|
|
Achos
sy'n staen ar gyfiawnder
Llyfr gan newyddiadurwr yn sôn am achos cynllwynio yn
1983.
Dydd Iau, Hydref 18, 2001
|
Achos y Bomiau Bach, gol Lyn Ebenezer
Gwasg Carreg Gwalch, £3.99
Adolygiad Glyn Evans
Ar ddalen gyntaf y llyfr yma am achos cynllwynio yn ôl yn 1983
y mae鈥檙 awdur, Ioan Roberts, yn holi pa hawl oedd ganddo ef fel gohebydd
yn y llys i edrych ymlaen gymaint at ei ddiwrnod gwaith yn ystod naw
wythnos yr achos.A dyfodol wyth o bobol a鈥檜 teuluoedd gymaint yn y
fantol.
Mae鈥檔 debyg y dylwn inna hefyd holi faint o hawl oedd gen i i ddisgwyl
mwynhad o lyfr yn trafod yr holl fusnes hyll.
Ond mi gefais i.
Mae鈥檙 llyfr hwn yn gafael o鈥檌 ddalen gyntaf.
Wedi dweud hynny, mae鈥檔 debyg y dylwn i gyhoeddi diddordeb.Mi fuo
Ioan a minnau yn cydweithio am rai blynyddoedd yn ohebwyr ar Y
Cymro ac mi rydan ni鈥檔 ffrindia.
Dawn arbennig
Ond dydi hynny ddim yn fy ngwneud i鈥檔 rhagfarnllyd a daw yn amlwg
o鈥檙 cychwyn cyntaf i unrhyw un fod gan Ioan ddawn arbennig ar gyfer
sgrifennu'r math yma o lyfr.
Mae鈥檙 arddull yn llyfn, yn rhugl ac yn llifo o ddalen i ddalen fel
y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan newyddiadurwr da.
Er ond yn gyfrol fer, cant a phedwar o dudalennau, y mae hon yn gyfrol
bwysig achos ei bod hi'n darlunio sut y gallodd yr awdurdodau ddefnyddio
deddf gwlad i danseilio hanfod canolog y system gyfreithiol - nad
ydych chi鈥檔 mynd ati i gosbi neb nes ei gael yn euog a鈥檆h bod chi鈥檔
ddi-euog nes y gellir profi鈥檔 wahanol.
Yn yr achos hwn yr oedd gynno chi griw o bobol mewn llys oherwydd
pethau roeddan nhw鈥檔 eu credu a鈥檜 dweud yn hytrach na beth roeddan
nhw wedi ei wneud.
Ar ben hynny, mi dreuliodd pobol ddieuog fisoedd yng ngharchar cyn
hyd yn oed gyrraedd y llys a oedd i wrando ar yr achos yn eu herbyn.
Testun dadlau cyfreithiol
"Byddai rhywun yn disgwyl i bennod am fywyd mewn carchar ddod ar 么l
disgrifiad o鈥檙 achos llys oedd wedi anfon pobl yno. Yn y drefn arall
y digwyddodd pethau yn yr achos hwn, ac mae鈥檙 cyfnodau hir a dreuliodd
y diffinyddion dan glo cyn cyrraedd llys yn dal yn destun dadlau cyfreithiol
ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach," meddai Ioan Roberts.
"Roedd y rhai a gafwyd yn ddieuog wedi bod yn y carchar am hyd at
naw mis a hanner cyn cael mechniaeth, ac un a gafwyd yn euog o rai
troseddau wedi bod dan glo am un mis ar hugain cyn cael ei ddedfrydu,"
ychweanega.
Yr oedd yr achos hwn yn staen ar gyfiawnder. Does dim amheuaeth am
hynny a daw hynny yn eglur iawn yn y llyfr hwn.
Plismyn anonest
Meddai鈥檙 Athro Phil Thomas o Brifysgol Caerdydd yn y llyfr: "Yn anffodus
i鈥檙 bobl ifanc yn yr achos fe aethon nhw i afael plismyn anonest oedd
yn teimlo y byddai dal unrhyw un yn gwneud y tro."
Ac mae鈥檙 holl gwestiwn o gyhuddo pobl o gynllwynio hefyd -
mi gawsom ni lawer o hynny yn erbyn Cymry yn ystod y chwech, saith
ac wythdegau oherwydd ei fod yn gyhuddiad mor gyfleus o safbwynt y
meini prawf o safbwynt yr erlyniad.
Blwyddyn ar 么l yr achos hwn pasiwyd y ddeddf Police and Criminal
Evidence a鈥檌 gwnaeth yn orfodol i recordio cyfweliadau gyda鈥檙
heddlu - byddai eu hachos hwy wedi bod yn un tra gwahanol pe byddai鈥檙
ddeddf honno ar y llyfrau ynghynt.
Mae鈥檙 pwynt yn cael ei wneud mai un peth a arbedodd rai o鈥檙 diffinyddion
oedd i鈥檞 hachos gael ei wrando gerbron rheithwyr.
Brawychus, felly, yw meddwl fod yr hawl hwnnw dan fygythiad ar hyn
o bryd!
|
|
|