|
|
O
fwydo lloi i nymffomania
Cynhaeaf toreithiog o eiriau'r buarth
Dydd Iau, Mai 24, 2001
|
Cydymaith Byd Amaeth. Cyfrol 3 llac - rhywogaeth gan
Huw Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £10.
Geiriadur Idiomau - A Dictionary of Welsh and English
Idiomatic Phrases. Alun Rhys Cownie a Wyn G. Roberts. Gwasg Prifysgol
Cymru. £7.99.
Sylwadau Glyn Evans.
Cyhoeddwyd dau eiriadur dros yr wythnosau diwethaf.
Y mae un, yn bennaf ar gyfer dysgwyr ond gallai Geiriadur Idiomau
- A Dictionary of Welsh and English Idiomatic Phrases fod yn fuddiol
i unrhyw un ohonom sydd wedi cael ei ddal heb ffurf Gymraeg o idiomau
Saesneg fel bite the dust, beneath contempt ac expedite
matters.
Mae’n drueni, fodd bynnag, na ellir dibynnu ar y cyhoeddiad hwn i’n
cael allan o bob straffig - ond mwy am hynny yn nes ymlaen .
Tâs o eiriau
Ond am bob diffyg gyda'r Geiriadur Idiomau y mae lleng o rinweddau
yng Nghydymaith Byd Amaeth - horwth o eiriadur gan y Parchedig
Huw Jones a fu’n taesu mor ddiflino eiriau ac ymadroddion byd amaeth.
Yr oedd dwy gyfrol gyntaf y geiriadur hwn yn bedwar can tudalen yr
un ac y mae’r drydedd yn awr yn 424 sy’n golygu fod Huw Jones wedi
egluro oddeutu 12,000 o eiriau yn barod - ac y mae yn dal heb gyrraedd
pen y dalar gyda’r bedwaredd gyfrol eto i weld golau dydd i gau pen
y mwdwl rhyfeddol hwn.
Gallwch fod yn eithaf sicr nad oes yr un gair amaethyddol yn bod nad
yw unai wedi ei gynnwys yng ngeiriadur Mr Jones neu sy’n mynd i gael
ei gynnwys yn y bedwaredd gyfrol.
Ac y mae Gwasg Carreg Gwalch nid yn unig yn haeddu ei chanmol am ymgymryd
a’r dasg enfawr hon ond hefyd am sicrhau fod y gwahanol gyfrolau yn
cael eu cyhoeddi o fewn amser rhesymol i’w gilydd.
Trylwyr a chynhwysfawr
Adeg cyhoeddi’r gyfrol gyntaf disgrifiwyd y geiriadur, yn ddigon teg,
fel "y gwaith mwyaf trylwyr a chynhwysfawr a chyfoethog erioed i’w
wneud ar eiriau, ymadroddion a thermau amaethyddol yn y Gymraeg" gyda’r
cyfan yn ffrwyth "blynyddoedd o lafur."
Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai
nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am
ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.
Mae ei gymwynas yn enfawr achos, fel y dywedwyd pan gyhoeddwyd y gyfrol
gyntaf, gymaint fu’r newid cymdeithasol ac ieithyddol dros y blynyddoedd
diwethaf y mae llawer o’r eirfa a ddiogelir yma yn ddieithr erbyn
heddiw i hyd yn oed feibion a merched ffermydd!
Meddai Huw Jones ei hun yr adeg honno:
"Mae’n amlwg mai’r Cymry a aned yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed
ganrif fydd y rhai olaf i wybod ystyr llawer iawn o eiriau ac ymadroddion
ffermio ddoe a’u defnyddio yn ystwyth."
Yn fwy na geiriadur
Mae’r Cydymaith yn fwy na geiriadur. Yn gyfrol synhwyrus cynnwys fwy
na diffiniadau oerion.
Gallaf ddychmygu clywed hen arogleuon amaethyddol wrth bori drwy’r
gyfrol hon. Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen
am roi bys i lo bach i’w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno’r
deth.
"Llaeth o’r bwced Dull o roi llith i’r llo pan nad yw’r llo
yn sugno’i fam. Godrir y llaeth a rhoi dogn mewn bwced i bob un o’r
lloi. Gan fod y reddf i chwilio am deth mor gryf mewn anifail sugno,
ceir cryn drafferth weithiau i gael llo i ddygymod ag yfed o’r bwced.
Y pryd hwnnw rhaid rhoi bys yn ei geg ac yna rhoi ei geg a’r bys yn
y llaeth i’w gael i arfer. . ."
Mae’r cyfeiriadau yn amrywio o’r cyffredin i’r anghyffredin o’r disgwyliedig
i’r annisgwyl.
Pwy, y tu allan i fyd amaeth, a fyddai’n dyfalu pa bwrpas sydd yna
i lo gwellt:
"Llo wedi ei wneud o wellt i’w roi dan fuwch i’w llithio a’i swcro
i ildio’i llaeth pan fo’n styfnig i wneud hynny."
Ac er y bydd llawer yn gyfarwydd a’r term lladd gwair
tybed faint sy’n sylweddoli fod ystyr gyfyng iddo:
"Lladd gwair yn hanner cyntaf Mehefin . . . ond . . . torri
gwair . . . yng Ngorffennaf, pan fyddai’r gweiryn wedi caledu a’r
pen wedi gwynnu."
Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros
ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad
fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.
Bwyta pwrs y fuwch
A dyma damaid o fwyd na fydd pawb yn gyfarwydd ag ef
"llur eg. Pwrs buwch . . . wedi ei biclo a’i baratoi
ar gyfer ei fwyta . . . Ystyrid llur yn ddanteithfwyd gynt, yn enwedig
ar ôl ei biclo."
Tipyn o nymffomania
Ac os yr oeddech chi o’r farn mai rhywbeth a gyfyngwyd i nofelau a
sêr pert y ffilmiau yw nymffomania darllenwch hyn:
"Gorawydd rhywiol (am anifail), gwylltineb rhywiol, gorwasodrwydd
(buwch), gorfarchusrwydd (caseg), gorlodigrwydd (hwch).
Ymhlith y geiriau y mae eu swn yn ychwanegu at eu hystyr y mae llyfadu
- "anadlu’n fân ac yn fuan, anadlu’n fyr a chyflym, fel y gwna ci
a dafad . . . ffurf ar y gair lluddedu yw . . . Ar lafar yng
Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin."
Gwynt y nithlan
Er fy mod yn gyfarwydd a’r gair nithlen - nithlan i
mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd
y sach gwreiddiol ni wyddwn mai’r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian
a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu’r us oddi wrth
y grawn" a’r bathiad yn gwbl resymol o weld mai’r enw am "un yn gwyntyllio
. . . ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a’r enw ar y weithred
yn nithio.
Wrth gwrs ni fyddai rhywun byth yn dod i ben a dyfynnu cyfeiriadau
difyr allan o gyfrol fel hon a’i dalennau yn brothio ohonyn nhw.
Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch,
ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae’r cyfrolau hyn yn
ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a’r rhyfeddod yw
mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw’n gyson ers
y gyfrol gyntaf un.
Gweler hefyd
•
|
|
|