|
|
Cymru
annibynnol gyda chymorth y Natsïaid
Chwedl ddychanol, ffantasïol sy'n mynd â ni ar drywydd
cwbl annisgwyl.
Dydd Iau, Medi 20, 2001
|
Ein Llyw Cyntaf, Jan Morris, Addasiad Twm Morys,
Gwasg Gomer, £5.95
Adolygiad Aneirin Karadog
Gan fod cymaint o lyfrau o natur ddychanol i weld yn cael eu cyhoeddi
ar y foment, braf yw gweld nofel sy'n mynd ar drywydd hollol annisgwyl
o ran cynnwys ac arddull gan gynnig ffresni i'r darllenydd.
Stori ddychan ffantas茂ol a geir yma lle mae Cymru yn cael ei hannibyniaeth
drwy nawdd a chymorth y Nats茂aid o dan arweinyddiaeth Hitler, wedi
iddo sgubo'i elynion o'r neilltu ac ennill y rhyfel.
Y Cymry'n achosi poendod
Serch hynny, mae gan y pyped o arweinydd a osodir yn bennaeth ar 'Cymru
Newydd', sef Dr Llywelyn Parry-Morris, gynlluniau eraill sydd yn mynd
yn groes i gynlluniau dieflig Hitler; dyna ni'r Cymry'n achosi poendod
i'n gormeswyr unwaith eto!
Mae'r nofel wedi ei rhannu'n benodau ond hefyd yn nifer o is-benodau
sy'n dwyn teitl sydd 芒 rhyw berthynas 芒'r is-bennod hwnnw.
Ceir hefyd ragair a elwir yn 'Rhagair y Chwedleuwr' gan ychwanegu
elfen chwedlonol os nad hudol i'r nofel.
Mae hyn yn cyd-glymu'n dda oherwydd yr arddull fabinogaidd o adrodd
y stori a geir ar brydiau, ychwanegiad sy'n unigryw i'r addasiad Cymraeg
rwy'n siwr.
Yn gwrthgyferbynnu gyda'r rhagair hudol ei naws, ac yn wir gyda holl
gynnwys y nofel hyd hynny, y mae'r diweddglo, sef 'Diweddglo'r Realydd'.
Diweddglo effeithiol
Mae bodolaeth y diweddglo yn effeithiol yn fy marn i gan ychwanegu
efallai at werth gwleidyddol, neu arsylwadol wleidyddol a dychanol
y llyfr heb halogi na dinistrio'r nofel o gwbl.
Er bod y stori braidd yn araf yn cychwyn yn y penodau neu is-benodau
agoriadol, buan y try'n stori afaelgar sy'n rhoi chwant i'r darllenydd
(yn enwedig i ddarllenydd o Gymro) i wybod beth yw tynged Cymru-Newydd,
ei phobl a'i harweinydd, Dr Llywelyn Parry-Morris sy'n arbenigwr ar
Ganu Mawl yr Oesoedd Canol.
Nid yn unig mae'n ddiddorol gweld sut beth y gallai ein gwlad fach
ymdebygu iddi 芒'i hannibyniaeth sofran ei hun, ond mae hefyd yn ddiddorol
gweld sut y byddai Cymru'n dygymod ar ei phen ei hun.
Yn fwy na hynny, o ran arddull, nid dim ond yr is-benodau hyn sy'n
cynnig newydd-deb ond ceir gwahanol arddulliau o siarad gan wahanol
gymeriadau ac i gynrychioli gwahanol ieithoedd (Yr Almaeneg yn bennaf).
Arddull ddifyr
Difyr iawn yw'r arddull a ddefnyddir i gyfleu'r sgyrsiau lle mae'r
Almaenwyr yn bresennol, am fot yr Almaenwyr mae'n debyk yn siarat
fel hyn ac zim fel popl Simrw, ymziheuriadau, Kymru nid Simrw!
Yn ogystal 芒 hyn, rhoir ffont gothig i Hitler pan mae ef yn siarad
gan bwysleisio ei arddull ymosodol neu fygythiol o siarad, o bosib.
Mae lleoliad pencadlys y Nats茂aid ym Mhrydain, wedi iddyn nhw oresgyn
yr ynys hefyd yn lled-chwedlonol am mai yng nghanol yr ynys (yn 么l
y dewin Myrddin) yn Rhydychen y'u lleolir.
O gofio traddodiad y Cymry o fynd i Rydychen ac o feddwl fod Parry-Morris
ei hun yn diwtor ac Athro yno, unwaith eto gwelir elfennau sy'n clymu'r
stori ynghyd yn dwt.
Yn wir, ceir nifer o gyfeiriadau manwl at Rydychen ym mhenodau cynnar
y nofel drwy s么n am furluniau, enwi colegau sy'n rhan o'r brifysgol
a chyfeirio at yr arfer sydd gan nifer o diwtoriaid (ac ambell fyfyriwr
yn 么l y s么n) o yfed Port.
Dychanu'r Cymry
Ond dychenir y Cymry hefyd wrth i Parry-Morris gymryd ei r么l fel arweinydd
cenedl sofran newydd ychydig ormod o ddifri efallai (yng ngolwg yr
Almaenwyr) drwy wisgo homar o genhinen (nid cennin pedr!) yn ei Lapelle
a dod i wisgo gwisg a seiliwyd ar wisg yr archdderwydd (er bod ei
dorch wedi ei gwneud o gardbord!), nid peth anodd yw dychmygu wynebau
pobl y tu allan i'r wlad a fyddai'n cwrdd ag arweinydd o'r fath.
Efallai ichi sylwi mai 'Cymru-Newydd' a elwir y wlad newydd sydd wedi
ei sefydlu o fewn yr Ewro-Reich newydd.
Mae'r dychan wrth gwrs yn eithaf amlwg i'w weld yma ond y rheswm dros
y newid enw hwn yn y stori yw bod y Nats茂aid wedi tocio rhyw ychydig
ar ein tiriogaeth, galw'r Cymru alltud i gyd yn 么l i'r famwlad a chael
gwared ar bawb nad ydyn nhw'n Gymry o'r wlad.
Yn ogystal 芒 hynny, adeilada'r Brotectoriaeth Ffasgaidd wal enfawr
yn amgylchynu'r wlad newydd sydd dim ond yn cynnwys, Machynlleth,
Dolgellau a Llanidloes o fewn ei ffiniau gyda'r senedd yn 么l ym Machynlleth.
Dyma roi syniad o wir fwriad Hitler gyda'r Cymru, ond rhaid darllen
y llyfr er mwyn gwybod ei rhesymau dros wneud hyn.
Ymateb i refferendwm 1999
Ymateb y mae'r llyfr hwn i fuddugoliaeth yr ymgyrch 'Ie Dros Gymru'
yn y refferendwm ar Fedi'r 18fed, 1999, ond mewn modd difyr a gwreiddiol
iawn.
Pwysleisir mai dim ond mesur "chwerthinllyd a dirmygus" fel y byddai
Llywelyn Parry-Morris yn ei ddweud, ond bod y potensial gyda ni ac
fel y mae Hitler yn ei ddweud (mae'n debyg), "mae ffawd yn ein dwylo
ni".
Mae'r nofel hon yn addas i'r cenedlaetholwyr a'r gwleidyddion yn ein
plith, yn Gymry ac yn Brydeinwyr a hefyd i'r rhai ohonoch sydd ond
am ddianc am ennyd i fyd ffantasi rhag straen a strach bywyd a chael
anghofio am y cyfan heb orfod edrych o dan yr wyneb am yr ystyron
dyfnach.
|
|
|