|
|
Ei thaflu o'r capel efo'i bwgan brain!
Cofio awdures o Ben Llyn oedd yn enwog am ei nofelau hanes i
blant
Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
|
Gosod carreg goffa i Elizabeth Watkin Jones, awdur nofelau hanes,
yn Nefyn.
Mae
mudiad ‘Cyfeillion Llyn’ ar y cyd â Chyngor Cymdeithas Nefyn wedi
gosod carreg i goffà u’r awdures boblogaidd Elizabeth Watkin Jones,
yn ei hen gartref, Y Garth, yn Nefyn ym Mhen Llyn.
Merch i gapten llong oedd Elizabeth ac mae’n disgrifio yn ei gwaith
sut y boddodd ei thad, y Capten Henry Parry, pan olchodd ton dros
y cwch wrth iddo ddod tua’r lan yn harbwr Iquique yn Ne America.
Ar ôl colli ei thad yn ifanc magwyd Elizabeth yn Nhy’n Llan, Nefyn,
sydd gyferbyn ag eglwys y plwyf ac yno y bu heb frawd na chwaer a
rhannai ei hamser rhwng ty ei mam a thy ei nain a’i thaid.
Cyfaddefodd ei hun ei bod yn ferch wedi ei difetha.
Merch ddrygionus
Ond gallai fod yn ferch ddrygionus hefyd fel y dengys hanesyn amdani
yn y capel; lle rowliodd gêp ei nain am ambarél ei thaid tra roedd
y pregethwr yn gweddïo er mawr syndod i’r rhai nad oedden nhw wedi
plygu eu pen yn lllwyr.
Am ei rhyfyg cafodd y berfformwriag ei hyrddio o’r capel allan i’r
ffordd fawr gan ei thaid a’i nain oedd yn flin iawn!
Cafwyd llawer o’i hanes yn yr ysgol gan ei ffrind, Sera Trenholme
a ddywedodd i’r ddwy fod yn ddigon drwg i gael eu dal yn ôl yn nosbarth
tri a cholli’r arholiad.
Roedd Elizabeth wedi cael gafael ar lyfrau Saesneg - dyna oedd iaith
yr ysgol gyda fawr didm ar gael yn y Gymraeg i fodloni ei hawydd am
stori gyffrous.
Ond roedd yna ddigon o straeon tylwyth teg a straeon môr ar lafar
gan hen drigolion y dreflan yn Nefyn ac nid oes amheuaeth na ddylanwadodd
y rheini arni.
Roedd llongwyr Nefyn yn hwylio’r byd, a Begw Ifan , "yn i chap o lês
du am ei phen, a broits fawr yn cau’r siol wlanen fach dros ei hysgwydd",
wrth ei bodd yn sôn am Jac Lantarn, y fôr forwyn, a’r tylwyth teg
wrth y plant. (Lois).
Bodloni ysfa
Ar y llaw arall, bodlonai ysfa i fod yn athrawes trwy adrodd straeon
wrth ddelw, a fu ar flaen un o longau hwyliau ei thaid, yn ngardd
ei nain.
Yr un mor ddiddorol, efallai, oedd y gansen oedd ganddi’n barod i
wneud yn siwr fod y ddelw’n gwrando.
Trodd y ddelw i fod yn blant go iawn pan aeth Elizabeth i Ysgol y
Foelgron, ym Mynytho, yn 14 oed i baratoi i fynd yn athrawes.
Yn 25 oed roedd y ferch fu’n perfformio gyda’r bwgan brain yn y capel
yn Nefyn yn llywydd Cymdeithas Ddrama Coleg Y Coleg Normal, Bangor.
Ei chryfderau addysgol yn y coleg oedd Cymraeg a Hanes ac wedi rhai
blynyddoedd yn dysgu yn y de, fe briododd brifathro ysgol Nefyn a
dychwelyd i’w chynefin.
Nofelau i blant
Yno y cafodd yr ysbrydoliaeth a’r amser i ysgrifennu saith o nofelau
hanesyddol i blant, pump ohonynt yn ymwneud naill ai â’r werin wladwriaeth
neu’r Rhyfel Cartref.
Mae ei nofel fwyaf poblogaidd, Luned Bengoch, wedi ei hargraffu
bedair gwaith.
Wedi bron i 40 mlynedd cafodd y nofel ei diweddaru gan Hugh D. Jones,
nai’r awdur, ac fe gafodd y diweddariad hwnnw ei ail argraffu o fewn
dwy flynedd.
Diweddarwyd tair nofel arall hefyd, Lois, Y Dryslwyn ac
Y Cwlwm Cêl.
Bu ei nofelau hefyd yn gyfresi radio i blant bar adeg pan oedd
Awr y Plant yn ei hanterth.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Plant y Mynachdy, ar ddechrau’r
Ail Ryfel Byd, ac yna ar ddiwedd y rhyfel cyhoeddwyd ei hail nofel,
Luned Bengoch.
Yna cyhoeddwyd Lowri yn y casgliad o Storiau Ias a Chyffro,
a’r un flwyddyn cyhoeddwyd Esyllt, nofel wedi ei gosod yn hen
faenor Nefyn.
Tymor pwysig
Gallwn weld yn ei gwaith fod tymor y flwyddyn rhwng calan gaeaf a’r
Nadolig yn golygu llawer iddi - daw hyn yn amlwg iawn yn ei nofel
olaf sef Lois.
Enillodd Lois y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn.
Ym Mae Colwyn hefyd ar fur yr Amlosgfa nodir y gaeaf ar garreg coffa
i ‘r ddau, Elizabeth Watkin Jones, a fu fel mam i Lenyddiaeth plant
Cymru am dros chwarter canrif, ac i’w gwr John Watkin Jones, a fu
fel tad i blant Nefyn.
Trefnodd
John Watkin Jones fod model o goron aur yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn
i’r Prif Lenor yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, er cof am ei briod.
Ac yn awr y mae carreg goffa, diolch i Gyfeillion Llyn, ar fur hen
gartref awdur a daniodd dychymyg miloedd o ddarllenwyr ifanc Cymraeg
a a ddaeth a bri a safon i’r nofel hanes yn y Gymraeg.
|
|
|