|
|
Creu
dryswch wrth egluro dryswch
Darganfod fod llyfr sydd i fod i'n goleuo yn un go dywyll ei
hun
Dydd Iau, Ebrill 12, 2001
|
Robin Llywelyn gan Angharad Price. Cyfres Llên y Llenor.
Gwasg Pantycelyn. £4.
Mae yna stori am ddau Gymro llengar yn trafod ar faes Steddfod nofel
gyntaf Robin Llywelyn toc wedi iddo ennill y Fedal Ryddiaith.
Cyfaddefodd un iddo anobeithio wedi deg tudalen.
Bu chwerthin mawr pan gyfeirwyd at gyfaill arall a fu’n ddigon gwirion,
yn eu golwg hwy, i ddal ati am ugain tudalen!
Mewn cors o ddryswch
Mae’r ymateb a fu i Seren Wen ar Gefndir Gwyn a enillodd y
Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 yn rhan o chwedloniaeth
llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.
Wedi ei chanmol i’r entrychion gan y beirniaid a’i gwelai yn dorriad
gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor
awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.
Nid dyma’r math o sgrifennu yr oeddem wedi arfer ag ef gyda’i gymeriadau
afreal a’i sefyllfaoedd ffantasiol.
Ac fe ddaeth mwy o’r un peth gan yr awdur dyfeisgar hwn gyda’r beirniaid
swyddogol mewn perlewyg ond llawer o ddarllenwyr eraill yn parhau
mewn mewn dryswch.
Mae’n od mewn rhyw ffordd fod pobl sy’n rhan o draddodiad llenyddol
a fu’n sugno maeth y abinogi yn cael cymaint o anhawster gyda’r afreal
a’r ffantasiol - ond efallai nad yw hynny ond i’w ddisgwyl o gofio
i’r dull o nofela yn y Gymraeg, a’i bwyslais ar realaeth, fod yn eitha
digyfnewid ers dyddiau Daniel Owen.
Ein drysu wrth geisio goleuo
Dros y blynyddoedd bu trafod helaeth a chryn anghydweld parthed rhinweddau
Robin Llywelyn fel llenor ac arloesydd gydag astudiaeth o’i waith
gan yr ysgolhaig, Angharad Price o Brifysgol Caerdydd, y cyfraniad
diweddaraf.
Ond er iddi fynd ati i geisio’n goleuo; wedi llwyddo y mae hi i sgrifennu
llyfr sydd cyn anodded i’w ddeall - os nad yn anos i’w ddeall - na’r
gweithiau gwreiddiol mae’n ceisio eu hegluro.
Camp, nid bechan.
Mae’n disgrifio ei chyfrol 63 tudalen fel "trafodaeth ar arwyddocaâd
diwylliannol pellgyrhaeddol gwaith Robin Llywelyn hyd yn hyn."
Ac meddai:
"Gan osod ei ddwy nofel a’i gyfrol o storïau byrion yn eu cyd-destun
cymdeithasol a llenyddol, bydd y gyfrol hon yn archwilio’r pegynu
a fu wrth iddi gael ei derbyn gan ddarllenwyr Cymraeg cyfoes."
Yr union beth, felly, i greaduriaid fel fi a brofodd anhawster gyda
gwaith un sy’n cael ei gydnabod fel llenor o bwys.
dadansoddi perthynas gymhleth
Ond mae'r gyfrol yn cynnig mwy nag astudiaeth o waith Robin Llywelyn:
"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â’r derbyniad a gafodd ei waith,
yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi’r berthynas gymhleth rhwng
awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol
cyfoes y Gymraeg," eglura.
Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor,
yn llusern i oleuo’r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn
achos y llenor arbennig hwn.
Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i
rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda’i harddull,
mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.
Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid
llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan
barodi o'i harddull ei hun.
A hithau’n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon
fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion
- o’u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad
gwerthfawr o’r drafodaeth a fu hyd yn hyn.
Ymdrin a sawl agwedd
Mae yn ymdrin a sawl agwedd o sgrifennu Robin gan gynnwys ei ddefnydd
diddorol ac arloesol o iaith lenyddol a’i dechnegau naratif.
Pennod y cefais i gryn flas arni yw honno yn trafod lle breuddwydion
a ffantasiau yn ei waith gan gychwyn gyda dyfyniad allweddol gan John
Rowlands mai "rhyw fath o freuddwydio ydi llenydda i Robin Llywelyn."
Er bod hynny, efallai, yn ddweud yr amlwg eglura Angharad Price fod
"afrealaeth fel petai’n hydreiddio" gwaith Robin Llywelyn.
". . . fe ymddengys fod mecanyddwaith breuddwydio, yn enwedig y cywasgu
delweddau a’r dadleoli ymwybyddiaeth, wedi bod yn ffafriol ar gyfer
menter greadigol Robin Llywelyn."
Hyd yn oed yma, mae’n mynnu defnyddio geiriau sy’n ei gwneud yn anodd
i ni ddarllenwyr cyffredin ddeall be sy dan big ei chap.
Mae’n werth dyfynnu ambell un o’i brawddegau a fyddai’n dychryn brain:
"Mae cyfwerthedd epistemegol breuddwydion a ‘realiti’ o fewn ei ffuglen
i’w weld yn amlwg yn y stori . . ."
"Drwy anghyfarwyddo’r berthynas gonfensiynol rhwng datblygiad rhesymegol
a datblygiad amserol naratif mae Robin Llywelyn yn awgrymu un ffordd
i danseilio’r metanaritifau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol
a greodd dynged yr iaith Gymraeg. Drwy danseilio amcan deleologaidd
trefn resymegol-amserol naratif, tanseilir ‘trefniant ystyrlon’ naratifau
eraill ein tynged ddiwylliannol."
Os da chi'n dweud.
Ond maddeued imi am feddwl hynny; ond does bosib nad oes yna ffordd
haws i rywun gyda chymaint o addysg ddweud hynna.
Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni
ddylai hynny fod yn esgus pam y mae’r un sy’n dehongli ei waith yn
gwneud hynny hefyd.
Yn hyn o beth y mae Angharad Price yn gwneud cam a’i hastudiaeth ei
hun ac a Robin Llywelyn yn y pen draw - er ei fod yn awdur a wnaeth,
yn ei geiriau hi, "gyfraniad hollbwysig a pharhaol tuag at adnewyddu
iaith, epistemeg a gweledigaeth rhyddiaith Gymraeg ar ddiwedd yr ugeinfed
ganrif."
Diolch byth fod y dryswch yna wedi ei glirio.
Glyn Evans
Adnabod
awdur gyda Robin Llywelyn
|
|
|