|
|
Gweld
sêr
Ond byddai mwy o lewyrch wrth beidio ceisio bod yn trendi
Dydd Iau, Mai 10, 2001
|
Rhyddhad? Casgliad o straeon byrion gan Marlis Jones.
Gwasg Pantycelyn.
Adolygiad gan y Dr Non Indeg Evans
Maen nhw'n dweud mai'r stori fer yw seren wib llenyddiaeth.
Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond
byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael
ei 么l arnaf.
Wedi darllen y gyfrol hon o ddeuddeg stori fer gan Marlis Jones, b没m
yn ystyried a roddwyd i mi unrhyw brofiadau a adawodd argraff arnaf;
a gynhyrfwyd ynof unrhyw deimladau neu emosiynau a fydd yn aros gyda
mi.
Them芒u oesol sydd i'r straeon.
Digon celfydd
Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn
i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.
Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.
Llwydda i bortreadu sawl cymeriad, sydd yn ferched gan amlaf, mewn
modd sensitif.
Gallwn gydymdeimlo 芒 Catrin a aeth ar wyliau tramor gyda'i thad a
Michelle, ei bartner, yn y stori Gwyliau yn Sbaen.
Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael
sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r
ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.
Byw yn alltud
Cymeriad arall a ddewisodd fyw yn unig ac alltud yw'r cymeriad yn
y stori Yn 么l i Lansant.
Mae'r stori hon yn ennyn ein chwilfrydedd o'r dechrau, ond nid wyf
yn credu mai bwriad yr awdures oedd gwneud i rywun chwerthin yn niweddglo'r
stori hon, fel y gwnes i. Nid wyf am ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd
ond, yn sicr, roedd yn annisgwyl ac yn dipyn o sioc.
Ond efallai nad oedd y stori yn ei chyfanrwydd yn taro deuddeg yn
llawn.
A dweud y gwir, ceir sawl awgrym neu sefyllfa yn y gyfrol a allai
godi aeliau darllenydd - merch barchus yn cael ei llofruddio gan ddyn
nad oedd yn llawn llathen, ac yntau yn wrthrych camdriniaeth rywiol
ei hun; dwy fenyw sy'n troi at ei gilydd am gysur corfforol; gwraig
sy'n llofruddio'i gwr gormesol; dau wr priod sy'n talu am ffafrau
rhywiol tra maent ar wyliau.
Ceisio bod yn gyfoes
Er bod digon o botensial yn y sefyllfaoedd hyn i greu straeon byrion
cofiadwy, nid wyf o'r farn fod yr awdures yn gartrefol iawn yn ymdrin
芒'r math yma o bynciau gan nad oes ganddi brofiad ohonynt, a chaf
yr argraff ei bod yn eu defnyddio er mwyn ceisio bod yn gyfoes.
Mwy llwyddiannus yw'r straeon symlach sy'n ymwneud ag emosiynau sy'n
berthnasol i bawb ohonom. Mae Aduniad yn stori am wraig a ddychwelodd
i'w hen gynefin yn dilyn ysgariad.
Dod i ddeall fod pobl yn newid gyda threigl amser a wnawn trwy gyfrwng
y ddau gymeriad yn y stori, Gwen a Jane Clecs.
Dysgwn am y natur ddynol mewn straeon eraill hefyd. Mae Elin yn ymweld
芒 chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai
fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg
siop y pentref.
Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad
芒 chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint
trwy gyfrwng y ddelwedd.
'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol
ac yn llawn bywyd, mor wag. Felly oedd llygaid yr hen wraig yma o'i
blaen.'
Wynebu'r dyfodol
Mwynheais hefyd y stori gyntaf yn y casgliad, Dacw alarch ar y
llyn, lle鈥檙 oedd mam a merch mewn cyfyng-gyngor wrth benderfynu
wynebu'r dyfodol.
Mae'r fam yn amddiffynnol o'i merch, ac ofn gadael iddi fynd, tra
mae'r ferch yn ddall i anghenion y fam. Defnyddir y trosiad o'r cyw
yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo
braidd yn ystrydebol.
Ymddengys bod byd natur, ac adar yn arbennig yn bwysig i'r awdures.
Ymysg ei disgrifiadau synhwyrus ceir sawl cyfeiriad at adar, ac mae
gwylio adar yn ddiddordeb gan fwy nag un o'i chymeriadau.
Llwydda i gyfleu llonyddwch a bodlonrwydd cymeriadau wrth iddynt werthfawrogi
byd natur.
Ni allwn beidio 芒 theimlo y byddai'r straeon wedi bod yn fwy llwyddiannus
pe bai'r awdures wedi tynnu rhagor o'i phrofiadau ei hun wrth ysgrifennu
ac wedi osgoi mynd ar drywydd mwy 'trendi'.
Wedi dweud hyn mae Rhyddhad? yn gyfrol a fyddai'n apelio at
nifer o ddarllenwyr Cymru.
Gall yr awdures ysgrifennu'n gelfydd, creu rhai cymeriadau cofiadwy
a llwydda i gadw diddordeb y gynulleidfa gydag amryw o droadau diddorol
yng nghynffon y straeon.
Ond yn bersonol, rwy'n chwilio am fwy na hynny mewn llenyddiaeth.
Rwy'n chwilio am 么l y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.
|
|
|