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.
Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.
Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd
gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth
apelgar.
Mae'n defnyddio natur ac effaith yr elfennau arnon ni i'w hysbrydoli
i gyfansoddi.
Wrth ddweud "arnon ni" rwyf yn golygu pobl heddiw a phobl a fu yn
yr oesoedd o'r blaen.
Efallai mai dynoliaeth yw鈥檙 gair mwyaf addas a phriodol i ddisgrifio
y brif thema sy'n treiddio drwy ei gwaith.
Er enghraifft, yn y gerdd Haf yr Hanner Nef dywed,
Mor oesol a'r ysfa i godi cragen,
Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r
syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd,
ond i greu delwedd wahanol.
Mae elfennau crefyddol a gwleidyddol yn ei gwaith ond annheg fuasai
gosod unrhyw label felly arni.
Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron
Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.
Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi
Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd.
Teimlir gwirionedd trawiadol yn y gerdd Troedlath Serch,
"Ac mor brin wyf o ddaearyddiaeth dy dynolrwydd.
wrth roi bys a bawd amdanat, gwn mor ddigwmpawd
yw'r galon.
Gwlad anial i'w threfedigaethau ydyw.
(A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi
yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain. Yna'n araf, araf
gropian." )
Felly?
Oherwydd natur y gyfrol hon, mae ei hap锚l yn eang - yn wirioneddol
fyd-eang. Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.
Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir
y cerddi a'r awdur ei hun.
Bydd cynulleidfa Cusan Dyn Dall yn amrywio o Gymry Cymraeg
i ddysgwyr ac i bobl ddi-Gymraeg - sy'n fy atgoffa o eiriau Ezra Pound,
"A great age of literature is perhaps always a great age of translation."
Ewch yn awr i Adnabod
awdur
Beth yw eich barn chi am y gyfrol hon? Ebostiwch
i ddweud
|
|
|