|
|
Tri
Llyfr i'r Plant
Stori fywiog a dau lyfr syml ar ffurf rhigwm
Dydd Iau, Awst 2, 2001
|
Sbwriel Sbango gan Tony Bonning a Sally Hobson, Addasiad
gan Gordon Jones, Gwasg Gomer, 拢4.50.
a
Rownd a rownd ein gardd ni a Ble, o ble? gan John
Prater, addasiad Gordon Jones, Gwasg Gomer, 拢3.50
Adolygiad gan Anna-Marie
Mae arwr y llyfr hwn yn gymeriad go wahanol i'r arfer. Cadno bach
direidus a hwyliog yw Sbango sy'n hoffi aros yn effro drwy'r nos i
hela, ac yna'n cysgu'n hwyr y bore wedyn tra mae ei ffau fel digs
myfyriwr (hy angen ei dwtio yn ofnadwy).
Un bore fe gaiff dipyn o fraw wrth i Yncl Em sgwennu i ddweud ei fod
yn dod i aros. Fe nharodd i ei bod yn rhyfedd bod llythyrau yn dal
yn boblogaidd mewn llyfrau plant tra bod plant mewn gwirionedd yn
hollol gyfarwydd 芒'r ffon a'r e-bost hefyd i raddau, sef y ffyrdd
mae oedolion yn cysylltu 芒'i gilydd.
Taflu sbwriel
Wedi llythyr Yncl Em mae'n rhaid i Sbango dwtio'r ffau ac mae'n taflu'r
sbwriel i dwll y tu allan. Ond mae'r twll yn gartref i Moli Mochyn
Daear a does dim croeso i'r sbwriel yn ystafell fyw Moli.
Yn dilyn hyn wrth gwrs mae Moli yn symud y sbwriel i dwll arall (ie,cartref
anifail arall) ac mae'n mynd mewn cylchoedd cyn glanio wrth draed
Yncl Em, sydd ar ei ffordd i ffau Sbango. Ac ydi, mae Yncl Em yn ei
gasglu a mynd 芒 fo i'r ffau.
Stori fywiog
Mae'n stori fywiog gyda lluniau gwych ac mae yma hefyd neges fach
sy'n ein hatgoffa fod gennym gyfrifoldeb dros ein hamgylchedd.
Roedd y llyfr wrth fodd y ferch, Magi, sydd ddim yn ddyflwydd eto
ac mi fyddai croeso i Sbango ddod i'n ty ni unrhyw dro eto - dim ond
ei fod yn glanhau ar ei 么l ynde!
Dau lyfr syml
Dau lyfr syml ar gyfer y plant lleiaf yw Rownd a rownd ein gardd
ni a Ble o ble? gyda'r un cymeriad, sef Tedi Bach.
Mae'r 'stori' ar ffurf rhigwm - un frawddeg dros ddwy dudalen - ond
mae hyn yn cael ei golli wrth i chi aros i edrych ar y lluniau a sgwrsio
ynglyn 芒'r hyn mae Tedi yn ei wneud.
Does dim byd cyffrous iawn yn digwydd i Tedi Bach yn y llyfrau hyn.
Yn Rownd a rownd ein gardd ni - fersiwn Gymraeg o rigwm Saesneg
boblogaidd - mae Tedi Bach yn chwarae efo'i fam yn yr ardd, ac yna'n
dringo'r grisiau i'w wely, ac yn Ble, o ble mae'n chwarae cuddio
y tu 么l i'r soffa.
Lluniau tebyg i'w gilydd
Mae'r lluniau yn fendigedig ond braidd yn debyg i'w gilydd - doedd
gan Magi ddim llawer i'w ddweud wrth Tedi Bach ar 么l holl gyffro llyfr
Sbango, ond efallai ei fod wedi anelu at blant 'fengach na 20 mis.
Mae'n anodd dweud - efallai fel y daw yn hyn a dysgu'r rhigymau y
bydd y llyfrau yma wrth ei bodd. Tan hynny dydw i ddim yn gweld y
ddau lyfr yma yn cystadlu gyda rhai o lyfrau eraill diweddar Gwasg
Gomer sydd yn ein ty ni.
|
|
|