|
|
Bwlio,
cariad a chreulondeb y byd modern
Cyfrol o gerddi i blant a phobl ifanc sy'n cynnwys lluniau lliwgar
Dydd Iau, Hydref 18, 2001
|
Poeth, golygwyd gan Non ap Emlyn
Cyhoeddwyd gan Y Lolfa
Adolygiad Beryl Llywelyn-Jones
Yn y gyfrol hon ceir bron i gant o gerddi ar gyfer pobl ifanc gyda
thrawsdoriad o themâu, yn sôn am wahanol agweddau o fywyd unigolion
yn eu harddegau.
Ceir cerddi gan feirdd adnabyddus yng Nghymru yn ogystal â rhai gan
bobl ifanc.
Cymherir y gyfrol â Sbectol Inc gan fod gan y ddwy gyfrol
eirfa ar waelod pob tudalen ac felly wedi eu hanelu at ddysgwyr.
Dywed Garmon Gruffudd o wasg y Lolfa;
"Bydd yr eirfa yn ei gwneud hi'n haws i ddysgwyr ddeall y cerddi ond
dwi'n credu bydd y llyfr yn llwyddo hefyd fel cyflwyniad i farddoniaeth
Gymraeg i siaradwyr Cymraeg rhugl".
Cyfrol fydd yn tynnu sylw
Yn sicr, bydd y gyfrol hon yn llwyddo'n gyfan gwbl i dynnu sylw pobl
ifanc, dysgwyr ac oedolion.
Dywed Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol, yn eu datganiad i'r wasg mai cyfrol
i "annog pobl ifanc i werthfawrogi barddoniaeth Gymraeg" yw Poeth.
Yn hyn o beth mae'r gyfrol yn llwyddo o'r eiliad y gwelwch y clawr
lliwgar a'r lluniau diddorol ar y tudalennau i
gyd-fynd â phob un o'r cerddi.
Mae'r lluniau yn rhoi crynhoad gweledol o'r hyn sydd yn y cerddi.
Dyma waith trawiadol nifer o artistiaid yng Nghymru a'r dylunydd Marian
Delyth.
Nid yn unig ceir lluniau i ddangos cynnwys y cerddi ond hefyd mae
nifer fawr o'r cerddi'n rhoi darlun lliwgar o'r hyn maent yn ei ddisgrifio.
Mae'r gerdd Cerdd tân gwyllt gan Kathy Griffiths yn enghraifft
sy'n rhoi disgrifiad cyffrous a lliwgar o noson tân gwyllt;
Fflamau yn tasgu i bob man,
Yr awyr fel sbloets lliwgar wedi ei beintio gan blentyn bach
Cysgodion yn cropian ar hyd y llawr,
Y tân fel nadredd lliwgar wedi cordeddu yn ei gilydd,
Wynebu problemau
Wrth ddarllen rhai o'r cerddi dwys gwelir rhai o'r problemau y mae
pobl ifanc yn gorfod eu hwynebu. Mae rhai o'r cerddi'n syml ac effeithiol
ond hefyd yn drist iawn.
Mae Gwynne Williams yn y gerdd Nhad yn sôn am deulu'n gwahanu.
Mae'r gerdd yn syml ac effeithiol tu hwnt wrth ddisgrifio amser swper
yn y ty;
Mae pedair o gadeiriau
O hyd o gylch y bwrdd
Ond does ond tri yn eistedd -
Mae Nhad 'di mynd i ffwrdd.
Thema arall bwysig a grybwyllir yw bwlio. Mae cerddi sy'n delio â'r
thema hon fel Edrych mewn drych gan Non Evans a Fo a Fi
gan Robat Powell yn llwyddo. Mae Edrych mewn drych yn dangos
y dioddef a'r unigrwydd a ddaw i rai sy'n cael ei bwlio tra mae Fo
a Fi yn dangos unigolyn yn gorchfygu ei ofnau ac yn herio'r bwli.
Mae'r gerdd Euogrwydd gan Gwynne Williams yn sôn am euogrwydd
plentyn wrth iddo ddweud celwydd wrth bobl sydd o'i gwmpas ond yn
y pennill olaf cawn wybod y rheswm y tu ôl i hyn;
Euogrwydd ydy dweud wrth bawb bod Dad yn dod yn ôl a bod Mam a
fi yn hapus.
Creulondeb y byd modern
Mae rhai o'r cerddi'n disgrifio'r creulondeb sydd yn y byd heddiw.
