|
|
Ar
drywydd lladron defaid
Stori wedi ei haddasu ddim cystal ag un wreiddiol gan T. Llew
Jones
Dydd Iau, Gorffennaf 26, 2001
|
Lladron Defaid gan Alison Morgan. Addasiad,
T Llew Jones. Gwasg Gomer. £4.50
Adolygiad gan Meirion Puw Rees
Mae stori Lladron Defaid yn cychwyn yn gyfoes mewn cartref
hen bobol. Hen wr sy’n adrodd y stori wrth griw o blant ysgol gan
gofio ‘nôl pan oedd o’n ddeg oed ac yn gwerthu defaid hefo’i dad bob
blwyddyn.
Cychwyn da
Dwi’n hoffi hyn ac yn teimlo fod y sefyllfa gyntaf yma yn sefyllfa
dda i gychwyn y stori hen ffasiwn sy’n dilyn.
Mi fedrwch chi weld y plant yn eistedd ac yn gwrando ar yr hen wr.
Ffarmwr defaid ydi tad Alun ac mae’r daith i werthu y defaid yn cychwyn
fel bob blwyddyn arall, ras i lawr i’r Garth i werthu y defaid i’r
porthmyn, ond mae Alun a’i dad yn cyrraedd yn rhy hwyr y tro yma ac
mae’n rhaid iddynt fynd ar ôl y porthmyn.
Wrth geisio osgoi y brodyr Morgan, lladron defaid enwog, mae tad Alun
yn torri ei goes ac ynghanol y cyffro mae’r dihirod yn dwyn Top y
ci a’r defaid. Mae’n rhaid i Alun gymryd lle ei dad ac mae’n cychwyn
ar antur sy’n chwalu cynlluniau y brodyr Morgan.
Hawdd ei darllen
Mae’r stori yn un hawdd i’w darllen ac mae yna olygfeydd cyffrous
yma.
Wrth geisio osgoi y brodyr Morgan mae tad Alun yn croesi’r defaid
trwy’r afon pan yw un ddafad yn mynd lawr hefo’r dwr ac wrth drio
ei hachub mae tad Alun yn cael damwain.
"Roeddwn i’n gwylio fy nhad yn dringo i fyny dros y graig. Roedd hi’n
wlyb, a mwsogl gwyrdd, llithrig yn tyfu drosti i gyd. Gwelais ef yn
llithro ac yn cwympo. Rhedais i lawr gyda glan yr afon. Roedd e’n
gorwedd fan’ny rhwng dau ddarn o graig ac roedd un o’i draed wedi
ei dal rhwng y ddau, ac ni allai symud."
Ar ei ben ei hun
O hyn allan mae Alun ar ei ben ei hun, y defaid a’r ci wedi eu dwyn
ac mae’n rhaid iddo fo fynd ar eu hôl i Aberhonddu.
Mae yna hiwmor yn y stori hefyd. Yn y tywyllwch ar y ffordd i Aberhonddu
mae Alun yn cael braw.
"Yna clywais swn anadlu trwm yn y cysgodion, er na allwn weld dim
byd. Yna clywais swn symud yn y dail crin y tu arall i’r clawdd.
"Sefais yn stond a ‘nghalon yn curo fel morthwyl. Rown i’n teimlo
cymaint o ofn yn funud honno fel na allwn symud cam ymlaen nac yn
ôl. Ond wedyn daeth ‘Mw!’ uchel o’r tu arall i’r clawdd. Dim ond hen
fuwch ddiniwed oedd yno wedi’r cyfan!"
Codi ofn
Mi ges i ofn wrth ddarllen y darn yma hefyd ond er mai sefyllfa ofnus
oedd hon, fe orffennodd yn sefyllfa ddigri, ac roeddwn i yn chwerthin.
Mae Alun yn cael lot o lwc ar ei ffordd i Aberhonddu, ffendio’r defaid,
ffendio Top y ci ‘fy nghyfaill gorau’ yn ôl Alun.
Dwi’n hoffi y syniad yma ac mae’r awdur yn rhoi sail i’r dywediad
mai ‘ci yw ffrind gorau dyn’.
Yn Aberhonddu mae’n dod o hyd i’w ddau ewythr yn cael pris da am y
defaid ac yn cael pas am adre. Mae’r daith adre yn cychwyn yn iawn
ond pan fo Jo, gwas y Wern sy’n teithio hefo Alun, yn penderfynu aros
mewn tafarn dros nos mae Alun yn cychwyn am adre ar ei ben ei hun
hefo Top.
Anodd ei gredu
Eto mae’n dod ar draws y brodyr Morgan ac yn cael ei ddal. Er iddo
gael damwain ei hun y tro hwn wrth geisio dianc, mae un o’r brodyr
yn arbed ei fywyd ac yn mynd a fô adre yn saff!!
Dwi’n ffendio hyn braidd yn anodd i’w gredu.
Dynion drwg yw’r brodyr Morgan a go brin y bysa nhw yn mynd ac Alun
adra ar ôl iddo ddwyn y defaid yn ôl a chuddio y pres oddi wrthyn
nhw.
Gan nad T Llew Jones sydd wedi ‘sgwennu y llyfr tydi o ddim mor fywiog
a chyffrous a’i lyfra fo ei hun, ond oherwydd ei fod yn yn sôn am
y porthmyn ar adegau fe allech chi feddwl mai un o’i straeon ô ydi
Lladron Defaid.
Syml a difyr
Mae’r stori hon yn un syml a difyr ac yn ddigon cyffrous ond efallai
fod y diwedd pan mae dihiryn fel un o’r brodyr yn gneud yn siwr fod
Alun yn cyrraedd adref yn saff yn ei difetha braidd!
Mae yna ddigon yn digwydd yn y stori a gan mai 72 o dudalennau sydd
yn y llyfr fe fyddwch wedi ei darllen mewn chwinc.
Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant 7 –10
|
|
|