|
|
Draw
draw
dros y don . . .
Cafodd awdur o Gymro weld sut beth yw bywyd ar ynys sydd ar
fin diflannu oddi ar wyneb y cread
Dydd Iau, Gorffennaf 26, 2001
|
An Island Called Smith gan Jon Gower.
Gomer £7.95.
Adolygiad Glyn Evans.
Gweld adroddiad byr yn y Times arweiniodd y Cymro, Jon Gower,
flynyddoedd yn ddiweddarach, at ynys sydd ar fin diflannu oddi ar
wyneb y cread.
Ac o’r ymweliad hwnnw a Smith Island ym Mae Chesapeake rhwng Maryland
a Virginia yn yr Unol Daleithiau y deilliodd y llyfr hynod ddiddorol,
An Island Called Smith lle mae Jon yn sôn am yr ynys a’i phobl.
Bod yn wahanol
Tebyg na allwch chi ond bod yn wahanol ac yn hynod o fyw ar ynys -
yn enwedig os yw’r ynys honno yn prysur ddiflannu.
"Y mae Ynys Smith yn cael ei bwyta fesul saith troedfedd y flwyddyn.
Nid yn unig y mae’r môr yn codi i hawlio’r tir ond y mae’r tir hefyd
yn suddo - dim ond y pumed rhan o fodfedd y flwyddyn ond . . . ‘mae
hynny ugain modfedd bob can mlynedd’ …," meddai Jon Gower.
Mae’n
gyflwr rhyfeddol sy’n cael ei grynhoi yn y frawddeg hon:
"Y mae Ynys Smith yn gynefin cyfoethog i ddyn, yn lle wedi ei ddal
mewn amser, ie, ond hefyd yn lle heb ddyfodol."
Ond hyd yn oed dan amgylchiadau felly y mae babis yn cael eu geni
ac yn eu swn hwy y mae Jon Gower yn gweld gobaith.
Ond nid rhamantydd mohono sy'n ddall i’r hyn a fydd yn cael ei golli.
". . . yr hyn a fydd yn cael ei golli yw man lle y mae traddodiad
yn angor; lle mae i iaith lewyrch mor llachar fel eich bod eisiau
dal rhai geiriau i’r golau i’w gweld nhw’n pefrio," meddai.
Ac yr ydych yn meddwl mai dim ond Cymro, a Chymro Cymraeg ar ben hynny,
a allai gydgordio mor deimladwy a'r lle.
Y cyswllt Cymreig
Yn amlwg y mae gan Jon Gower ddiddordeb yn yr elfennau Cymreig yn
hanes yr ynys ryfeddol hon a dyfodiad a mynediad ei phobl dros y cenedlaethau.
"Mae’r fynwent yn Ewell mor llawn o Evansiaid y gallai fod yn fynwent
breifat," meddai
"Yr oedd rhwng deuddeg a phymtheg Evans yn dod i Jamestown rhwng 1607
a 1630 ac y mae gen i restr o’r cychod y daethon nhw ynddyn nhw. Gallaf
olrhain y teulu Evans yn ôl at John Evans a anwyd yn 1660 a phrynu
tir yma . . ."
Yr oedd ac y mae yn gymdeithas glos a Jon yn dyfynnu un o’r ynyswyr
yn sôn am bobl yn priodi eu cefndryd a’u cyfnitherod.
Ond y mae yma hefyd ddarlun - cyfarwydd i ni - o fudo a phobl ifainc
yn gadael a throi cefn ar hen arferion gwaith eu tadau.
Yn wyneb hyn oll y mae cyfrol Jon Gower nid yn unig yn ddarllen difyr
ond yn ddogfen gymdeithasol bwysig gyda’i sgyrsiau a’r trigolion a’u
disgrifiadau o’u ffordd o fyw yn cael eu cofnodi'n fanwl.
Y mae yn drueni, fodd bynnag, na fyddai wedi bod yn bosibl cynnwys
mwy o luniau na'r rhai hudolus sydd ar y clawr a'r siaced lwch.
Byddai map hefyd wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn dangos union leoliad
y fro dirion ond garw hon draw dros y don.
Ffordd o fyw
Pan fydd yr ynys yn diflannu bydd ffordd o fyw a chymdeithas unigryw
sydd wedi bodoli ar gynhaeaf y môr yn diflannu.
Ac yr oedd yn gymdeithas wahanol fel y gwelodd ac y gwerthfawrogodd
Jon Gower.
"Y mae Ynys Smith wedi gwrthsefyll newid ac y mae yn rhyw fath o gaer;
yn dir nawf corslyd sydd sawl hyd braich o’r gwallgofdy a elwir yn
ugeinfed ganrif," meddai.
Yn gymaint felly fel ein bod yn cael cip diolch iddo ef "ar sut y
gallai pethau fod wedi bod pe na byddai duw Cyfalafiaeth mewn grym
a phe na byddai trwst a chyflymdra trachwant lloerig wedi ennill y
dydd ar y tir mawr."
Mae Jon Gower yn llawn sylweddoli pa mor freintiedig fu ef yn cael
bod yn llygad-dyst i ddirwyn edafedd y gymdeithas hon ac fe ddylem
ninnau fod yn ddiolchgar iddo rannu ei brofiad mor rhugl â chyda chymaint
arabedd gyda ni.
yn awr i Holi Awdur
|
|
|