|
|
Helynt
Seimon Glyn
Cyhoeddi llythyrau yn ei gefnogi a dehongli'r hyn a ddigwyddodd
Dydd Iau, Medi 6, 2001
|
Llythyrau at Seimon Glyn. Golygydd Simon Brooks.
Lolfa. £5.95.
Adolygiad Glyn Evans
Ar wahân i’r Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau mae’n debyg
mai’r llyfr y dangoswyd y mwyaf o ddiddordeb ynddo ar faes yr Eisteddfod
Genedlaethol yn Ninbych fis yn ôl oedd, Llythyrau at Seimon Glyn.
Nid oes angen ystrydebu ynglyn â’r ymateb a fu ers dechrau’r flwyddyn
i’w sylwadau ef am effeithiau dinistriol y mewnlifiad i’n cymunedau
Cymraeg.
Draenen bigog
Bu’r ymateb yn byddaru pawb - yr hyn na fu cymaint o drafod arno yw’r
ateb i’r broblem.
Yn sicr, y mae’n broblem sy’n ymddangos yn ddraenen rhy bigog i Blaid
Cymru afael ynddi - ond yn ddraenen digon pigog i elynion cenedlaetholdeb
ei defnyddio i chwipio nes bo gwaed yn sbrencian.
Gweledigaeth golygydd y cylchgrawn Barn, Simon Brooks, oedd
cyhoeddi detholiad o’r nifer o lythyrau cefnogol a dderbyniodd Seimon
Glyn yn ystod y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod.
Y mae o’i hun wedi sgrifennu cyflwyniad - neu olygyddol - i’r gyfrol
inni gael gweld yn gliriach natur ac arwyddocâd yr hyn a ddigwyddodd.
Y mae cyfraniad gan Seimon Glyn ei hun hefyd, yn crisialu beth yn
union mae o’n ei ddweud a lle’n union y mae’n sefyll.
Angen llyfr o'r fath
Yr oedd angen y math hwn o lyfr; achos drwy’r wasg Saesneg yn bennaf
a thrwy adroddiadau ar radio a theledu y mae’r rhan fwyaf ohonom yn
dod i wybod am bethau fel hyn.
Drwg adroddiadau yn y wasg ac ati yw eu bod yn hoelio sylw ar rai
cymalau trawiadol neu ddadleuol yn yr hyn a ddywedwyd yn hytrach nag
atgynhyrchu’r hyn a ddywedwyd yn ei gyfanrwydd.
Gan amlaf mae’r dull hwn o gofnodi yn gweithio’n iawn ond weithiau
- fel ag yn achos Seimon Glyn ac yn achos Beca Brown wedyn - mae’n
ddull annigonol ac anghyflawn.
Tystiolaeth - dehongliadau yn wir - dameidiog o’r fath arweiniodd
at Seimon Glyn yn cael ei bardduo o fod yn hilgi er y dywedir i mi
fod yr un mewnlifiad pobol yn destun trafod mwy rhesymol mewn ardaloedd
eraill fel Ardal y Llynnoedd, hefyd.
Cymunedau Cymraeg ar yr agenda
Dyna’r cefndir ac yr oedd rhywun yn edrych ymlaen at weld Simon Brooks
yn cael pethau i ffocws ar ein rhan - gyda’r bwriad o awgrymu, wedyn,
fod ei lyfr yn cael ei drosi i’r Saesneg achos os oes rhywun y mae
angen eu goleuo ar y mater hwn y rhai hynny na allant ddeall Cymraeg
yw y rheini.
Gan gydnabod i Seimon Glyn ddweud pethau "nad oedd neb arall yn y
mudiad cenedlaethol yn barod i’w dweud" y mae Mr Brooks yn ei ganmol
am beri "i bobl benderfynu a ydyn nhw o blaid parhad ein cymunedau
Cymraeg ai peidio."
Ac am iddo "roi pwnc y cymunedau Cymraeg yn ôl ar yr agenda wleidyddol"
y mae’n ystyried Seimon Glyn yn "arwr".
Ddigwyddodd hynny ddim
Ond a ydi hynny wedi digwydd mewn gwirionedd? A ydi "pwnc y
cymunedau Cymraeg" ar yr "agenda wleidyddol"?
