|
|
Bywyd
llawn drama i anterliwtiwr
Cyhoeddi tri o anterliwtiau Huw Jones, Llangwm, gyda chyflwyniad
i'w waith a'i gyfnod
Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
|
Anterliwtiau Huw Jones o Langwm. Golygydd, A Cynfael Lake.
Barddas. £14.95.
Adolygiad gan Aneirin Karadog
Cyfrol yw hon sy’n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny
yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed
ganrif.
Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy
dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.
Dywedir fod y gwr hwn, yn ei ddydd, yr un mor adnabyddus â Thwm o’r
Nant, ein hanterliwtiwr mwyaf ni fel Cymry.
Mae’n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm
ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy’n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.
Mae’n drueni mawr hefyd i gynnyrch Huw Jones o Langwm fynd yn angof
yn hanes ein llên. Felly, ni ellir ond cymeradwyo cyfrol sy’n mynd
i ddatgelu mwy o berlau’r iaith Gymraeg i’w siaradwyr presennol.
Baledwr a chyhoeddwr hefyd
Ynghyd â’r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod
ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr
a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr
barddoniaeth.
Yn wir, cyhoeddodd y gwr hwn waith nifer o feirdd o Fôn - l Goronwy
Owen er enghraifft.
Ond yn ôl at y rhagymadrodd:
Ynddo, yn gyntaf, ceir hanes ei fywyd gan gyfeirio at nifer o englynion
gan amryw o feirdd fel John Jones Caeronw, a luniwyd er coffâd iddo
adeg ei farwolaeth.
Serch hynny, gan fod llawer o wybodaeth amdano wedi mynd ar goll gyda
threigl amser, nid oes modd bod yn hollol sicr ynglyn â rhai
o ffeithiau ei fywyd.
Er enghraifft, yn wahanol i’r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones
ei eni tua 20au neu 30au’r ddeunawfed ganrif.
Y cysylltiad â Llangwm
Er y dywed A. Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn
Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim
amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.
Dywed sut yr aeth Huw Jones i’r carchar a sut y byddai teulu’r Morisiaid
yn ei ddifrïo a’i alw’n nifer o bethau angharedig fel, ‘Llymgi
³¢±ô²¹²Ô²µ·É³¾â€™, ‘³¦³ó·É¾±²µ¾±â€™, ‘cettog o ddyn rhwydd diniwed’,
ynghyd â rhai eraill na ddylid eu hynganu cyn deg o’r gloch
y nos!
Dwy gyfrol bwysig
Yn ail, yn y rhagymadrodd, sonnir am y ddwy gyfrol bwysig a gyhoeddodd.
Y gyntaf oedd Dewisol Ganiadau yr Oes Hon ym 1759 ond yn ôl
Mr Lake nid oes llawer o wybodaeth ynglyn â hon ond y mae mwy o wybodaeth
am ei ail gyfrol, Diddanwch Teuluol, a gyhoeddwyd ym 1763.
Mae hon yn cynnwys gwaith beirdd o Fôn, fel Goronwy Owen, Lewis Morris
a Huw Huws y bardd coch ynghyd ag ambell i gerdd gan Robin Ddu, Sion
Owen, Richard Morris ac eraill.
Yr oedd cyhoeddi yr adeg honno yn fenter gostus gydag ymateb y bobl
fel arfer yn llugoer a dweud y lleiaf.
Dyma englyn a luniodd Huw Jones yng nghastell y Waun oherwydd i’r
meistr a’i weision wawdio ei ymdrechion llenyddol:
Y castell a’r saws sy’n costio ae’n danwydd
a’r dynion sydd ynddo
ar holl gyfoeth boeth y bo
a chebyst i’r sawl ai achybô.
Enwog am ei faledi
Wedi i’r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen
i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy’n ddealladwy ac apelgar
i’r ysgolhaig ac i’r darllenydd cyffredin.
Er i’r anterliwtiwr dawnus hwn gyhoeddi cyfrol y gellir ei hystyried
yn arloesol, o waith beirdd eraill, a chyfrol o’i waith ei hun, yr
oedd yn llawer enwocach am ei faledi.
Yr oedd yn ei elfen ac ar ei enwocaf tua 60au/70au’r ddeunawfed ganrif.
Mae’r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar
ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.
Eglwyswr selog
Aiff Mr Lake ymlaen i sôn am yr anterliwtiau eu hunain - canolbwynt
y gyfrol hon i bob pwrpas - a chynhwysir tri anterliwt a gyhoeddwyd
rhwng 1762 a 1783, Hanes y Capten Ffactor, Histori’r Geiniogwerth
Synnwyr, Protestant a Neilltuwr.
Yn naturiol, ceir yn y rhan o’r rhagymadrodd sy’n canolbwyntio ar
yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio
o’r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth
fel Howel Harris, i’r nifer o benillion a ddosbarthai’r anterliwtiwr
i’w hactorion.
Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn. Maent yn ffraeth, yn
ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.
Gan mai Cymraeg y ddeunawfed ganrif yw Cymraeg yr anterliwtiau cynhwyswyd
geirfa yn y cefn sydd yn hwyluso'r darllen gymaint.
Mae hwn yn llyfr sy’n profi fod y dywediad Saesneg, "don’t judge
a book by its’ cover" yn wir - nid fod y clawr yn gwbl anapelgar
ychwaith!
Ydych chi wedi darllen y llyfr hwn?
Ebostiwch eich barn
|
|
|