|
|
Y Mwyaf o'r John Daviesus
Pwyso a mesur ysgolhaig mwyaf ei gyfnod
Dydd Iau, Mehefin 14, 2001
|
John Davies o Fallwyd gan Ceri Davies. Llên y Llenor.
Gwasg Pantycelyn £5.
Sylwadau Glyn Evans.
Y mae naw John Davies yn cael eu rhestru yn y Cydymaith i Lenyddiaeth
Cymru ond ni fyddai llawer o ddadlau mai’r mwyaf ohonynt oedd
yr ysgolhaig o’r ail ganrif ar bymtheg, John Davies, Mallwyd.
Yn cael ei gysylltu ag enwau mawr byd llên Cymru fel William Morgan,
cyfieithydd y Beibl, Edmwnd Prys a William Salesbury dywedir mewn
llyfr sydd newydd ei gyhoeddi mai John Davies "fel ysgolhaig pur"
oedd o bosibl "y mwyaf ohonynt oll a’i hyfedredd yn yr ieithoedd clasurol
a’r ieithoedd dwyreiniol (yn arbennig yr Hebraeg) ynghyd â’i feistrolaeth
gwbl arbennig ar draddodiad llenyddol y Gymraeg, yn creu cyfuniad
unigryw."
Ceri Davies, darllenydd yn Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe,
biau’r geiriau a hynny mewn cyfrol am John Davies o Fallwyd yn y gyfres
Llên y Llenor.
Bwrlwm o edmygedd
Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o’r ysgolhaig y bu ei gyfraniad
yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.
Wedi ei eni yn 1567 yr oedd John Davies mewn cysylltiad agos â
William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac yn un o’i gynorthwywyr.
Mae’n cael ei adnabod fel John Davies Mallwyd oherwydd iddo gael ei
benodi yn rheithor yno yn 1604 ond nid am ei waith fel rheithor y
mae’n cael ei gofio.
Ef a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg
cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.
Cyfraniad hynod
Yr oedd ganddo law yng nghyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin hefyd
ac yn ogystal â chyhoeddi Gramadeg Cymraeg Lladin cyhoeddodd eiriadur
Cymraeg Lladin a’r cyfieithiad cyntaf o waith yr Ieseuwr Robert Parsons,
Llyfr y Resolusion.
Yn Llen y Llenor y mae Ceri Davies nid yn unig yn dilyn ond yn pwyso
a mesur yn feirniadol ei gyfraniad hynod i lên Cymru ac i Gristnogaeth.
Daw i’r casgliad;
"Arwyddai marwolaeth John Davies ( Mai 15, 1644) ddiwedd pennod
yn hanes llên yng Nghymru. Gyda’i ymadawiad ef daeth i ben y traddodiad
hwnnw o ddysg gytbwys ac o ysgolheictod amlweddog a ysbrydolwyd gan
ddelfrydau’r Dadeni ac a gymhwyswyd gyntaf at sefyllfa Cymru …"
Hynny yw, y ddau beth a’i gyrrai oedd ei sêl Gristnogol a’i frwdfrydedd
ysol dros y Gymraeg.
Ysgolhaig mwyaf
"Ef o’i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod
olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru. Costrelodd, a sianelodd yn effeithiol,
ffrydiau’r ddysg a dorrodd ar Gymru drwy lafur John Prys a William
Salesbury, genhedlaeth a rhagor o’i flaen."
Mae Ceri Davies yn ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol trwy ein hatgoffa
ei fod yn perthyn "i’r to cyntaf o Gymry a gâi wrando, o’u plentyndod,
ar ffurfwasanaethau’r eglwys wladol, ar y salmau a llithiau’r Testament
newydd, yn cael eu darllen yn eu mamiaith."
Anodd i ni heddiw werthfawrogi yn llawn y fath fraint a gwefr ond
gallwn ddychmygu - a dychmygu hefyd, o ddarllen y gyfrol hon, effaith
hynny ar John Davies a’i debyg.
Y cefndir crefyddol cyfoethog hwn ac addysg drwyadl yn yr ieithoedd
clasurol, Groeg a Lladin, yn Ysgol Rhuthun, a’i harweiniodd i ddweud
yn ei Ramadeg:
"Ac yn wir ni ellir credu o gwbl y byddai Duw wedi ewyllysio i’r iaith
hon (y Gymraeg) gael ei chadw hyd yr amserau diwethaf hyn, a hynny
ar ôl cynifer o laddfeydd ar y genedl . . . heblaw ei fod ef wedi
ordeinio fod ei Enw i gael galw arno yn yr iaith hon, a’i fawrion
weithredoedd i gael eu cyhoeddi ynddi."
A dyna meddai Ceri Davies, yr argyhoeddiad "a barai fod ymboeni ynglyn
â’r Gymraeg a’i gramadeg yn bwysig" iddo.
Llunio geiriadur
"Yn y blynyddoedd ar ôl 1621 troes Davies ei sylw’n arbennig at gyfoethogi
a chyfundrefnu ei gasgliad o eiriau Cymraeg a gwneud geiriadur llawn
ohono," meddai Ceri Davies gan gydweled â’r athro Caerwyn Williams
a ddywedodd i Davies drwy hynny osod geiriaduraeth y Gymraeg "ar seiliau
cadarn."
Sylfeini, meddai, na welwyd nemor ehangu . . . nac adeiladu gwirioneddol
arnynt hyd yr ugeinfed ganrif.
Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas
diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid
yn unig o’i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg" ond hefyd
o’i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau’r Gymraeg, ei hidiomau
a’i geirfa.
|
|
|