|
|
Cyfrol
sâl
Cerddi gwael sy'n siwr o godi calon plant ac oedolion
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
|
Tabledi Gwneud-chi-wenu. Detholiad o gerddi wedi
eu golygu gan Myrddin ap Dafydd.
Adolygiad Katie Jones
Dyma gasgliad arall o farddoniaeth yn y gyfres boblogaidd o Lyfrau
Lloerig gan Gwasg Carreg Gwalch.
Golygydd y gyfrol yw Myrddin ap Dafydd ac mae鈥檙 cerddi yn y llyfr
hwn i gyd ar yr un thema, salwch.
Ond peidiwch â digalonni, da chwi, gan fod yma ddôs o
farddoniaeth sy'n llawn hiwmor yn ogystal â heintiau.
Ymhlith y cyfranwyr mae beirdd fel Nesta Wyn Jones, Carys Jones, Tudur
Dylan Jones, Margiad Roberts a鈥檙 golygydd ei hun, Myrddin ap Dafydd.
Doniol ac annwyl
Mae鈥檙 cerddi鈥檔 ddoniol, yn ddiniwed ac yn annwyl.
Darluniwyd y llyfr gan y cartwnydd poblogaidd, Siôn Morris,
ac mae ei luniau bywiog yn adlewyrchu naws a hwyl y cerddi.
Llyfr i blant yw hwn ac mae cyfrolau o鈥檌 fath yn ffordd ardderchog
o gyflwyno barddoniaeth i glustiau bychain, ifainc.
Flynyddoedd yn 么l, cerddi A.A.Milne yn y gyfres When We Were Very
Young oeddwn i yn eu darllen a chael fy hudo gan y geiriau a鈥檙
delweddau hyfryd.
Nid oes gwell ffordd o ddysgu sgiliau barddoni, a rhythm, na鈥檙 fformat
hwylus yma.
Er mai cyfrol sy wedi ei hanelu at blant yw hon bydd pawb yn cael
mwynhad o鈥檌 darllen.
Yn sicr, mi gefais I - wedi鈥檙 cyfan mae pawb yn s茠l o dro i dro ac
yn dioddef o ambell Benmaenmawr.
Rhywbeth at ddant pawb yw鈥檙 llyfr hwn felly.
Plygwch drosodd syr . . .
Yn ddigon rhyfedd, mi ddechreuais i ddarllen y llyfr mewn meddygfa
- a chas gennyf fynd i鈥檙 fan honno.
Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau鈥檔 crynu a鈥檙 bol yn aflonydd
oherwydd fod arna'i ofn. Nid ofn y doctor na鈥檙 nyrsys a鈥檜 nodwyddau
mawrion, tewion, ond ofn y dderbynwraig.
Felly, croesawais gerdd Valmai Williams a鈥檌 chyngor doeth ynglyn 芒鈥檙
Lle i鈥檞 Osgoi.
Os am gadw鈥檔 iach, da chi,
Cadwch draw o鈥檙 syr-jy-ri.
Does dim lles mewn 鈥榠sta 鈥榥ghanol
Jyrms peryglus criw o bobl
Sydd yn tagu ac yn tisian
Ac yn chwythu trwyn a snwffian;
Cadwch draw o鈥檙 syr-jy-ri
Os am gadw鈥檔 iach, da chi.
Er mai salwch yw thema鈥檙 cerddi hyn, mae gan y beirdd gryn amrywiaeth
o fewn y pwnc fel damweiniau, salwch, teithio, nerfau cyn llwyfan
eisteddfod a gwenwyn bwyd.
Fy hoff gerdd yn y gyfrol yw Pwy? lle mae Selwyn Griffiths
yn cyfuno diniweidrwydd cwestiynau plant 茠 hiwmor mewn ffordd hynod
o effeithiol.
Rwy鈥檔 nabod Ses drws nesa,
A Sel a Nel a Nia,
Ond plis dywedwch wrtha i -
Pwy ydi Dei a Ria?
Ceir sawl disgrifiad o arwyddion afiechydon a dyma un enghraifft fanwl
gan Margiad Roberts yn ei cherdd Salwch.
Dwi鈥檔 gwla, dwi鈥檔 giami,
dwi鈥檓 hannar da.
Mae 鈥榤hen i鈥檔 y Sahara
a 鈥榥hraed i 鈥楴gwlad yr Ia.
Mae sawl cerdd am bobl sy鈥檔 smalio bod yn giami yn gyson er mwyn peidio
芒 mynd i鈥檙 ysgol. Nid damwain, 鈥檙wy鈥檔 siwr, yw鈥檙 ffordd mae rhai cerddi
wedi cael eu hysgrifennu gan ei gwneud yn anodd dehongli pwy yw鈥檙
adroddwr - athro neu ddisgybl?
Mae鈥檙 gyfrol yma鈥檔 cynnwys Rysait Aros Adra felly os yr ydych
yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu cwynion newydd, mi gewch sawl symptom
gwreiddiol.
Ffisig gorau
Er yr holl chwerthin gydol y llyfr mae ambell gerdd ddwys ac 鈥檙wyf
am orffen yr adolygiad trwy ddyfynnu cerdd hyfryd y golygydd, Myrddin
ap Dafydd, C茠n Gwella
Gad i mi weld lle ti鈥檔 brifo,
Gad i mi deimlo dy wres,
Gad i mi glywed dy gwyno,
Gad i mi eistedd yn nes;
Gad i mi ddanfon dy ddolur ymhell,
Gad i mi鈥檌 chwythu yn well.
Ga i mi sibrwd breuddwydion,
Gad i mi gynnal dy ben,
Dy ddal di at fy nghalon
A dangos bod seren wen;
Gad i mi yrru dy boen di ymhell,
Gad i mi鈥檌 chwythu yn well."
Gad i mi yrru dy boen di ymhell,
Gad i mi鈥檌 chwythu yn well.
Casgliad arall o gerddi doniol a darllenadwy yn y gyfres o Farddoniaeth
Loerig sy鈥檔 gwneud imi gredu mai ffisig geiriol yw鈥檙 gorau yn
wir.
|
|
|