Na. Yn hytrach, y cyhuddiadau gwirion yma o hiliaeth sy’n cael eu
gwyntyllu nid difrifoldeb yr argyfwng go iawn o gymunedau Cymraeg
yn cael eu boddi gan lif estron.
Bydd yn gamp, gyda’r wasg sydd gennym, cael yr argyfwng go iawn yna
ar unrhyw agenda.
Son am gynllwyn
Yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o’i le yn rhywle i ganiatau i’r hyn
a ddigwyddodd ddigwydd. Mae eglurhad Mr Brooks yn un syml.
"Bu Seimon Glyn yn weithiwr diflino a chydwybodol dros ei gredoau
ei hun nes i gynllwyn gael ei drefnu yn ei erbyn," meddai
Mr Brooks - ond fy mhwyslais i.
Ac meddai yn nes ymlaen: "Troes y cynllwyn yn erbyn Seimon Glyn yn
ymdrech fawr gan sefydliad gwleidyddol Cymru i ddinistrio enw da un
unigolyn er mwyn rhoi’r Cymry Cymraeg ‘yn eu lle’."
Y mae’n gyhuddiad diddorol ond yn un nad yw Mr Brooks yn llwyddo i’w
brofi ac ni ddengys ar ba sail y dywed "i gynllwyn gael ei drefnu
yn ei erbyn."
Do, bu camddehongli, camgyhuddo ac hyd yn oed annealltwriaeth sylfaenol
ond y mae cynllwynio yn beth cwbwl wahanol ac yn awgrymu i
Seimon Glyn gael ei osod i fyny yn fwriadol i ddweud yr hyn a ddywedodd
gan elfennau dichellgar.
Y mae honni hynny yn annheg ag ef.
Nid yw’r gymhariaeth a’r l’affaire Dreyfus o gymorth o gwbl
i’n goleuo, ychwaith, mae gen i ofn.
Nerfusrwydd a pharodrwydd
I mi, nid dangos cynllwyn y mae Achos Seimon Glyn ond
amlygu, ar y naill law, nerfusrwydd gwleidyddol rhyfeddol ar ran Plaid
Cymru ac ofnusrwydd sy’n ei gwneud yn blaid gyndyn i sathru cyrn neb.
Ac ar y llaw arall, parodrwydd pleidiau eraill i ddefnyddio camddehongliadau,
bydded hynny yn fwriadol neu mewn annealltwriaeth, i chwipio cenedlaetholdeb
a throi dwr i’w melinau eu hunain.
Mae amharodrwydd y Blaid, sy’n ymylu ar fod yn llwfrdra yng ngolwg
rhai, yn gwneud iddi hi ymddangos ei bod erbyn hyn yn rhoi mwy o bwys
ar fod yn etholiadwy nag ar sefyll dros egwyddorion.
Os hynny, dyna sut y cafodd y Blaid hi mor amhosib i gefnogi Seimon
Glyn a pham y mae yn ddraenen iddi yn hytrach nag yn broffwyd.
Y mae’n ymddangos fel pe byddai yn prysur gael cric yn ei gwddf gwleidyddol
o edrych mor barhaus dros ei hysgwydd ar bleidleisiau - rhywbeth a
gadarnhawyd unwaith eto yr wythnos hon.
Oedi cyn cyhoeddi
Prawf pellach o hynny yw’r cyfaddefiad gan Simon Brooks iddo, yn dilyn
trafodaeth gyda dau AC Plaid Cymru, oedi cyhoeddi y llyfr hwn "nes
bod yr Etholiad Cyffredinol ar ben, rhag ofn i hyn beri niwed i ymgyrch
y Blaid yn yr ardaloedd Cymraeg."
Whiw!
Am weddill y llyfr y mae o yr hyn a fyddai rhywun yn ei ddisgwyl gyda’i
ddetholiad o lythyrau cefnogol ac ambell i lun (digon aneglur) o adroddiadau
papur newydd Saesneg ymosodol fel yr hyn a ddywedodd Janet Street-Porter
yn yr Independent on Sunday ac adroddiad Voice of Hate
y Welsh Mirror sydd wedi mewnforio ei newyddiaduraeth dihafal
ei hun i Gymru.
Wedi bod yn fuddiol hefyd fyddai amserlen yn olrhain y gwahanol ddigwyddiadau
nid yn unig ers datganiad cyntaf Seimon Glyn ond yr hyn a arweiniodd
at y datganiad hwnnw.
|
|
|