|
|
Llyfr
difyr sydd werth pob dimai
Casgliad o ysgrifau rhoi cipolwg ar fywyd trigolion bro'r Bedol
ddiwedd y 19eg ganrif.
Dydd Iau, Hydref 4, 2001
|
Pobol sy'n Cyfri, Hafina Clwyd
Gwasg Carreg Gwalch, £10
a hanner
Adolygiad Dafydd Mei
Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen rhyw lawer i ddarllen y llyfr hwn.
Mae o'n lyfr tew ac mae'n s么n am ardal nad oes gen gysylltiad o gwbwl
芒 hi (neu dyna oeddwn i'n ei gredu).
Casgliad o ysgrifau - wedi'u hymhelaethu - a ymddangosodd gyntaf ym
mhapur bro'r Bedol ydy'r rhain a s么n am ardaloedd yn nalgylch
y papur hwnnw y mae'r llyfr.
Fel ymhob llyfr o'r fath mae yma restrau o enwau a dyddiadau a llefydd,
ond dydy'r rhestrau yma ddim yn fwrn.
Dilyn sawl sgwarnog
Dilyna'r awdur nifer o sgwarnogod ond nid 芒'n rhy bell ar eu holau
ac mae'n dychwelyd yn daclus i gario mlaen 芒'r stori.
Wrth gwrs mae'r bobol a enwir yn y llyfr o ddiddordeb mawr i bobol
yr ardal, ond mae rhai enwau'n gyfarwydd i bobol drwy Gymru - Llwyd
o'r Bryn a Gerallt Lloyd Owen (eu hynafiaid wedi bod o flaen eu 'gwell'
adeg Rhyfel y Degwm), Mici Plwm, Dylan Iorwerth, Arglwydd Crughywel
a Gruff Rhys a Guto Pryce o'r Super Furry Animals. Ac ymysg y rhai
sydd ganddyn nhw gysylltiad trwy briodas 芒'r ardal mae Tecwyn Ifan,
Kevin Davies Radio Cymru a Jenny Ogwen.
Wrth gwrs mae yna sawl cyfeiriad at weinidogion a blaenoriaid; ond
mae yma hefyd s么n am rai llai 'parchus'.
Rhai fel Richard Roberts, Pant Tywyll, "a hoffai lymaid yn awr ac
yn y man ac os digwyddai yfed mwy na'i arfer taflai ei het i'r ty
yn gyntaf. Os byddai'r het yn cael aros yn y ty gwyddai Richard y
c芒i fynd i mewn ond os byddai'n dod yn 么l fel bwmerang gwyddai ei
fod mewn helynt a'i fam fel draenog".
Nifer o straeon difyr
Ac yn wir mae nifer o straeon bach difyr drwy'r llyfr. Honno am Edward
Phillips, Glanllyn, a eisteddodd "o dan goeden ar lechwedd Penarth
un diwrnod yn y gwanwyn pan ganodd y gog uwch ei ben. Penderfynodd
agor chwarel yn yr union fan ac erbyn 1870 yr oedd hi wedi agor a
chynifer 芒 thri chant yn gweithio ynddi".
A beth am hon? Mary Ann Thomas - ei thaid Thomas Coslett Thomas o
Lanfihangel Glyn Myfyr - a agorodd y gwesty cyntaf yn Y Gaiman, Patagonia.
Un a fu'n aros yno oedd Butch Cassidy a "adawodd ferlen yn anrheg
am ei fod wedi mwynhau'r bara brith gymaint"!
Trueni na fyddai mynegai i'r llyfr gan fod yma gymaint o wybodaeth.
Ac i rai fel fi - sydd ddim yn adnabod yr ardal mor dda 芒 hynny -
mi fuasai map yn help garw.
Trueni hefyd na fyddai gan bob ardal rhywun mor ddiwyd a gwybodus
芒 Hafina Clwyd.
Ydy mae o'n lyfr tew, ac yn werth pob dimai o'r ddecpunt. Ac oes,
mae yna gyfeiriad at un o'm hynafiaid i yn y llyfr hefyd.....
|
|
|