|
|
Angen
rhagor o gloddio ar lyfr am aur
Gormod o friwsion - dim digon i'w gnoi
Dydd Iau, Awst 16, 2001
|
Y Cymry ac Aur Colorado
gan Eirug Davies . Cyfres Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch.
Adolygiad gan Dafydd Mei.
Mae Gwasg Carreg Gwalch newydd gyhoeddi ei hanner canfed cyfrol yn
y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad.
A’r tro hwn mae wedi mentro i America gyda chyhoeddi Y Cymry
ac Aur Colorado gan Eirug Davies - brodor o Geredigion ond
sydd rwan yn byw yn America.
Rhy bytiog
Pytiau
o lythyrau a barddoniaeth gan Gymry aeth i feysydd aur Colorado yn
ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd yma.
Ac, yn wir, pytiog ydy’r llyfr drwyddo draw.
Cyfeirir at rai ag iddynt enwau Cymreig ond fawr ddim am ble daethon
nhw, beth oedden nhw’n ei wneud cyn mentro i gloddio am aur ac - yn
bwysicach fyth, efallai - ar wahân i un enghraifft, pa mor llwyddiannus
fuon nhw.
Gwn o’m gwaith ymchwil fy hun na ellir cymryd yn ganiataol fod pob
Jones, Evans a Williams yn dod o Gymru na chwaith ei dad neu’i fam.
Ychydig iawn o gyfeiriadau sydd yma at lefydd yng Nghymru a dim ond
ambell un at drefedigaethau Cymreig yn America. Mae un enghraifft
am un a fynychai dafarnau Central City "ac iddo’r enw Cymreig Tom
Evans"!
Saethu Mountain Jim
Ceir un cyfeiriad at Griffith Evans a saethodd wr o’r enw Mountain
Jim yn farw - ond dim mwy.
Gwn mai gwr o Lanberis oedd Griffith ac mae’n debyg mai ffraeo dros
ferch Griffith - Jennie - oedden nhw gan fod y Gwyddel, Mountain Jim
Nugent, wedi dangos gormod o ddiddordeb ynddi.
Prin iawn hefyd ydy’r cyfeiriadau at y Cymry aeth oddi ar y llwybr
cul. Hogia’r capel a’r eisteddfod ydy bob un o’r rhain. Mi fyddwn
i wedi hoffi cael gwybod mwy am William Parry oedd "Ymhlith y tri
ddihangodd nos Sul o benydfa Canon City. "
Beth oedd o wedi’i wneud i gael ei roi dan glo?
Cyfeirir hefyd at stablau Williams (ac yn wir mae llun o’r adeilad
- un o’r ychydig luniau yn y llyfr y gellir dweud sy’n berthnasol
i’r testun) a bod Williams yn siryf yn Central City nes iddo gael
ei saethu.
Ond gan bwy - a beth oedd yr amgylchiadau?
Cyfraith a threfn
Cyfeirir hefyd at nifer o siryfion a chyfenwau Cymreig iddynt, fel
Sherriff Jesse Pritchard, Central City, John T Davies, Georgetown,
a WS Jones, Canon City, ond eto dim rhagor o wybodaeth.
Ac o feddwl fod pentrefi’r mwynwyr yn llefydd garw iawn, ychydig iawn
o sôn geir am hyn.
A chan fod y Cymry i’w gweld yn rhai a gadwai’r ochr iawn i’r gyfraith,
syndod oedd peidio â gweld yr un cyfeiriad at lysoedd y mwynwyr -
trefn o ddelio â drwgweithredwyr cyn i gyfraith a threfn gyrraedd
y parthau hyn.
Mae cyfeiriad neu ddau ddigon doniol yn y gyfrol. Un am fardd yn Eisteddfod
Nadolig Montezuma yn 1876 yn defnyddio rhywfaint o’r papur yr oedd
wedi ysgrifennu ei gerdd arno i danio’i bibell ‘mewn amryfusedd’ a
bardd arall yn ennill y gystadleuaeth!
Rhybudd cwrw
Mae yna rybudd hefyd am gwrw’r ardal: "Bydd i un llwnc demtio dyn
i ladrata ei ddillad ei hun; dau lwnc a wna iddo frathu ei glust ei
hun, tra bydd i dri llwnc ei demtio i achub ei fam yng nghyfraith
rhag boddi."
Ond digon diflas ydy’r cerddi sydd wedi’u hychwanegu at bob pennod
fer, cerddi sy’n nodweddiadol o ddull clogyrnaidd y cyfnod.
Cyfrol denau ydy hon, 64 tudalen, ac ychwanegwyd at ei diwedd atgofion
un o’r hen feinars o’i ardal enedigol yng Nghymru a thaith ymwelydd
i ben un o’r mynyddoedd uchel!
Buasai’n llawer gwell gen i fod wedi cael rhagor o wybodaeth am y
dynion dewr hyn a fentrodd i wlad ddieithr, arw, i wneud eu ffortiwn
- os gwnaethon nhw hynny.
Y tebygrwydd ydy mai ychydig iawn o aur a welodd y rhan fwyaf ohonyn
nhw. A gellir dweud yr un peth am y llyfr hwn.
Rhyw friwsion sydd yma ond gydag ychydig mwy o gloddio rwy’n siwr
y gellid dod o hyd i ddeunydd llawer difyrrach.
|
|
|