|
|
Cofio
dyddiau da
Yr Herald
Hen ohebydd yn cofio cychwyn ar Yr Herald
Dydd Iau, Gorffennaf 12, 2001
|
Gydag
ansicrwydd ynglyn â dyfodol Yr Herald bu Ioan Mai Evans
yn cofio'r adeg pan ddechreuodd o yn gyw gohebydd ar y papur gyda
Meuryn yn olygydd.
Cyfaill neu ddau a鈥檓 cofiant
Brin ddau, lle bu gynnau gant.
"Mi
roedd yna gant a mwy ohono鈥檔 bentwr ar gowntar siop y pentre, o un
Llun i鈥檙 llall, pan oeddwn i鈥檔 blentyn," meddai Ioan Mai Evans o Lithfaen
wrth gofio鈥檙 Herald Cymraeg pan oedd y papur ar ei anterth
- ac yn gwerthu mwy na鈥檌 frawd Saesneg y Caernarvon and Denbigh
yn y siop leol.
Dydd Llun yn ddiwrnod da
"Roedd dydd Llun yn ddiwrnod da i gyhoeddi papur newydd - papur oedd
yn faes pori toreithiog i chwarelwyr diwylliedig ac ambell ffermwr
a chanddo鈥檌 golofn ei hun. Ac yn cynnwys pris yr wyau a鈥檙 menyn yn
y farchnad," ychwanegodd Ioan Mai a fu鈥檔 gyw gohebydd pan yn fachgen
ifanc ar yr Herald Cymraeg - neu Yr Herald fel
y mae erbyn heddiw.
"Colofn i鈥檙 llys barn, barn pobol am bobol, beth oedd yn digwydd yn
y dref, pwy oedd adref o鈥檙 m么r. Geni, priodi a marw, Eisteddfodau
a chylchoedd llenyddol y fro.
"Roedd yn ddwyawr o ddarllen distaw i rai fel nhad - nad oedd yn darllen
fawr ddim arall - ond erbyn deall dyma oedd maes llafur wythnos o
drafod a stilio yn y caban chwarel."
Mynd yno o'r chwarel
Ymunodd Ioan Mai, sy鈥檔 awr yn ei bedwar ugeiniau, 芒鈥檙 papur o鈥檙 chwarel.
"Yn gynnar yn y tridegau bu farw Owen Ellis Jones, gohebydd gyda鈥檙
Herald yn Ne Arfon, cynghorydd yn nhref Pwllheli a newyddiadurwr
llwyddiannus.
"Yn rhyfedd iawn un prynhawn gwelais fy mam wedi rigio i fynd i鈥檞
angladd. Ymddengys ei fod yn gefnder i fy nain, a chan na wyddwn am
fodolaeth y gwr daliais i鈥檞 holi nes iddi fynd am y bws.
"Fe wnaeth edliw i mi na fyddai dynion fel fo byth allan o waith.
Fy mhechod, yn ei golwg hi, oedd fy mod wedi mynd o鈥檙 cownti sgwl
i鈥檙 chwarel yn lle mod i mewn joban coler a thei."
Bu鈥檔 ddigon o ysgogiad i Ioan Mai anfon llythyr ar reolwr yr Herald
yng Nghaernarfon yn holi am swydd yr ymadawedig.
Dyn pryd tywyll yn gwisgo het
"Fe g锚s i ateb buan gan y rheolwr ei hun, W. G. Williams, yn fy ngwahodd
i鈥檞 swyddfa i drafod y swydd.
"Gwr byr, pryd golau, yn gofidio braidd nad oedd gen i brofiad newyddiadurol
fel y cyfryw, ond eto鈥檔 obeithiol.
"Soniodd o fawr am sgrifennu o fath yn y byd, ond cesglais mai dyn
busnes ydoedd. Cododd o鈥檌 gadair a鈥檓 harwain i stafell fechan wrth
y drws oedd yn agor ar Faes Caernarfon.
"Yno 鈥檙oedd gwr byr arall, ond un tywyll yn gwisgo het olau ar osgo
ar ei gorun - Meuryn.
"Roeddwn wedi ei weld o鈥檙 blaen yn pregethu yn festri Moriah, yn cydio鈥檔
dynn wrth y pulpud bach - roedd yn gloff - ac yn traethu mewn Cymraeg
gyda鈥檙 godidocaf a glywais erioed.
"Synhwyrais yn Swyddfa鈥檙 Herald fy mod ym mhresenoldeb rhywun
tra arbennig.
"Disgrifiodd J. R. Morris o yn Y Genhinen fel bardd, llenor,
athro, golygydd, nofelydd, gramadegwr, pregethwr a nifer o bethau
eraill ac yn bencampwr yn rhai ohonyn nhw a hynny er na chafodd addysg
uwchradd.
"Cyfeiriodd Rhys Nicholas at ei safonau clir a'i foneddigeiddrwydd,"
meddai.
Pob sylw yn adeiladol
"鈥橰oedd pob cwestiwn yn berthnasol a phob sylw yn adeiladol ac ymlaen
芒 mi i stafell fwy am brawf cyfieithu o鈥檙 Saesneg - a chael y ddedfryd
gan y rheolwr.
"Yn niffyg profiad newyddiadurol, y fargen oedd chwe wythnos o brentisiaeth
yn ddi-d芒l o dan Meuryn cyn penderfynu ar y swydd yn ne Arfon. Os
byddwn yn aflwyddiannus byddai gwaith ar fy nghyfer yn y swyddfa.
"Chwe wythnos o ramadegu a chywiro a鈥檙 bensel blwm yn gwibio fel gwennol
gwehydd dros y copi.
"Plwc o dafodi cyffredinol am ddiffyg parch at gystrawen iaith. Euthum
i鈥檙 afael gyda llaw fer cyn cael fy ngollwng ym Mhwllheli."
Newid byd
Ymhen tipyn newidiodd Ioan Mai ei fyd a throi o newyddiadura i fod
yn athro ysgol. "Yn lle taenu inc du ar bapur gwyn euthum i daenu
sialc gwyn ar fwrdd du."
Ond yr oedd yr inc erbyn hynny yn y gwaed ac y mae'n dal i ymel a
newyddiaduraeth.
A chyn gadael Yr Herald fe wyddai holl hanes cychwyn Ymryson
y Beirdd gyda Sam Jones, yr ymrysonau cynnar yn Neuadd y Penrhyn
a phawb yn dotio at sydynrwydd ei arwr, Meuryn.
"Miloedd yn cynefino 芒 Cherdd Dafod drwy gyfrwng y rhaglenni."
Beth ddwedai鈥檙 "dyfal athro Cerdd Dafod" pe gwyddai fod dyfodol y
papur yn y fantol? A beth fyddai o鈥檔 ei gynnig.
"Ei wneud yn bapur dyddiol neu genedlaethol Cymraeg tybed?
Erys ei her i鈥檙 oes hon."
Llythyr Golygydd Yr Herald -
|
|
|