|
|
Darogan
diwedd
Yr Herald
Papur hanesyddol ar ei wely angau
Dydd Iau, Gorffennaf 5, 2001
|
Mae
Cwmni Papurau Newydd Trinity Mirror wedi dweud y byddan nhw鈥檔 cyhoeddi
tranc yr Herald Cymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Genedlaethol.
Mae鈥檙 papur wedi bod yn edwino ers blynyddoedd a鈥檌 gylchrediad bellach
wedi gostwng i 1,500.
Gofyn am syniadau
Mae Trinity Mirror wedi dweud eu bod yn agored i syniadau ynglyn 芒
sut y gellir codi cylchrediad yr Herald, ond os ddaw
gweledigaeth o rywle nid oes ganddyn nhw ddewis ond cael gwared a
phapur sy鈥檔 colli arian.
Os digwydd hyn fe fyddai鈥檔 ddiwedd pennod ryfeddol yn hanes newyddiaduraeth
a chyhoeddi yng Nghaernarfon.
Y Goleuad - wythnosolyn y Presbyteriaid - fyddai鈥檙 unig bapur
Cymraeg i鈥檞 gynhyrchu mewn tref lle bu unwaith bymtheg o bapurau Cymraeg.
Ar ei anterth yr oedd cylchrediad yr Herald Cymraeg rhwng 15,000 a
17,000 ac ar yr un pryd roedd papur wythnosol arall, Y Genedl,
yn gwerthu 12,000 ac Y Werin yn gwerthu 10,000.
Magwrfa newyddiadurwyr
"叠耻鈥檙 Herald 补鈥檙 papurau eraill yn fagwrfa i newyddiadurwyr
a llenorion, yn ysgol i awduron o E. Morgan Humphreys i Bethan Gwanas,"
meddai Maldwyn Thomas ar Wythnos Gwilym Owen ar Radio
Cymru ddydd Llun.
Ymhlith golygyddion hynod y cwmni yr oedd Meuryn a John Eilian.
Tan yn ddiweddar yr oedd yna Herald Cymraeg a Herald M么n
yn cael eu cyhoeddi gyda rhai elfennau yn gyffredin I鈥檙 ddau ond y
newyddion lleol yn gwahaniaethu rhwng un 补鈥檙 llall.
Fodd bynnag, wrth i鈥檙 cylchrediad edwino dros y blynyddoedd diwethaf
unwyd y ddau yn un papur ar gyfer y tir mawr ac ynys M么n a'i alw yn
Yr Herald ond ni fu hynny鈥檔 ddigon i well补鈥檙 cylchrediad er
gwaethaf stoc o golofnwyr safonol a bywiog a diwyg difai.
Cnul oer
Nid yn unig y bydd hyn yn ddiwedd pennod yng Nghaernarfon ond hefyd
yn gnul oer i鈥檙 wasg Gymraeg yn gyffredinol.
Bydd yn rhaid holi, os yw hi鈥檔 amhosib cynnal papur newydd lleol yn
un o gadarnleoedd yr iaith pa obaith sydd yna i鈥檙 wasg Gymraeg yn
genedlaethol gyd补鈥檙 Cymro na Golwg yn denu ond ychydig
filoedd o brynwyr yr un.
Dywedodd Maldwyn Thomas y gellid fod wedi gwella cylchrediad Yr
Herald drwy symud y diwrnod cyhoeddi o ddydd Sadwrn.
"Dydy dydd Sadwrn ddim y diwrnod gorau i鈥檞 gyhoeddi," meddai.
Neges anghyfforddus I gyhoeddwyr Y Cymro sydd newydd newid
ei ddydd cyhoeddi ef o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn.
Awgrymodd Maldwyn Thomas hefyd, y dylid cyfuno鈥檙 Goleuad
补鈥檙 Herald i greu un cylchgrawn wythnosol
a dileu newyddion lleol ohono yn gyfangwbl.
"Byddai鈥檔 drueni colli wythnosolyn gyda chylchrediad o 1,500," meddai.
"Mae 1,500 yn gylchrediad sylweddol yn Gymraeg."
Ond yr hyn sy'n cael ei amlygu fwyaf yw fod yn rhaid wrth gynhaliaeth
ariannol sylweddol os am greu papur newydd Cymraeg y bydd pobl am
ei ddarllen.
A'r peryg yw, os na chymerir camau pendant yn fuan y bydd hi'n rhyw
hwyr.
|
|
|