|
|
Stori
sy'n werth ei dweud
Nofel newydd i blant yn portreadu realiti rhyfel ac wedi'i sylfaenu
ar hanes go iawn
Dydd Iau, Awst 16, 2001
|
Stori wir am ifaciwi a symudodd i fyw yng Nghymru adeg yr Ail Ryfel
Byd yw testun nofel sydd newydd ei chyhoeddi i blant.
Rhyfel Sam yw cyhoeddiad diweddaraf Cyfres y Corryn.
Mae'n s么n am Sam Lewis yn cael ei symud oddi wrth ei deulu i fyw ym
Mhorthaethwy, Sir F么n, wedi i fom ddinistrio ei gartref yn Lerpwl
yn ystod y blitz yn 1941.
Ac yntau'n fachgen croenddu, croeso llugoer a gaiff Sam y nofel gan
y teulu cyntaf iddo symud atynt gyda morwyn yn cael ei disgrifio yn
ei sgrwbio gan ei bod yn meddwl mai budr yw ei groen.
O ganlyniad mae Sam yn dianc ac wedyn yn cael ei roi gyda theulu mwy
caredig.
Hanes go iawn
Dywedodd yr awdur, Glenys Lloyd, iddi sylfaenu ei nofel ar hanes go
iawn. Ar hyn o bryd mae Sam yn byw ym Miwmares ac yn berchen ar siop
chwaraeon ym Mangor.
"Mae'r
nofel yn darlunio profiadau Sam yn Lerpwl ac yn Ynys M么n," meddai
Glenys.
"Mae hon yn stori sy'n werth ei dweud. Does dim diben ceisio cadw
realiti rhyfel oddi wrth blant. Mae plant heddiw yn barod iawn ar
gyfer straeon am y rhyfel gan eu bod yn gweld llawer o bethau erchyll
ar y teledu ac mewn ffilmiau," ychwanegodd.
Gweu dychymyg a ffeithiau
Ond er bod y stori sylfaenol yn wir dywedodd Glenys iddi ddefnyddio
llawer ar ei dychymyg wrth ysgrifennu'r nofel gan weu elfennau dychmygol
â ffeithiau.
"Dydi'r nofel ddim yn ddogfen hanesyddol, addysgol, dwi wedi ceisio
ei gwneud mor afaelgar 芒 phosib ac mae'n ddoniol a chyffrous mewn
mannau," meddai.
Dywedodd iddi wneud tipyn o ymchwil cyn mynd ati i ysgrifennu. Holodd
ei mam a thrigolion Porthaethwy am y cyfnod a darllen llyfrau hanes
am y dref ac am yr Ail Ryfel Byd - yn enwedig y blitz ar Lerpwl.
"Wedyn rhywsut fe ddechreuodd y peth ddod yn fyw o flaen fy llygaid
fel ffilm," meddai.
Eglurodd iddi gyfarfod Sam Lewis o ymweld 芒'i siop chwaraeon pan oedd
ei phlant yn yr ysgol a chael ei hanes yn ystod yr ymweliadau hynny.
Sam yn falch
Dywedodd Sam ei fod yn falch bod Glenys wedi ysgrifennu am ei brofiadau
mewn nofel i blant
"Mae stori fy mywyd i'n reit dda ond dydw i byth yn ei drafod. Yn
sicr fe fydd y nofel yn dod ag atgofion yn 么l i mi, atgofion da a
thrist o'm plentyndod. Mae'n syniad da gan fod angen addysgu plant
ynglyn â'r rhyfel."
Er iddo gael profiadau erchyll yn ystod ei blentyndod dywed i bethau
da ddeillio o hynny yn y pen draw.
"Dwi'n sicr yn falch fy mod i wedi dod i Gymru, dyma'r lle gorau yn
y byd."
Wrth ei bodd
Mae Glenys Lloyd wrth ei bodd yn ysgrifennu. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol
eleni bu'n fuddugol yn un o gystadlaethau adran comisiynu'r Eisteddfod
gyda nofel i blant h媒n.
Mae'r nofel hon wedi ei gosod yn y dyfodol ac sy'n sôn
am griw o blant gyda galluoedd goruwchnaturiol.
Fe'i canmolwyd hefyd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn
1996 am ei nofel i oedolion, Heldir y Diafol.
Ar hyn o bryd mae wrthi'n ysgrifennu nofel arall i blant , Bargen
y Brenin, fydd yn rhan o gyfres Gwaed Oer.
Yn ogystal mae'n paratoi nofel i oedolion am y dywysoges Lilian o
Sweden ac mae ganddi syniadau ar gyfer tair nofel hanes i oedolion
y mae'n gobeithio eu hysgrifennu am gyfnod y Rhyfel Cartref, Elizabeth,
a rhyfeloedd Napoleon.
Ymddiddori erioed
Dywed iddi ymddiddori mewn ysgrifennu erioed a bod ei mam a'i thad
yn stor茂wyr penigamp.
Er ei bod wedi ei geni ym Mhrestatyn mae'n ei hystyried ei hun yn
frodor o Bowys gan iddi fyw yn Sir Drefaldwyn pan yn blentyn gan fynychu
Ysgol Llanfyllin cyn symud i Ysgol Ramadeg Abergele ac i astudio Saesneg
ym Mhrifysgol Bangor.
Bu'n athrawes am dros 20 mlynedd nes iddi ymddeol yn gynnar i ysgrifennu.
Mae ganddi ddau o blant, Dewi sy'n swyddog economaidd a Nerys sy'n
gynhyrchydd teledu.
Cartref yn ysbrydoliaeth
Mae Glenys yn byw ym mhlas hanesyddol Cochwillan ger Tal-y-bont, Bangor,
a fu, meddai yn ysbrydoliaeth iddi ysgrifennu.
Bellach
yn eiddo i Stad y Penrhyn yr oedd ar un adeg yn eiddo i Llywelyn ap
Iorwerth a'i rhoddodd i Ednyfed Fychan, ei ganghellor.
Er bod s么n fod ysbryd Ednyfed Fychan yn dal i gerdded yma a hefyd
ysbryd y Cyrnol Syr John Owen oedd yn byw yma yn ystod y Rhyfel Cartref
dywed Glenys nad yw hi wedi gweld yr un ohonynt.
Yn ystod gwarchae Bangor ddechrau'r bymthegfed ganrif fe fu Owain
Glyndwr yn aros yma pan oedd yn ymladd yn erbyn y Normaniaid.
Roedd y plas yn bwysig am ei nawdd yn ystod oes yr Uchelwyr gyda nifer
o feirdd enwog yn dod yma am fwyd a gwin.
Yn eu cerddi mae Lewis M么n a Guto'r Glyn yn canmol y croeso yma.
Rhyfel Sam, Glenys Lloyd
Cyfres y Corryn, £3.95
|
|
|