Sonnir am bynciau tywyll fel Sbwriel, llygredd, creulondeb
i anifeiliaid a bywyd y digartref a lladrata.
Mae Deg o elyrch gwynion gan Robin Llwyd ab Owain yn sôn am
elyrch, sef symbol o brydferthwch, yn cael eu lladd bob yn ddau oherwydd
llygredd.
Yn y gerdd Hawl? mae Gwilym Morus yn gofyn Pwy roddodd yr
hawl i ddyn lofruddio anifail am sbort?
Yn y gyfrol ceir cerddi traddodiadol a rhamantus ond mae'r fersiwn
modern ohonynt yn dangos elfen dywyll a chreulon o'r byd cyfoes.
Un ohonynt yw Ar Lan y Môr. Yma ceir fersiwn modern o'r gerdd
draddodiadol gan Mihangel Morgan;
Ar lan y môr, mae tuniau rhydlyd
Ar lan y môr, mae sbwriel hefyd,
Ar lan y môr, mae bagiau plastig,
Ac olew du ar garreg lithrig.
Yn yr un modd, ceir Heno, heno, hen blant bach. Yn y fersiwn
modern gan Gwyn Thomas, fodd bynnag, sonnir am;
Dau gwb deg oed yn torri i mewn i dy hen wraig.
Cerddi syml i ddifyrru plant
Er bod nifer o gerddi difrifol yn y gyfrol mae rhai sy'n ddoniol iawn.
Mae'r cerddi hyn yn syml a difyr ac fe fyddant yn sicr o ddifyrru
plant ac oedolion o bob oed. Ceir un gan Carys Jones o'r enw Bwyd
Od sy'n sôn am fwydydd tramor;
Bydd Dad yn iwsio chopsticks pren
I fwyta chow mein porc.
Bydd bwyd 'di mynd ar hyd y llawr
cyn iddo godi'i fforc!
Doniol iawn hefyd yw englynion Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd
am chwaraeon. Sonia Geraint Lovgreen am y;
dyn bach yn byw yn Hong Kong
oedd yn hoff iawn o chwarae ping-pong
Roedd yn ei chwarae heb fat na phêl ac yn ei chwarae fo'n rong.
Mae englyn Myrddin ap Dafydd yn sôn am 'hogyn o bentre bach Plwmp'
yn cael amser anffodus wrth 'seiclo' ac yn diweddu hefo 'lwmp'.
Cerddi doniol am yr ysgol
Mae nifer o gerddi doniol am yr ysgol, Jo Nainti (Gwynne Williams),
esgusodion i beidio gwneud gwaith cartref, Seibr Ofod (Aled
Lewis Evans), 'syniad gwefreiddiol' disgybl 'i godi pres yn y ffair'
yn Cais y Prifathro gan Elen Howells a phenderfyniadau'r Diwrnod
Cyntaf gan Elin ap Hywel.
Mae'r gyfrol yn rhoi sylw i nifer o bynciau sy'n effeithio pobl ifanc.
Un ohonynt yw'r Nadolig.
Mae cerdd ddoniol Fflur Enlli Scott yn sôn am y Nadolig fel 'Diwrnod
gorau'r flwyddyn!' tra mae cerddi fel Diffodd y golau gan Aled
Lewis Evans yn sôn am fwriad Duw 'pan dorrodd o'r cyflenwad trydan
Noswyl Nadolig'.
Mae 'fel petai'r gwir Nadolig yn ceisio cael cyfle i rannu'i genadwri'
drwy arbed y 'gwerthu' a'r pethau eraill sy'n gwbl amherthnasol i'w
wir ystyr.
Pwnc pwysig arall a sonnir amdano yw Cariad.
Cerddi'n sôn am gariad
Ceir dwy gerdd gan Gwion Hallam. Un doniol o'r enw Snog sy'n
sôn am fachgen a 'aiff am rywbeth … ond Gog!' ac un mwy difrifol o'r
enw Dim ond serch.
Mae'r gerdd Cariad gan Grahame Davies, fodd bynnag, yn sôn
am gariad addfwyn a thyner a geir a'r 'mwya i gyd o gariad ti'n roi,
mwy i gyd ti'n gael.'
Oherwydd bod bron i gant o gerddi yn y gyfrol, mae llawer gormod ohonynt
i roi barn a'r bob un.
Yn wir, mae'n ddifyr ac adloniadol iawn gydag apêl at bob oedran a
gyda'r lluniau lliwgar a'r farddoniaeth o safon, byddaf yn sicr yn
cynghori unrhyw un i'w brynu.
|
|
|